“Yr adeg honno,” medd yr ARGLWYDD, “byddaf fi'n Dduw i holl deuluoedd Israel, a byddant hwy'n bobl i mi.”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Cafodd y bobl a osgôdd y cleddyf ffafr yn yr anialwch;
tramwyodd Israel i gael llonydd iddo'i hun.
Erstalwm ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo.
Cerais di â chariad diderfyn;
am hynny parheais yn ffyddlon iti.
Adeiladaf di drachefn, y wyryf Israel, a chei dy adeiladu;
cei ymdrwsio eto â'th dympanau, a mynd allan yn llawen i'r ddawns.
Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria,
a'r rhai sy'n plannu fydd yn cymryd y ffrwyth.
Oherwydd daw dydd pan fydd gwylwyr ym Mynydd Effraim yn galw,
‘Codwch, dringwn i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.’ ”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Canwch orfoledd i Jacob, a chodwch gân i'r bennaf o'r cenhedloedd;
cyhoeddwch, molwch a dywedwch,
‘Gwaredodd yr ARGLWYDD dy bobl, sef gweddill Israel.’
“Ie, dygaf hwy o dir y gogledd, casglaf hwy o bellafoedd byd;
gyda hwy daw'r dall a'r cloff, y feichiog ynghyd â'r hon sy'n esgor;
yn gynulliad mawr fe ddychwelant yma.
Dônt dan wylo, ond arweiniaf fi hwy â thosturi,
tywysaf hwy wrth ffrydiau dyfroedd
ar ffordd union na faglant ynddi.
Yr wyf yn dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafanedig.
“Clywch air yr ARGLWYDD, genhedloedd;
cyhoeddwch yn yr ynysoedd pell, a dweud,
‘Yr un a wasgarodd Israel fydd yn ei gasglu;
bydd yn gwylio drosto fel bugail dros ei braidd.’
Canys yr ARGLWYDD a waredodd Jacob,
a'i achub o afael un trech nag ef.
Dônt a chanu yn uchelder Seion;
ymddisgleiriant gan ddaioni'r ARGLWYDD,
oherwydd yr ŷd a'r gwin a'r olew,
ac oherwydd epil y defaid a'r gwartheg.
A bydd eu bywyd fel gardd ddyfradwy, heb ddim nychdod mwyach.
Yna fe lawenha'r ferch mewn dawns,
a'r gwŷr ifainc a'r hen hefyd ynghyd;
trof eu galar yn orfoledd a diddanaf hwy;
gwnaf eu llawenydd yn fwy na'u gofid.
Diwallaf yr offeiriaid â braster,
a digonir fy mhobl â'm daioni,” medd yr ARGLWYDD.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Clywir llef yn Rama,
galarnad ac wylofain,
Rachel yn wylo am ei phlant,
yn gwrthod ei chysuro am ei phlant,
oherwydd nad ydynt mwy.”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Paid ag wylo, ymatal rhag dagrau,
oherwydd y mae elw i'th lafur,” medd yr ARGLWYDD;
“dychwelant o wlad y gelyn.
Y mae gobaith iti yn y diwedd,” medd yr ARGLWYDD;
“fe ddychwel dy blant i'w bro eu hunain.
Gwrandewais yn astud ar Effraim yn cwyno,
‘Disgyblaist fi fel llo heb ei ddofi, a chymerais fy nisgyblu;
adfer fi, imi ddychwelyd,
oherwydd ti yw'r ARGLWYDD fy Nuw.
Wedi imi droi, bu edifar gennyf;
wedi i mi ddysgu, trewais fy nghlun;
cefais fy nghywilyddio a'm gwaradwyddo,
gan ddwyn gwarth fy ieuenctid.’
“A yw Effraim yn fab annwyl, ac yn blentyn hyfryd i mi?
Bob tro y llefaraf yn ei erbyn, parhaf i'w gofio o hyd.
Y mae fy enaid yn dyheu amdano, ni allaf beidio â thrugarhau wrtho,” medd yr ARGLWYDD.
“Cyfod iti arwyddion, gosod iti fynegbyst,
astudia'r ffordd yn fanwl, y briffordd a dramwyaist;
dychwel, wyryf Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.
Pa hyd y byddi'n ymdroi, ferch anwadal?
Y mae'r ARGLWYDD wedi creu peth newydd ar y ddaear,
benyw yn amddiffyn gŵr.”
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant:
‘Bendithied yr ARGLWYDD di,
gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.’
Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd,
yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd;
paraf wlychu llwnc y sychedig,
a digoni pob un sydd yn nychu.”
Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi.
“Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail. Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu,” medd yr ARGLWYDD. “Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach,
‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion,
ond ar ddannedd y plant y mae dincod.’
Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
“Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt,” medd yr ARGLWYDD. “Ond dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD; “rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi. Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, ‘Adnebydd yr ARGLWYDD’; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,
sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd,
a threfn y lleuad a'r sêr yn oleuni'r nos,
sy'n cynhyrfu'r môr nes bod ei donnau'n rhuo
(ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw):
“Os cilia'r drefn hon o'm gŵydd,” medd yr ARGLWYDD,
“yna bydd had Israel yn peidio hyd byth â bod yn genedl ger fy mron.”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Pe gellid mesur y nefoedd fry,
a chwilio sylfeini'r ddaear isod,
gwrthodwn innau hefyd holl had Israel
am yr holl bethau a wnaethant,” medd yr ARGLWYDD.
“Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o dŵr Hananel hyd Borth y Gongl, a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn â hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath. A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth.”