Ymysg gweddill Jwda, a ddaeth i aros yng ngwlad yr Aifft, ni fydd un yn dianc nac wedi ei adael i ddychwelyd i wlad Jwda, er iddynt ddyheu am gael dychwelyd i fyw yno. Ni ddychwelant yno, ar wahân i ffoaduriaid.’ ”
Yna atebwyd Jeremeia gan y gwŷr a wyddai fod eu gwragedd yn arogldarthu i dduwiau eraill, a chan yr holl wragedd oedd yn sefyll gerllaw yn gynulleidfa fawr, a'r holl bobl oedd yn trigo yn Pathros yn yr Aifft. “Nid ydym am wrando arnat,” meddent, “yn y mater y lleferaist amdano wrthym yn enw'r ARGLWYDD. Yn hytrach, yr ydym am fynnu gwneud yn ôl pob addewid a wnaethom i ni ein hunain; yr ydym am arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi ddiodoffrwm, fel y gwnaethom o'r blaen yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, ni a'n hynafiaid, ein brenhinoedd a'n tywysogion. Yr oeddem yn cael digon o fara, a bu'n dda arnom, ac ni welsom ddrwg. Byth er yr adeg y peidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd a thywallt diodoffrwm iddi, bu arnom eisiau pob dim, ac fe'n dinistriwyd â'r cleddyf ac â newyn. Pan oeddem yn arogldarthu i frenhines y nefoedd ac yn tywallt diodoffrwm iddi, ai heb i'n gwŷr hefyd gymeradwyo y gwnaethom iddi deisennau ar ei llun, neu dywallt diodoffrwm iddi?” A dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl, yn wŷr ac yn wragedd, a oedd wedi rhoi iddo yr ateb hwn, “Onid yr arogldarthu a wnaethoch chwi a'ch hynafiaid, eich brenhinoedd a'ch tywysogion, a phobl y wlad yn ninasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem yw'r peth a gofiodd yr ARGLWYDD? Oni ddaeth hyn i'w feddwl? Ni allai'r ARGLWYDD oddef yn hwy eich gweithredoedd drwg, a'r ffieiddbeth a wnaethoch; a gwnaeth eich gwlad yn anghyfannedd, ac yn syndod ac yn felltith, heb breswylydd, fel y mae heddiw. Oherwydd ichwi arogldarthu, a phechu felly yn erbyn yr ARGLWYDD, ac am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD, na rhodio yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau na'i dystiolaethau, oherwydd hynny y digwyddodd yr aflwydd hwn i chwi, fel y gwelir heddiw.”
Dywedodd Jeremeia wrth yr holl bobl a'r holl wragedd, “Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Gwnaethoch chwi a'ch gwragedd addewid â'ch genau, a'i chyflawni â'ch dwylo, gan ddweud, “Yr ydym am gyflawni'r addunedau a addunedwyd gennym i arogldarthu i frenhines y nef a thywallt diodoffrwm iddi.” Cyflawnwch, ynteu, eich addunedau, a thalwch hwy.’ Ond gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl bobl Jwda sy'n byw yng ngwlad yr Aifft. ‘Tyngais innau i'm henw mawr,’ medd yr ARGLWYDD, ‘na fydd f'enw mwyach ar wefus neb o bobl Jwda yn holl wlad yr Aifft, i ddweud, “Byw fyddo'r Arglwydd DDUW”. Dyma fi'n effro i ddwyn drygioni arnynt, ac nid daioni; difethir â'r cleddyf ac â newyn holl bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft, nes y bydd diwedd arnynt. A'r rhai a ddihanga rhag y cleddyf, dychwelant o wlad yr Aifft i dir Jwda yn ychydig o nifer; a chaiff holl weddill Jwda, a ddaeth i wlad yr Aifft i aros yno, ystyried gair pwy a saif, fy ngair i ynteu eu gair hwy.’
“ ‘Dyma'r arwydd i chwi,’ medd yr ARGLWYDD: ‘Cosbaf chwi yn y lle hwn er mwyn i chwi wybod fod fy ngeiriau'n sefyll yn gadarn yn eich erbyn er drwg.’ Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf fi'n rhoi Pharo Hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, a'r rhai sy'n ceisio'i einioes, fel y rhoddais Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, ei elyn a oedd yn ceisio'i einioes.’ ”