Jeremeia 44:14-30
Jeremeia 44:14-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fydd neb o bobl Jwda oedd ar ôl ag a aeth i lawr i’r Aifft yn dianc. Maen nhw’n hiraethu am gael mynd yn ôl i wlad Jwda, ond gân nhw ddim – ar wahân i lond dwrn o ffoaduriaid.’” Dyma’r dynion oedd yn gwybod bod eu gwragedd wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a’r gwragedd oedd yno hefyd, yn ateb Jeremeia. (Roedd tyrfa fawr ohonyn nhw – sef pobl Jwda oedd yn byw yn Pathros, de’r Aifft.) “Ti’n dweud dy fod ti’n siarad ar ran yr ARGLWYDD. Wel, dŷn ni ddim yn mynd i wrando arnat ti! Dŷn ni wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i’r dduwies ‘Brenhines y Nefoedd’. Roedd ein hynafiaid a’n brenhinoedd a’n harweinwyr yn gwneud hynny yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem, a bryd hynny roedd gynnon ni ddigon o fwyd, roedd pethau’n dda arnon ni a doedd dim trafferthion. Ond ers i ni stopio llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod iddi, dŷn ni wedi bod mewn angen – mae llawer o’n pobl ni wedi cael eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn.” A dyma’r gwragedd oedd yno’n dweud, “Mae’n wir ein bod ni wedi bod yn llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ond wyt ti’n meddwl ein bod ni wedi bod yn gwneud cacennau a thywallt offrwm o ddiod iddi heb fod ein gwŷr yn gwybod am y peth ac yn ein cefnogi?” A dyma Jeremeia yn eu hateb nhw, y dynion a’u gwragedd: “Wnaeth yr ARGLWYDD ddim anghofio’r arogldarth wnaethoch chi ei losgi i eilun-dduwiau ar strydoedd Jerwsalem. Roeddech chi a’ch hynafiaid, eich brenhinoedd a’ch swyddogion, a’r bobl gyffredin yn gwneud hynny. A doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu diodde’r holl ddrwg a’r pethau ffiaidd roeddech chi’n eu gwneud. Cafodd y wlad ei dinistrio a’i difetha’n llwyr ganddo. Cafodd ei gwneud yn esiampl o wlad wedi’i melltithio. Does neb yn byw yno heddiw. Am eich bod chi wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill, am eich bod chi wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod gwrando arno, am eich bod chi ddim wedi byw fel dysgodd e chi a chadw ei reolau a’i ddeddfau – dyna pam mae’r dinistr yma wedi digwydd.” Yna, dyma Jeremeia yn dweud fel hyn wrthyn nhw, yn arbennig y gwragedd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft. Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi’r gwragedd wedi gwneud yn union beth roeddech chi’n ei ddweud! Roeddech chi’n dweud eich bod chi wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ac mai dyna oeddech chi’n mynd i’w wneud. Iawn! Ewch ymlaen! Cadwch eich gair!’ Ond gwrandwch ar beth sydd gan yr ARGLWYDD i’w ddweud wrthoch chi: ‘Dw i wedi tyngu llw i’m henw mawr fy hun,’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Fydd neb o bobl Jwda sydd yn yr Aifft yn galw arna i na dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, ein Meistr, yn fyw …” Dw i’n gwylio, i wneud yn siŵr mai drwg fydd yn digwydd iddyn nhw, dim da. Byddan nhw’n cael eu lladd yn y rhyfel ac yn marw o newyn. Fydd neb ar ôl! Ychydig iawn iawn fydd yn llwyddo i ddianc rhag y cleddyf. Byddan nhw’n mynd yn ôl o’r Aifft i wlad Jwda. Bydd y bobl o Jwda ddaeth i fyw i wlad yr Aifft yn gwybod mai beth dw i’n ddweud sy’n wir, nid beth maen nhw’n ddweud! Byddwch chi’n gwybod wedyn fod y dinistr dw i’n ei fygwth yn mynd i ddigwydd. A dyma’r prawf fy mod i’n mynd i’ch cosbi chi,’ meddai’r ARGLWYDD: ‘Dw i’n mynd i roi Pharo Hoffra, brenin yr Aifft, yng ngafael y gelynion sydd eisiau ei ladd. Bydd yn union fel y gwnes i i Sedeceia, brenin Jwda, pan gafodd ei ddal gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, oedd am ei ladd e.’”
Jeremeia 44:14-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymysg gweddill Jwda, a ddaeth i aros yng ngwlad yr Aifft, ni fydd un yn dianc nac wedi ei adael i ddychwelyd i wlad Jwda, er iddynt ddyheu am gael dychwelyd i fyw yno. Ni ddychwelant yno, ar wahân i ffoaduriaid.’ ” Yna atebwyd Jeremeia gan y gwŷr a wyddai fod eu gwragedd yn arogldarthu i dduwiau eraill, a chan yr holl wragedd oedd yn sefyll gerllaw yn gynulleidfa fawr, a'r holl bobl oedd yn trigo yn Pathros yn yr Aifft. “Nid ydym am wrando arnat,” meddent, “yn y mater y lleferaist amdano wrthym yn enw'r ARGLWYDD. Yn hytrach, yr ydym am fynnu gwneud yn ôl pob addewid a wnaethom i ni ein hunain; yr ydym am arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi ddiodoffrwm, fel y gwnaethom o'r blaen yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, ni a'n hynafiaid, ein brenhinoedd a'n tywysogion. Yr oeddem yn cael digon o fara, a bu'n dda arnom, ac ni welsom ddrwg. Byth er yr adeg y peidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd a thywallt diodoffrwm iddi, bu arnom eisiau pob dim, ac fe'n dinistriwyd â'r cleddyf ac â newyn. Pan oeddem yn arogldarthu i frenhines y nefoedd ac yn tywallt diodoffrwm iddi, ai heb i'n gwŷr hefyd gymeradwyo y gwnaethom iddi deisennau ar ei llun, neu dywallt diodoffrwm iddi?” A dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl, yn wŷr ac yn wragedd, a oedd wedi rhoi iddo yr ateb hwn, “Onid yr arogldarthu a wnaethoch chwi a'ch hynafiaid, eich brenhinoedd a'ch tywysogion, a phobl y wlad yn ninasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem yw'r peth a gofiodd yr ARGLWYDD? Oni ddaeth hyn i'w feddwl? Ni allai'r ARGLWYDD oddef yn hwy eich gweithredoedd drwg, a'r ffieiddbeth a wnaethoch; a gwnaeth eich gwlad yn anghyfannedd, ac yn syndod ac yn felltith, heb breswylydd, fel y mae heddiw. Oherwydd ichwi arogldarthu, a phechu felly yn erbyn yr ARGLWYDD, ac am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD, na rhodio yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau na'i dystiolaethau, oherwydd hynny y digwyddodd yr aflwydd hwn i chwi, fel y gwelir heddiw.” Dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl a'r holl wragedd, “Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Gwnaethoch chwi a'ch gwragedd addewid â'ch genau, a'i chyflawni â'ch dwylo, gan ddweud, “Yr ydym am gyflawni'r addunedau a addunedwyd gennym i arogldarthu i frenhines y nef a thywallt diodoffrwm iddi.” Cyflawnwch, ynteu, eich addunedau, a thalwch hwy.’ Ond gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sy'n byw yng ngwlad yr Aifft. ‘Tyngais innau i'm henw mawr,’ medd yr ARGLWYDD, ‘na fydd f'enw mwyach ar wefus neb o bobl Jwda yn holl wlad yr Aifft, i ddweud, “Byw fyddo'r Arglwydd DDUW”. Dyma fi'n effro i ddwyn drygioni arnynt, ac nid daioni; difethir â'r cleddyf ac â newyn holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft, nes y bydd diwedd arnynt. A'r rhai a ddihanga rhag y cleddyf, dychwelant o wlad yr Aifft i dir Jwda yn ychydig o nifer; a chaiff holl weddill Jwda, a ddaeth i wlad yr Aifft i aros yno, ystyried gair pwy a saif, fy ngair i ynteu eu gair hwy.’ “ ‘Dyma'r arwydd i chwi,’ medd yr ARGLWYDD: ‘Cosbaf chwi yn y lle hwn er mwyn i chwi wybod fod fy ngeiriau'n sefyll yn gadarn yn eich erbyn er drwg.’ Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf fi'n rhoi Pharo Hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, a'r rhai sy'n ceisio'i einioes, fel y rhoddais Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, ei elyn a oedd yn ceisio'i einioes.’ ”
Jeremeia 44:14-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel na byddo un a ddihango, nac a adawer o weddill Jwda, y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aifft, i ddychwelyd i wlad Jwda, yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi; canys ni ddychwel ond y rhai a ddihangant. Yna yr holl wŷr y rhai a wyddent i’w gwragedd arogldarthu i dduwiau dieithr, a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno, cynulleidfa fawr, yr holl bobl y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, yn Pathros, a atebasant Jeremeia, gan ddywedyd, Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr ARGLWYDD, ni wrandawn ni arnat. Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi hi ddiodydd-offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhinoedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg. Ond er pan beidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac â thywallt diod-offrwm iddi hi, bu arnom eisiau pob dim: trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni. A phan oeddem ni yn arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod-offrwm iddi; ai heb ein gwŷr y gwnaethom ni iddi hi deisennau i’w haddoli hi, ac y tywalltasom ddiod-offrwm iddi? Yna Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl a’i hatebasant ef felly, gan ddywedyd, Oni chofiodd yr ARGLWYDD yr arogldarth a arogldarthasoch chwi yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, chwychwi a’ch tadau, eich brenhinoedd a’ch tywysogion, a phobl y wlad? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef? Fel na allai yr ARGLWYDD gyd-ddwyn yn hwy, o achos drygioni eich gweithredoedd, a chan y ffiaidd bethau a wnaethech: am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd, ac yn syndod, ac yn felltith, heb breswylydd, megis y gwelir y dydd hwn. Oherwydd i chwi arogldarthu, ac am i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD, ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau, nac yn ei dystiolaethau; am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel y gwelir heddiw. A Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, ac wrth yr holl wragedd, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, holl Jwda y rhai ydych yng ngwlad yr Aifft. Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, gan ddywedyd, Chwychwi a’ch gwragedd a lefarasoch â’ch genau, ac a gyflawnasoch â’ch dwylo, gan ddywedyd, Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom, am arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod-offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch. Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, holl Jwda y rhai sydd yn aros yng ngwlad yr Aifft; Wele, myfi a dyngais i’m henw mawr, medd yr ARGLWYDD, na elwir fy enw i mwyach, o fewn holl wlad yr Aifft yng ngenau un gŵr o Jwda, gan ddywedyd, Byw yw yr ARGLWYDD DDUW. Wele, mi a wyliaf arnynt hwy er niwed, ac nid er daioni: a holl wŷr Jwda, y rhai sydd yng ngwlad yr Aifft, a ddifethir â’r cleddyf, ac â newyn, hyd oni ddarfyddont. A’r rhai a ddihangant gan y cleddyf, ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda, fyddant ychydig o nifer: a holl weddill Jwda, y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno, a gânt wybod gair pwy a saif, ai yr eiddof fi, ai yr eiddynt hwy. A hyn fydd yn arwydd i chwi, medd yr ARGLWYDD, sef yr ymwelaf â chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i’ch erbyn chwi er niwed. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, myfi a roddaf Pharo-hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef, fel y rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn, a’r hwn oedd yn ceisio ei einioes.