Daeth gair yr ARGLWYDD yr ail waith at Jeremeia tra oedd yn dal wedi ei gaethiwo yng nghyntedd y gwarchodlu, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, a wnaeth y ddaear, a'i llunio i'w sefydlu (yr ARGLWYDD yw ei enw): ‘Galw arnaf, ac atebaf di; mynegaf i ti bethau mawr a dirgel na wyddost amdanynt.’ Oblegid fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am dai'r ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y tai a dynnir i lawr oherwydd y cloddiau gwarchae, ac oherwydd y cleddyf: ‘Daw'r Caldeaid i ymladd, a'u llenwi â chelanedd y dynion a drawaf yn fy llid a'm digofaint; cuddiais fy wyneb oddi wrth y ddinas hon oherwydd eu holl ddrygioni. Dygaf iddi yn awr wellhad a meddyginiaeth; iachâf hwy, a dangos iddynt dymor o heddwch a diogelwch. Adferaf lwyddiant Jwda a llwyddiant Israel; adeiladaf hwy fel yn y dechreuad. Glanhaf hwy o'r holl ddrygioni a wnaethant yn f'erbyn, a maddeuaf yr holl gamweddau a wnaethant yn f'erbyn. Bydd y ddinas imi'n enw llawen, yn glod a gogoniant i holl genhedloedd y ddaear pan glywant am yr holl ddaioni a wnaf iddi; ac ofnant a chrynant oherwydd yr holl ddaioni a'r holl heddwch a wnaf iddi.’
“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y lle hwn, y dywedwch amdano ei fod wedi ei ddifodi, heb ddyn nac anifail; ac am ddinasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, sy'n ddiffeithle, heb bobl na phreswylwyr a heb anifail: ‘Clywir eto ynddynt sŵn gorfoledd a llawenydd, sain priodfab a sain priodferch, llais rhai'n dweud,
“Molwch ARGLWYDD y Lluoedd,
oherwydd da yw'r ARGLWYDD,
oherwydd y mae ei gariad hyd byth.”
A dygant offrwm diolch i dŷ'r ARGLWYDD; oherwydd adferaf eu llwyddiant yn y wlad fel yn y dechreuad,’ medd yr ARGLWYDD.
“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd eto yn y lle hwn sydd wedi ei ddifrodi, heb ddyn nac anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, fannau gorffwys i'r bugeiliaid a chorlannau i'r praidd. Yn ninasoedd y mynydd-dir a dinasoedd y Seffela a dinasoedd y Negef, yn nhiriogaeth Benjamin ac o amgylch Jerwsalem ac yn ninasoedd Jwda, bydd eto braidd yn symud trwy ddwylo'r sawl fydd yn rhifo,’ medd yr ARGLWYDD.
“Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cyflawnaf y gair daionus a addewais i dŷ Israel ac i dŷ Jwda. Yn y dyddiau hynny, yn yr adeg honno, paraf i flaguryn cyfiawnder flaguro i Ddafydd, ac fe wna ef farn a chyfiawnder yn y wlad. Yn y dyddiau hynny achubir Jwda, a bydd Jerwsalem yn ddiogel, a dyma'r enw a roddir iddi: ‘Yr ARGLWYDD yw ein cyfiawnder.’
“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Ni fydd Dafydd byth heb ŵr yn eistedd ar orsedd tŷ Israel; ac ni fydd yr offeiriaid o Lefiaid byth heb ŵr yn fy ngŵydd yn offrymu poethoffrwm, ac yn offrymu bwydoffrwm, ac yn aberthu.’ ”
Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Os gallwch ddiddymu fy nghyfamod â'r dydd, a'm cyfamod â'r nos, fel na bydd dydd na nos yn eu pryd, yna gellir diddymu fy nghyfamod â'm gwas Dafydd, fel na bydd iddo fab yn teyrnasu ar ei orsedd, a hefyd fy nghyfamod â'r offeiriaid o Lefiaid sy'n gweinyddu i mi. Fel na ellir cyfrif llu'r nefoedd na mesur tywod y môr, felly yr amlhaf epil fy ngwas Dafydd, a'r Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.’ ”
Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud, “Oni sylwaist beth y mae'r bobl hyn yn ei lefaru, gan ddweud, ‘Y mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau dylwyth a ddewisodd’? Felly y dirmygant fy mhobl, ac nid ydynt mwyach yn genedl yn eu gŵydd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pan fydd fy nghyfamod â'r dydd a'r nos yn peidio â sefyll, a threfn y nefoedd a'r ddaear, yna gwrthodaf gymryd rhai o had Jacob, a'm gwas Dafydd, i lywodraethu ar had Abraham ac Isaac a Jacob. Adferaf hwy, a byddaf drugarog wrthynt.’ ”