Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 33:1-26

Jeremeia 33:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia yr ail waith (roedd yn dal yn gaeth yn iard y gwarchodlu ar y pryd): “Fi, yr ARGLWYDD, sy’n gwneud hyn. Dw i’n cyflawni beth dw i’n ei fwriadu. Yr ARGLWYDD ydy fy enw i. Galwa arna i, a bydda i’n ateb. Gwna i ddangos i ti bethau mawr cudd allet ti ddim eu gwybod ohonot dy hun. “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae tai’r ddinas yma a hyd yn oed y palasau brenhinol wedi’u chwalu i gael deunydd i amddiffyn rhag y rampiau gwarchae a’r ymosodiadau. Dych chi’n bwriadu ymladd y Babiloniaid, ond bydd y tai yma’n cael eu llenwi hefo cyrff marw. Dw i’n mynd i daro pobl y ddinas yma yn ffyrnig. Dw i wedi troi cefn arnyn nhw am eu bod nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg. “‘Ond bydda i’n iacháu’r ddinas yma eto. Dw i’n mynd i’w gwella hi a’i phobl, rhoi heddwch iddyn nhw a’u cadw nhw’n saff am byth. Bydda i’n rhoi popeth wnaeth Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i’n mynd i’w hadeiladu nhw eto, fel roedden nhw o’r blaen. Dw i’n mynd i’w glanhau nhw o’u holl bechodau yn fy erbyn i. Bydda i’n maddau eu pechodau a’u gwrthryfel yn fy erbyn i. Bydd y gwledydd i gyd yn clywed am y pethau da fydda i’n eu gwneud iddyn nhw. Bydd y ddinas yma’n fy ngwneud i’n enwog, ac yn dod ag anrhydedd a mawl i mi, am fy mod i wedi gwneud ei phobl hi mor llawen. Bydd y gwledydd wedi dychryn am fy mod i wedi gwneud cymaint o dda i’r ddinas ac wedi rhoi heddwch iddi.’” “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi’n dweud am y lle yma, “Mae’r wlad yma’n anialwch diffaith. Does dim pobl nac anifeiliaid yn byw yma.” Gwir! Yn fuan iawn bydd pentrefi Jwda a strydoedd Jerwsalem yn wag – fydd neb yn byw yma, a fydd dim anifeiliaid yma chwaith. Ac eto bydd sŵn pobl yn chwerthin ac yn joio a mwynhau eu hunain mewn parti priodas i’w glywed yma eto. A bydd sŵn pobl yn canu wrth fynd i’r deml i gyflwyno offrwm diolch i’r ARGLWYDD: “Diolchwch i’r ARGLWYDD hollbwerus. Mae e mor dda aton ni; mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Dw i’n mynd i roi’r cwbl oedd gan y wlad ar y dechrau yn ôl iddi,’ meddai’r ARGLWYDD. “Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Mae’n wir – bydd y lle yma’n adfeilion, heb bobl nac anifeiliaid yn byw yma. Ond yna ryw ddydd bydd bugeiliaid unwaith eto yn arwain eu praidd i orffwys yma. Bydd bugeiliaid yn cyfrif eu defaid wrth iddyn nhw fynd i’r gorlan yn y pentrefi i gyd, yn y bryniau a’r iseldir i’r gorllewin, yn y Negef i’r de, ar dir llwyth Benjamin, yn yr ardal o gwmpas Jerwsalem ac yn nhrefi Jwda i gyd. Fi, yr ARGLWYDD, sy’n dweud hyn. “‘Mae’r amser yn dod,’ meddai’r ARGLWYDD, ‘pan fydda i’n gwneud beth dw i wedi addo ei wneud i bobl Israel a Jwda. Bryd hynny, bydda i’n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy’n iawn. Bydd e’n gwneud beth sy’n gyfiawn ac yn deg yn y wlad. Bryd hynny bydd Jwda’n cael ei hachub, a bydd Jerwsalem yn saff. Bydd e’n cael ei alw, “Yr ARGLWYDD sy’n rhoi cyfiawnder i ni”.’ “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn eistedd ar orsedd Israel am byth. A bydd yna bob amser offeiriaid o lwyth Lefi yn sefyll o’m blaen i gyflwyno offrymau i’w llosgi, offrymau o rawn, ac aberthau.’” Yna dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i Jeremeia: “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Does neb yn gallu torri’r patrwm o nos a dydd yn dilyn ei gilydd mewn trefn. A’r un fath, does neb yn gallu torri’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud i Dafydd fy ngwas, sef y bydd un o’i ddisgynyddion yn frenin bob amser. A does neb yn gallu torri’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud i lwyth Lefi chwaith. Bydd cymaint o ddisgynyddion gan Dafydd fy ngwas, â’r rhai o lwyth Lefi sy’n fy ngwasanaethu i. Byddan nhw fel y sêr yn yr awyr neu’r tywod ar lan y môr – yn gwbl amhosib i’w cyfri!’” Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i Jeremeia: “Mae’n siŵr dy fod ti wedi clywed beth mae pobl yn ei ddweud – ‘Mae’r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau deulu wnaeth e ddewis!’ Does ganddyn nhw ddim parch at fy mhobl i. Dŷn nhw ddim yn eu hystyried nhw’n genedl ddim mwy. Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn addo hyn: dw i wedi gosod trefn i reoli dydd a nos, ac wedi gosod deddfau i’r awyr a’r ddaear. Dydy’r pethau yna byth yn mynd i gael eu newid. A’r un modd dw i ddim yn mynd i wrthod disgynyddion Jacob. Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn teyrnasu ar ddisgynyddion Abraham, Isaac a Jacob. Byddan nhw’n cael popeth maen nhw wedi’i golli yn ôl. Dw i’n mynd i ddangos trugaredd atyn nhw.”

Jeremeia 33:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth gair yr ARGLWYDD yr ail waith at Jeremeia tra oedd yn dal wedi ei gaethiwo yng nghyntedd y gwarchodlu, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, a wnaeth y ddaear, a'i llunio i'w sefydlu (yr ARGLWYDD yw ei enw): ‘Galw arnaf, ac atebaf di; mynegaf i ti bethau mawr a dirgel na wyddost amdanynt.’ Oblegid fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am dai'r ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y tai a dynnir i lawr oherwydd y cloddiau gwarchae, ac oherwydd y cleddyf: ‘Daw'r Caldeaid i ymladd, a'u llenwi â chelanedd y dynion a drawaf yn fy llid a'm digofaint; cuddiais fy wyneb oddi wrth y ddinas hon oherwydd eu holl ddrygioni. Dygaf iddi yn awr wellhad a meddyginiaeth; iachâf hwy, a dangos iddynt dymor o heddwch a diogelwch. Adferaf lwyddiant Jwda a llwyddiant Israel; adeiladaf hwy fel yn y dechreuad. Glanhaf hwy o'r holl ddrygioni a wnaethant yn f'erbyn, a maddeuaf yr holl gamweddau a wnaethant yn f'erbyn. Bydd y ddinas imi'n enw llawen, yn glod a gogoniant i holl genhedloedd y ddaear pan glywant am yr holl ddaioni a wnaf iddi; ac ofnant a chrynant oherwydd yr holl ddaioni a'r holl heddwch a wnaf iddi.’ “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y lle hwn, y dywedwch amdano ei fod wedi ei ddifodi, heb ddyn nac anifail; ac am ddinasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, sy'n ddiffeithle, heb bobl na phreswylwyr a heb anifail: ‘Clywir eto ynddynt sŵn gorfoledd a llawenydd, sain priodfab a sain priodferch, llais rhai'n dweud, “Molwch ARGLWYDD y Lluoedd, oherwydd da yw'r ARGLWYDD, oherwydd y mae ei gariad hyd byth.” A dygant offrwm diolch i dŷ'r ARGLWYDD; oherwydd adferaf eu llwyddiant yn y wlad fel yn y dechreuad,’ medd yr ARGLWYDD. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd eto yn y lle hwn sydd wedi ei ddifrodi, heb ddyn nac anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, fannau gorffwys i'r bugeiliaid a chorlannau i'r praidd. Yn ninasoedd y mynydd-dir a dinasoedd y Seffela a dinasoedd y Negef, yn nhiriogaeth Benjamin ac o amgylch Jerwsalem ac yn ninasoedd Jwda, bydd eto braidd yn symud trwy ddwylo'r sawl fydd yn rhifo,’ medd yr ARGLWYDD. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cyflawnaf y gair daionus a addewais i dŷ Israel ac i dŷ Jwda. Yn y dyddiau hynny, yn yr adeg honno, paraf i flaguryn cyfiawnder flaguro i Ddafydd, ac fe wna ef farn a chyfiawnder yn y wlad. Yn y dyddiau hynny achubir Jwda, a bydd Jerwsalem yn ddiogel, a dyma'r enw a roddir iddi: ‘Yr ARGLWYDD yw ein cyfiawnder.’ “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Ni fydd Dafydd byth heb ŵr yn eistedd ar orsedd tŷ Israel; ac ni fydd yr offeiriaid o Lefiaid byth heb ŵr yn fy ngŵydd yn offrymu poethoffrwm, ac yn offrymu bwydoffrwm, ac yn aberthu.’ ” Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Os gallwch ddiddymu fy nghyfamod â'r dydd, a'm cyfamod â'r nos, fel na bydd dydd na nos yn eu pryd, yna gellir diddymu fy nghyfamod â'm gwas Dafydd, fel na bydd iddo fab yn teyrnasu ar ei orsedd, a hefyd fy nghyfamod â'r offeiriaid o Lefiaid sy'n gweinyddu i mi. Fel na ellir cyfrif llu'r nefoedd na mesur tywod y môr, felly yr amlhaf epil fy ngwas Dafydd, a'r Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.’ ” Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud, “Oni sylwaist beth y mae'r bobl hyn yn ei lefaru, gan ddweud, ‘Y mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau dylwyth a ddewisodd’? Felly y dirmygant fy mhobl, ac nid ydynt mwyach yn genedl yn eu gŵydd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pan fydd fy nghyfamod â'r dydd a'r nos yn peidio â sefyll, a threfn y nefoedd a'r ddaear, yna gwrthodaf gymryd rhai o had Jacob, a'm gwas Dafydd, i lywodraethu ar had Abraham ac Isaac a Jacob. Adferaf hwy, a byddaf drugarog wrthynt.’ ”

Jeremeia 33:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gair yr ARGLWYDD hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD yr hwn a’i gwnaeth, yr ARGLWYDD yr hwn a’i lluniodd i’w sicrhau, yr ARGLWYDD yw ei enw: Galw arnaf, a mi a’th atebaf, ac a ddangosaf i ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf; Y maent yn dyfod i ymladd â’r Caldeaid, ond i’w llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt. Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a’u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd. A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad. A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn. A hyn fydd i mi yn enw llawenydd, yn glod ac yn ogoniant, o flaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,) Llef gorfoledd a llef llawenydd, llef y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch ARGLWYDD y lluoedd; oherwydd daionus yw yr ARGLWYDD, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr ARGLWYDD: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd. Yn ninasoedd y mynydd, yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr â defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr ARGLWYDD. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda. Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir. Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; a hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr ARGLWYDD ein cyfiawnder. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel. Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd-offrwm, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd. A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser; Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac â’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion. Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi. Hefyd, gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr ARGLWYDD, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os fy nghyfamod â’r dydd ac â’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear: Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.