Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 7

7
Jeremeia yn Pregethu yn y Deml
1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD. 2“Saf ym mhorth tŷ'r ARGLWYDD, a chyhoedda yno y gair hwn: ‘Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda sy'n dod i'r pyrth hyn i addoli'r ARGLWYDD. 3Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwnaf i chwi drigo yn y fan hon. 4Peidiwch ag ymddiried mewn geiriau celwyddog, a dweud, “Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD yw hon.” 5Os gwir wellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, os gwnewch farn yn gyson rhyngoch a'ch gilydd, 6a pheidio â gorthrymu'r dieithr, yr amddifad a'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y fan hon, na rhodio ar ôl duwiau eraill i'ch niwed eich hun, 7yna mi wnaf i chwi drigo yn y lle hwn, yn y wlad a roddais i'ch hynafiaid am byth.
8“ ‘Yr ydych yn ymddiried mewn geiriau celwyddog, heb fod ynddynt elw. 9Onid ydych yn lladrata, yn lladd, yn godinebu, yn tyngu llw celwyddog, yn arogldarthu i Baal, yn dilyn duwiau eraill nad ydych yn eu hadnabod? 10Eto yr ydych yn dod ac yn sefyll o'm blaen yn y tŷ hwn, y galwyd fy enw i arno, ac yn dweud, “Fe'n gwaredwyd er mwyn cyflawni'r holl ffieidd-dra hyn.” 11Ai lloches lladron yn eich golwg yw'r tŷ hwn, y gelwir fy enw i arno? Ond yr wyf finnau hefyd wedi gweld hyn, medd yr ARGLWYDD.
12“ ‘Ewch yn awr i'm cysegr yn Seilo, lle y gwneuthum i'm henw drigo ar y dechrau, ac edrychwch ar yr hyn a wneuthum yno oherwydd drygioni fy mhobl Israel. 13Yn awr, gan i chwi wneud yr holl bethau hyn, medd yr ARGLWYDD, mi lefaraf finnau wrthych; mi lefaraf yn daer, ond ni chlywch; mi alwaf arnoch, ond nid atebwch. 14Fel y gwneuthum i Seilo, felly y gwnaf i'r tŷ hwn y galwyd fy enw i arno ac yr ymddiriedwch chwithau ynddo; ie, y lle a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid. 15Taflaf chwi o'm gŵydd fel y teflais eich holl frodyr, holl ddisgynyddion Effraim.’
16“Paid tithau â gweddïo dros y bobl hyn, na chodi na llais na gweddi drostynt, a phaid ag eiriol arnaf, oherwydd ni wrandawaf arnat. 17Oni weli'r hyn a wnânt yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem? 18Y mae'r plant yn casglu cynnud, y tadau yn cynnau tân, a'r gwragedd yn tylino toes i wneud teisennau i frenhines y nef; y maent yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, er mwyn fy nigio i. 19Ai myfi y maent yn ei ddigio?” medd yr ARGLWYDD. “Onid hwy eu hunain, i'w cywilydd eu hunain?” 20Am hyn fe ddywed yr ARGLWYDD Dduw, “Wele, tywelltir fy llid a'm dicter ar y lle hwn, ar ddyn ac ar anifail, ar bren y ddôl, ac ar ffrwyth y ddaear; bydd yn llosgi heb ddiffodd.” 21Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Chwanegwch eich poethoffrwm at eich aberthau; yna bwytewch y cig. 22Oherwydd ni ddywedais wrth eich hynafiaid, yn y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, na'u gorchymyn, ynghylch materion poethoffrwm ac aberth. 23Ond dyma'r gair a orchmynnais iddynt: ‘Gwrandewch ar fy llais, a byddaf yn Dduw i chwi, a byddwch chwithau'n bobl i mi; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnaf i chwi, iddi fod yn dda arnoch.’ 24Ond ni wrandawsant nac estyn clust, ond rhodio yn ôl eu barn eu hunain, ac yn ystyfnigrwydd eu calon ddrwg. Aethant yn ôl ac nid ymlaen. 25O'r dydd y daeth eich hynafiaid o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi anfonais atoch bob dydd fy ngweision y proffwydi; anfonais hwy yn gyson. 26Ond ni wrandawsant arnaf nac estyn clust, ond caledu gwar a gwneud yn waeth na'u hynafiaid. 27Lleferi wrthynt yr holl bethau hyn, ond ni wrandawant arnat; gelwi arnynt, ac ni'th atebant. 28A dywedi wrthynt, ‘Hon yw'r genedl a wrthododd wrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyniodd gerydd. Darfu am wirionedd; fe'i torrwyd ymaith o'u genau.’ 29Cneifia dy wallt, bwrw ef ymaith. Cyfod gwynfan ar yr uchel-leoedd; gwrthododd yr ARGLWYDD y genhedlaeth y digiodd wrthi, a bwriodd hi ymaith. 30Canys gwnaeth pobl Jwda ddrwg yn fy ngolwg,” medd yr ARGLWYDD, “trwy osod eu ffieidd-dra yn y tŷ y gelwir fy enw i arno, a'i halogi. 31Adeiladasant uchelfeydd i Toffet, sydd yn nyffryn Ben-hinnom, i losgi eu meibion a'u merched yn y tân. Ni orchmynnais hyn, ac ni ddaeth i'm meddwl. 32Am hynny fe ddaw y dyddiau,” medd yr ARGLWYDD, “nas gelwir mwyach yn Toffet nac yn ddyffryn Ben-hinnom, ond yn ddyffryn y lladdfa; a chleddir yn Toffet, o ddiffyg lle. 33Bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid y ddaear, ac ni bydd neb i'w gyrru i ffwrdd. 34A pharaf i bob llais ddistewi yn ninasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, llais llawen a llon, llais priodfab a phriodferch. Bydd y wlad yn ddiffeithwch.”

Dewis Presennol:

Jeremeia 7: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd