Pan ymgysurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidio ynof. Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr ARGLWYDD yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y’m digiasant â’u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr? Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig. Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i: galerais; daliodd synder fi. Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?
Darllen Jeremeia 8
Gwranda ar Jeremeia 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jeremeia 8:18-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos