Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 7:1-15

Jeremeia 7:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia: “Dos i sefyll wrth y giât i deml yr ARGLWYDD, a chyhoeddi’r neges yma: ‘Bobl Jwda, sy’n mynd i mewn drwy’r giatiau yma i addoli’r ARGLWYDD, gwrandwch! Mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud fod rhaid i chi ddechrau newid eich ffyrdd. Os gwnewch chi, cewch chi aros yn eich gwlad. Peidiwch credu’r twyll sy’n addo y byddwch chi’n saff wrth ddweud, “Teml yr ARGLWYDD ydy hon! Teml yr ARGLWYDD ydy hi! Teml yr ARGLWYDD!” “‘Rhaid i chi newid eich ffyrdd, dechrau trin pobl eraill yn deg, peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi’ch hunain! Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i’n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i’ch hynafiaid chi i’w chadw am byth bythoedd. “‘Ond dyma chi, yn credu’r celwydd fydd ddim help i chi yn y diwedd! Ydy’n iawn eich bod chi’n dwyn, llofruddio, godinebu, dweud celwydd ar lw, llosgi arogldarth i Baal, ac addoli eilun-dduwiau dych chi’n gwybod dim amdanyn nhw, ac wedyn yn dod i sefyll yn y deml yma – fy nheml i – a dweud, “Dŷn ni’n saff!”? Yna cario ymlaen i wneud yr holl bethau ffiaidd yna! Ydy’r deml yma – fy nheml i – wedi troi’n guddfan i ladron? Gwyliwch eich hunain! Dw i wedi gweld beth rydych chi’n wneud,’” meddai’r ARGLWYDD. “‘Ewch i Seilo, lle roeddwn i’n cael fy addoli o’r blaen. Ewch i weld beth wnes i yno, o achos yr holl bethau drwg wnaeth fy mhobl – pobl Israel. A nawr, dych chi’n gwneud yr un pethau!’” meddai’r ARGLWYDD. “‘Dw i wedi ceisio dweud wrthoch chi dro ar ôl tro, ond doeddech chi ddim am wrando. Rôn i’n galw arnoch chi, ond doeddech chi ddim am ateb. Felly, dw i’n mynd i ddelio gyda’r deml yma dych chi’n meddwl fydd yn eich cadw chi’n saff – ie, fy nheml i fy hun. Dw i’n mynd i ddelio gyda’r lle yma rois i i chi a’ch hynafiaid, yn union fel y gwnes i ddelio gyda Seilo! Dw i’n mynd i’ch gyrru chi o’m golwg i, yn union fel gwnes i yrru pobl Israel i ffwrdd.’”

Jeremeia 7:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD. “Saf ym mhorth tŷ'r ARGLWYDD, a chyhoedda yno y gair hwn: ‘Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda sy'n dod i'r pyrth hyn i addoli'r ARGLWYDD. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwnaf i chwi drigo yn y fan hon. Peidiwch ag ymddiried mewn geiriau celwyddog, a dweud, “Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD yw hon.” Os gwir wellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, os gwnewch farn yn gyson rhyngoch a'ch gilydd, a pheidio â gorthrymu'r dieithr, yr amddifad a'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y fan hon, na rhodio ar ôl duwiau eraill i'ch niwed eich hun, yna mi wnaf i chwi drigo yn y lle hwn, yn y wlad a roddais i'ch hynafiaid am byth. “ ‘Yr ydych yn ymddiried mewn geiriau celwyddog, heb fod ynddynt elw. Onid ydych yn lladrata, yn lladd, yn godinebu, yn tyngu llw celwyddog, yn arogldarthu i Baal, yn dilyn duwiau eraill nad ydych yn eu hadnabod? Eto yr ydych yn dod ac yn sefyll o'm blaen yn y tŷ hwn, y galwyd fy enw i arno, ac yn dweud, “Fe'n gwaredwyd er mwyn cyflawni'r holl ffieidd-dra hyn.” Ai lloches lladron yn eich golwg yw'r tŷ hwn, y gelwir fy enw i arno? Ond yr wyf finnau hefyd wedi gweld hyn, medd yr ARGLWYDD. “ ‘Ewch yn awr i'm cysegr yn Seilo, lle y gwneuthum i'm henw drigo ar y dechrau, ac edrychwch ar yr hyn a wneuthum yno oherwydd drygioni fy mhobl Israel. Yn awr, gan i chwi wneud yr holl bethau hyn, medd yr ARGLWYDD, mi lefaraf finnau wrthych; mi lefaraf yn daer, ond ni chlywch; mi alwaf arnoch, ond nid atebwch. Fel y gwneuthum i Seilo, felly y gwnaf i'r tŷ hwn y galwyd fy enw i arno ac yr ymddiriedwch chwithau ynddo; ie, y lle a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid. Taflaf chwi o'm gŵydd fel y teflais eich holl frodyr, holl ddisgynyddion Effraim.’

Jeremeia 7:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Saf di ym mhorth tŷ yr ARGLWYDD, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma. Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD ydynt. Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog; Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a’r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i’ch niwed eich hun; Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i’ch tadau chwi, yn oes oesoedd. Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les. Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogldarthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch; Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd-dra hyn oll? Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr ARGLWYDD. Eithr, atolwg, ewch i’m lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel. Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr ARGLWYDD, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch: Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo. A mi a’ch taflaf allan o’m golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim.