Jeremeia 5:22
Jeremeia 5:22 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Oes gynnoch chi ddim parch ata i?’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Ddylech chi ddim gwingo mewn ofn o mlaen i? Fi roddodd dywod ar y traeth fel ffin nad ydy’r môr i’w chroesi. Er bod y tonnau’n hyrddio, fyddan nhw ddim yn llwyddo; er eu bod nhw’n rhuo, ân nhw ddim heibio.
Jeremeia 5:22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Onid oes arnoch fy ofn i?’ medd yr ARGLWYDD. ‘Oni chrynwch o'm blaen? Mi osodais y tywod yn derfyn i'r môr, yn derfyn sicr na all ei groesi; pan ymgasgla'r tonnau ni thyciant, pan rua'r dyfroedd nid ânt drosto.
Jeremeia 5:22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Onid ofnwch chwi fi? medd yr ARGLWYDD: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?