Jeremeia 31:1-40
Jeremeia 31:1-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD, “fi fydd Duw pob llwyth yn Israel, a byddan nhw yn bobl i mi.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Cafodd pobl Israel osgoi’r cleddyf a profi ffafr Duw yn yr anialwch, wrth iddyn nhw chwilio am le i orffwys. Roedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo mewn gwlad bell, a dweud, ‘Mae fy nghariad i atat ti yn gariad sy’n para am byth, a dyna pam dw i wedi aros yn ffyddlon i ti. Bydda i’n dy ailadeiladu eto, o wyryf annwyl Israel! Byddi’n gafael yn dy dambwrîn eto, ac yn mynd allan i ddawnsio a joio. Byddi’n plannu gwinllannoedd ar fryniau Samaria unwaith eto. A’r rhai fydd yn eu plannu fydd yn cael mwynhau eu ffrwyth. Mae’r amser yn dod pan fydd y gwylwyr yn gweiddi ar fryniau Effraim: “Dewch! Gadewch i ni fynd i fyny i Seion i addoli’r ARGLWYDD ein Duw.”’” Ie, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Canwch yn llawen dros bobl Israel, a gweiddi o blaid y wlad bwysicaf. Gweiddi ac addoli gan ddweud, ‘Achub dy bobl, o ARGLWYDD, achub y rhai sydd ar ôl o Israel.’ ‘Ydw, dw i’n mynd i ddod â nhw o dir y gogledd; dw i’n mynd i’w casglu nhw o ben draw’r byd. Bydd pobl ddall a chloff yn dod gyda nhw, gwragedd beichiog hefyd, a’r rhai sydd ar fin cael plant. Bydd tyrfa fawr yn dod yn ôl yma. Byddan nhw’n dod yn eu dagrau, yn gweddïo wrth i mi eu harwain yn ôl. Bydda i’n eu harwain wrth ymyl afonydd o ddŵr ac ar hyd llwybrau gwastad lle fyddan nhw ddim yn baglu. Fi ydy tad Israel; Effraim ydy fy mab hynaf.’” Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi’r cenhedloedd i gyd, a’i chyhoeddi yn y gwledydd pell ar yr arfordir a’r ynysoedd: “Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth yrru pobl Israel ar chwâl, yn eu casglu eto ac yn gofalu amdanyn nhw fel bugail yn gofalu am ei braidd.” Mae’r ARGLWYDD yn mynd i ryddhau pobl Jacob. Bydd yn eu gollwng nhw’n rhydd o afael yr un wnaeth eu trechu nhw. Byddan nhw’n dod gan ganu’n frwd ar Fynydd Seion. Byddan nhw’n wên i gyd am fod yr ARGLWYDD mor dda. Mae’n rhoi ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd, ŵyn a lloi bach. Mae’n gwneud bywyd fel gardd hyfryd wedi’i dyfrio. Fyddan nhw byth yn teimlo’n llesg a blinedig eto. Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio’n llawen, a’r bechgyn ifanc a’r dynion hŷn yn dathlu gyda’i gilydd. Bydda i’n troi eu galar yn llawenydd. Bydda i’n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch. Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau, a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da, –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae cri i’w chlywed yn Rama, sŵn wylo chwerw a galaru mawr – Rachel yn crio am ei phlant. Mae’n gwrthod cael ei chysuro, am eu bod nhw wedi mynd.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Stopia grio. Paid colli mwy o ddagrau. Dw i’n mynd i roi gwobr i ti am dy waith. Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn. Mae gobaith i’r dyfodol,” meddai’r ARGLWYDD “Bydd dy blant yn dod yn ôl i’w gwlad eu hunain. Dw i wedi clywed pobl Effraim yn dweud yn drist, ‘Roedden ni’n wyllt fel tarw ifanc heb ei ddofi. Ti wedi’n disgyblu ni, a dŷn ni wedi dysgu’n gwers. Gad i ni ddod yn ôl i berthynas iawn hefo ti. Ti ydy’r ARGLWYDD ein Duw ni. Roedden ni wedi troi cefn arnat ti, ond bellach dŷn ni wedi troi’n ôl. Ar ôl gweld ein bai roedden ni wedi’n llethu gan alar am fod mor wirion! Roedd gynnon ni gywilydd go iawn am y ffordd roedden ni wedi ymddwyn pan oedden ni’n ifanc.’ ARGLWYDD Yn wir mae pobl Effraim yn dal yn blant i mi! Maen nhw’n blant annwyl yn fy ngolwg i. Er fy mod wedi gorfod eu ceryddu nhw, dw i’n dal yn eu caru nhw. Mae’r teimladau mor gryf yno i, alla i ddim peidio dangos trugaredd atyn nhw.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. O wyryf annwyl Israel! Cofia’r ffordd aethost ti. Gosod arwyddion, a chodi mynegbyst i ganfod y ffordd yn ôl. Tyrd yn ôl! Tyrd adre i dy drefi dy hun. Am faint wyt ti’n mynd i oedi, ferch anffyddlon? Mae’r ARGLWYDD yn creu rhywbeth newydd – mae fel benyw yn amddiffyn dyn! Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i’n mynd i roi’r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw, a byddan nhw’n dweud eto am Jerwsalem: ‘O fynydd cysegredig lle mae cyfiawnder yn byw, boed i’r ARGLWYDD dy fendithio di!’ Bydd pobl yn byw gyda’i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto. Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd. Bydda i’n rhoi diod i’r rhai sydd wedi blino, ac yn adfywio’r rhai sy’n teimlo’n llesg.” Yn sydyn dyma fi’n deffro ac yn edrych o’m cwmpas. Rôn i wedi bod yn cysgu’n braf! “Mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydd poblogaeth fawr a digonedd o anifeiliaid yn Israel a Jwda unwaith eto. Yn union fel roeddwn i’n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu tynnu o’r gwraidd a’u chwalu, eu dinistrio a’u bwrw i lawr, yn y dyfodol bydda i’n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu hadeiladu a’u plannu’n ddiogel,” meddai’r ARGLWYDD. “Bryd hynny fydd pobl ddim yn dweud pethau fel: ‘Mae’r rhieni wedi bwyta grawnwin surion ond y plant sy’n diodde’r blas drwg.’ Bydd pawb yn marw am ei bechod ei hun. Pwy bynnag sy’n bwyta’r grawnwin surion fydd yn diodde’r blas drwg.” “Mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydda i’n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda. Fydd hwn ddim yr un fath â’r un wnes i gyda’u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a’u harwain allan o’r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau’r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw. Dyma’r ymrwymiad fydda i’n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD: “Bydda i’n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a’r arweinwyr, am fy mod i’n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o’i le, ac yn anghofio’u pechodau am byth.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sydd wedi gosod trefn i’r haul roi golau’n y dydd a’r lleuad a’r sêr roi eu golau’n y nos, yr un sy’n corddi’r môr yn donnau mawr – yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e: “Byddai dileu pobl Israel fel cenedl yr un fath â chael gwared â threfn natur!” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae’n amhosib mesur yr awyr a’r gofod, neu archwilio sylfeini’r ddaear. Mae’r un mor amhosib i mi wrthod pobl Israel am bopeth drwg maen nhw wedi’i wneud,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydd dinas Jerwsalem yn cael ei hadeiladu i mi eto, o Dŵr Chanan-el i Giât y Gornel. Bydd ei ffiniau’n ymestyn i’r gorllewin at Fryn Gareb ac yna’n troi i’r de i lawr i Goath. Bydd hyd yn oed y dyffryn lle cafodd yr holl gyrff marw a’u lludw eu taflu, a’r holl gaeau i lawr at Ddyffryn Cidron yn y dwyrain at gornel Giât y Ceffylau, yn rhan o’r ddinas fydd wedi’i chysegru i’r ARGLWYDD. Fydd y ddinas ddim yn cael ei chwynnu na’i bwrw i lawr byth eto.”
Jeremeia 31:1-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yr adeg honno,” medd yr ARGLWYDD, “byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Cafodd y bobl a osgôdd y cleddyf ffafr yn yr anialwch; tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun. Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo. Cerais di â chariad diderfyn; am hynny parheais yn ffyddlon iti. Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu; cei ymdrwsio eto â'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns. Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria, a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth. Oherwydd daw dydd pan fydd gwylwyr ym Mynydd Effraim yn galw, ‘Codwch, dringwn i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.’ ” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Canwch orfoledd i Jacob, a chodwch gân i'r bennaf o'r cenhedloedd; cyhoeddwch, molwch a dywedwch, ‘Gwaredodd yr ARGLWYDD dy bobl, sef gweddill Israel.’ “Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd; gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd â'r hon sy'n esgor; yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma. Dônt dan wylo, ond arweiniaf fi hwy â thosturi, tywysaf hwy wrth ffrydiau dyfroedd ar ffordd union na faglant ynddi. Yr wyf yn dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafanedig. “Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd; cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud, ‘Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu; bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.’ Canys yr ARGLWYDD a waredodd Jacob, a'i achub o afael un trech nag ef. Dônt a chanu yn uchelder Seion; ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD, oherwydd yr ŷd a'r gwin a'r olew, ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg. A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach. Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns, a'r gwŷr ifainc a'r hen hefyd ynghyd; trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy; gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid. Diwallaf yr offeiriaid â braster, a digonir fy mhobl â'm daioni,” medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Clywir llef yn Rama, galarnad ac wylofain, Rachel yn wylo am ei phlant, yn gwrthod ei chysuro am ei phlant, oherwydd nad ydynt mwy.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau, oherwydd y mae elw i'th lafur,” medd yr ARGLWYDD; “dychwelant o wlad y gelyn. Y mae gobaith iti yn y diwedd,” medd yr ARGLWYDD; “fe ddychwel dy blant i'w bro eu hunain. Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno, ‘Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu; adfer fi, imi ddychwelyd, oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw. Wedi imi droi, bu edifar gennyf; wedi i mi ddysgu, trewais fy nghlun; cefais fy nghywilyddio a'm gwaradwyddo, gan ddwyn gwarth fy ieuenctid.’ “A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi? Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd. Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio â thrugarhau wrtho,” medd yr ARGLWYDD. “Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst, astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist; dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn. Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal? Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear, benyw yn amddiffyn gŵr.” Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant: ‘Bendithied yr ARGLWYDD di, gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.’ Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd, yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd; paraf wlychu llwnc y sychedig, a digoni pob un sydd yn nychu.” Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail. Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu,” medd yr ARGLWYDD. “Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach, ‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion, ond ar ddannedd y plant y mae dincod.’ Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt,” medd yr ARGLWYDD. “Ond dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD; “rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi. Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, ‘Adnebydd yr ARGLWYDD’; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd, a threfn y lleuad a'r sêr yn oleuni'r nos, sy'n cynhyrfu'r môr nes bod ei donnau'n rhuo (ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw): “Os cilia'r drefn hon o'm gŵydd,” medd yr ARGLWYDD, “yna bydd had Israel yn peidio hyd byth â bod yn genedl ger fy mron.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Pe gellid mesur y nefoedd fry, a chwilio sylfeini'r ddaear isod, gwrthodwn innau hefyd holl had Israel am yr holl bethau a wnaethant,” medd yr ARGLWYDD. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o dŵr Hananel hyd Borth y Gongl, a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn â hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath. A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth.”
Jeremeia 31:1-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y byddaf DDUW i holl deuluoedd Israel; a hwythau a fyddant bobl i mi. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf, a gafodd ffafr yn yr anialwch, pan euthum i beri llonyddwch iddo ef, sef i Israel. Er ys talm yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i mi, gan ddywedyd, A chariad tragwyddol y’th gerais: am hynny tynnais di â thrugaredd. Myfi a’th adeiladaf eto, a thi a adeiledir, O forwyn Israel: ymdrwsi eto â’th dympanau, ac a ei allan gyda’r chwaraeyddion dawns. Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a’u mwynhânt yn gyffredin. Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr ARGLWYDD ein DUW. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd: cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O ARGLWYDD, cadw dy bobl, gweddill Israel. Wele, mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a’r cloff, y feichiog a’r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma. Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf-anedig. Gwrandewch air yr ARGLWYDD, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a’i casgl ef, ac a’i ceidw fel bugail ei braidd. Oherwydd yr ARGLWYDD a waredodd Jacob, ac a’i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef. Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr ARGLWYDD, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a’r gwartheg: a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach. Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a’u diddanaf hwynt, ac a’u llawenychaf o’u tristwch. A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster, a’m pobl a ddigonir â’m daioni, medd yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am ei meibion, oherwydd nad oeddynt. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Atal dy lef rhag wylo, a’th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i’th lafur, medd yr ARGLWYDD; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn. Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr ARGLWYDD, y dychwel dy blant i’w bro eu hun. Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino â’r iau: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr ARGLWYDD fy NUW. Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid. Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr ARGLWYDD. Cyfod i ti arwyddion ffordd, gosod i ti garneddau uchel: gosod dy galon tua’r briffordd, y ffordd yr aethost: dychwel, forwyn Israel, dychwel i’th ddinasoedd hyn. Pa hyd yr ymgrwydri, O ferch wrthnysig? oblegid yr ARGLWYDD a greodd beth newydd ar y ddaear; Benyw a amgylcha ŵr. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda, ac yn ei dinasoedd, pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt; Yr ARGLWYDD a’th fendithio, trigfa cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd. Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda, ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd. Oherwydd yr enaid diffygiol a ddigonais, a phob enaid trist a lenwais. Ar hyn y deffroais, ac yr edrychais, a melys oedd fy hun gennyf. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail. Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr ARGLWYDD. Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod. Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a’r a fwytao rawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Jwda: Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr ARGLWYDD. Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt, ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn DDUW, a hwythau a fyddant yn bobl i mi. Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr ARGLWYDD: oherwydd hwynt-hwy oll o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a’m hadnabyddant, medd yr ARGLWYDD; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a’u pechod ni chofiaf mwyach. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a’r sêr yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y môr pan ruo ei donnau; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw: Os cilia y defodau hynny o’m gŵydd i, medd yr ARGLWYDD, yna had Israel a baid â bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod, a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod, minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel, am yr hyn oll a wnaethant hwy, medd yr ARGLWYDD. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr adeiledir y ddinas i’r ARGLWYDD, o dŵr Hananeel hyd borth y gongl. A’r llinyn mesur a â allan eto ar ei gyfer ef, ar fryn Gareb, ac a amgylcha hyd Goath. A holl ddyffryn y celaneddau, a’r lludw, a’r holl feysydd, hyd afon Cidron, hyd gongl porth y meirch tua’r dwyrain, a fydd sanctaidd i’r ARGLWYDD; nis diwreiddir, ac nis dinistrir mwyach byth.