Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 30:1-24

Jeremeia 30:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Ysgrifenna'r holl eiriau a leferais wrthyt mewn llyfr, oherwydd y mae'r dyddiau yn dod,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yr adferaf lwyddiant i'm pobl Israel a Jwda,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a'u dychwelyd i'r wlad a roddais i'w hynafiaid; ac etifeddant hi.’ ” Dyma'r geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel ac am Jwda: “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Sŵn dychryn a glywsom; braw, ac nid heddwch. Gofynnwch yn awr, ac ystyriwch. A all gwryw esgor? Pam, ynteu, y gwelaf bob gŵr â'i ddwylo am ei lwynau fel gwraig wrth esgor, a phob un yn newid gwedd ac yn gwelwi? Canys dydd mawr yw hwnnw, heb ei debyg; dydd blin yw hwn i Jacob, ond gwaredir ef ohono. Yn y dydd hwnnw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘torraf ei iau ef oddi ar eu gwar, a drylliaf eu rhwymau; ac ni chaiff dieithriaid wneud gwas ohonynt mwy. Ond gwasanaethant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, y byddaf yn ei sefydlu iddynt. “ ‘A thithau, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,’ medd yr ARGLWYDD, ‘paid ag arswydo, Israel, canys achubaf di o bell, a'th epil o wlad eu caethiwed. Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn. Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,’ medd yr ARGLWYDD; ‘gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith, ond ni wnaf ddiwedd arnat ti. Ond ceryddaf di yn ôl dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.’ ” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn; nid oes neb i ddadlau dy achos; nid oes na moddion nac iachâd i'th ddolur. Y mae dy holl gariadon wedi dy anghofio; nid ydynt yn dy geisio; trewais di â dyrnod gelyn, â chosb greulon, oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau. Pam yr wyt yn llefain am dy glwy? Y mae dy ddolur yn anwelladwy. Oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau yr wyf wedi gwneud hyn i ti. “Am hynny ysir pawb sy'n dy ysu di; ac fe â pawb sy'n dy ormesu i gyd i gaethiwed. Bydd dy anrheithwyr yn anrhaith, a gwnaf dy holl ysbeilwyr yn ysbail. Oherwydd adferaf iechyd i ti, ac iachâf di o'th friwiau,” medd yr ARGLWYDD, “am iddynt dy alw yn ysgymun, Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Dyma fi'n adfer llwyddiant i bebyll Jacob, yn tosturio wrth ei anheddau. Cyfodir y ddinas ar ei charnedd, a saif y llys yn ei le. Daw allan ohonynt foliant a sain pobl yn gorfoleddu, amlhaf hwy, ac ni leihânt; anrhydeddaf hwy, ac nis bychenir. Bydd eu plant fel y buont gynt, a sefydlir eu cynulliad yn fy ngŵydd; cosbaf bob un a'u gorthryma. Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg; paraf iddo nesáu, ac fe ddaw ataf; canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?” medd yr ARGLWYDD. “A byddwch chwi'n bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.” Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig, corwynt yn chwyrlïo, yn troi uwchben y drygionus. Ni phaid digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes cwblhau ei gynlluniau a'u cyflawni; yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.

Jeremeia 30:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia: “Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i eisiau i ti ysgrifennu popeth dw i’n ei ddweud wrthot ti ar sgrôl. Mae’r amser yn dod,’ meddai’r ARGLWYDD, ‘pan fydda i’n rhoi’r cwbl wnaeth fy mhobl Israel a Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw. Dw i’n mynd i ddod â nhw’n ôl i’r wlad rois i i’w hynafiaid. Byddan nhw’n ei chymryd hi’n ôl eto.’” Dyma’r neges roddodd yr ARGLWYDD i mi am bobl Israel a Jwda. “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Sŵn pobl yn gweiddi mewn panig a dychryn sydd i’w glywed; does dim sôn am heddwch!’ Ond meddyliwch am hyn: ydy dyn yn gallu cael babi? Na? Felly pam dw i’n gweld y dynion cryf yma i gyd yn dal eu boliau fel gwraig yn cael babi? Pam mae eu hwynebau nhw i gyd yn wyn fel y galchen? O! Mae’n amser caled ofnadwy! Does erioed gyfnod tebyg wedi bod o’r blaen. Mae’n argyfwng ofnadwy ar bobl Jacob – ac eto byddan nhw yn cael eu hachub.” Yr ARGLWYDD hollbwerus sy’n dweud hyn, “Bryd hynny bydda i’n torri’r iau sydd ar eu gwar a dryllio’r rhaffau sy’n eu dal yn gaeth. Fydd pobl estron ddim yn feistri arnyn nhw o hynny ymlaen. Byddan nhw’n gwasanaethu’r ARGLWYDD eu Duw a’r un o linach Dafydd fydda i’n ei wneud yn frenin arnyn nhw.” “Felly, peidiwch bod ag ofn, bobl Jacob, fy ngweision,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Peidiwch anobeithio, bobl Israel. Dw i’n mynd i’ch achub chi a’ch plant o’r wlad bell lle buoch yn gaeth. Bydd pobl Jacob yn dod yn ôl adre ac yn mwynhau heddwch. Byddan nhw’n teimlo’n saff a fydd neb yn eu dychryn nhw. Dw i gyda chi, i’ch achub chi,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Dw i’n mynd i ddinistrio’r gwledydd hynny lle gwnes i eich gyrru chi ar chwâl, ond wna i ddim eich dinistrio chi. Ydw, dw i’n mynd i’ch disgyblu, ond dim ond faint dych chi’n ei haeddu; alla i ddim peidio’ch cosbi chi o gwbl.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Does dim modd gwella dy friwiau; ti wedi dy anafu’n ddifrifol. Does neb yn gallu dy helpu di. Does dim eli i wella’r dolur; does dim iachâd. Mae dy ‘gariadon’ i gyd wedi dy anghofio di. Dŷn nhw’n poeni dim amdanat ti! Dw i wedi dy daro di fel petawn i’n elyn; rwyt wedi diodde cosb greulon, am dy fod wedi bod mor ddrwg ac wedi pechu mor aml. Pam wyt ti’n cwyno am dy friwiau? Does dim modd gwella dy boen Dw i wedi gwneud hyn i gyd i ti am dy fod ti wedi bod mor ddrwg ac wedi pechu mor aml. Ond bydd y rhai wnaeth dy larpio di yn cael eu llarpio. Bydd dy elynion i gyd yn cael eu cymryd yn gaeth. Bydd y rhai wnaeth dy ysbeilio yn cael eu hysbeilio, a’r rhai wnaeth ddwyn dy drysorau yn colli popeth. Ydw, dw i’n mynd i dy iacháu di; dw i’n mynd i wella dy friwiau,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Roedden nhw’n dy alw di ‘yr un gafodd ei gwrthod’. ‘Does neb yn poeni am Seion,’ medden nhw.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i’n mynd i adfer tai pobl Jacob, a thosturio wrth eu teuluoedd. Bydd y ddinas yn cael ei chodi eto ar safle ei hadfeilion, a’r palas yn cael ei ailadeiladu lle roedd o’r blaen. Bydd canu mawl a diolch a sŵn pobl yn joio i’w clywed yn dod oddi yno. Bydda i’n gwneud i’w poblogaeth dyfu yn lle lleihau; bydda i’n eu hanrhydeddu yn lle eu bod yn cael eu bychanu. Bydd disgynyddion Jacob yn profi’r bendithion fel o’r blaen. Bydda i’n eu sefydlu nhw eto fel cymuned o bobl, a bydda i’n cosbi pawb sydd am eu gorthrymu nhw. Bydd eu harweinydd yn un o’u pobl eu hunain; bydd yr un sy’n eu rheoli yn dod o’u plith. Bydda i’n ei wahodd i ddod ata i, a bydd yn dod. Pwy fyddai’n mentro dod heb gael gwahoddiad?” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Byddwch chi’n bobl i mi, a bydda i’n Dduw i chi.” Gwyliwch chi! Mae’r ARGLWYDD yn ddig. Mae’n dod fel storm, fel corwynt dinistriol fydd yn disgyn ar y rhai drwg. Fydd llid ffyrnig yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae’n bwriadu ei wneud. Byddwch chi’n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.

Jeremeia 30:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd yr ARGLWYDD, DUW Israel, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr. Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr ARGLWYDD, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr ARGLWYDD: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau, a hwy a’i meddiannant hi. Dyma hefyd y geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel, ac am Jwda: Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef dychryn a glywsom ni, ofn, ac nid heddwch. Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a esgora gwryw; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr â’i ddwylo ar ei lwynau, fel gwraig wrth esgor, ac y trowyd yr holl wynebau yn lesni? Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo: amser blinder yw hwn i Jacob; ond efe a waredir ohono. Canys y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y torraf fi ei iau ef oddi ar dy war di, a mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach. Eithr hwy a wasanaethant yr ARGLWYDD eu DUW, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt. Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr ARGLWYDD; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a’th achubaf di o bell, a’th had o dir eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a gaiff lonydd, ac ni bydd a’i dychryno. Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr ARGLWYDD, i’th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn, ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd. Oblegid fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll. Nid oes a ddadleuo dy gŵyn, fel y’th iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti. Dy holl gariadau a’th anghofiasant: ni cheisiant mohonot ti; canys mi a’th drewais â dyrnod gelyn, sef â chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant. Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o’th bechodau y gwneuthum hyn i ti. Am hynny y rhai oll a’th ysant a ysir; a chwbl o’th holl elynion a ânt i gaethiwed; a’th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith, a’th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail. Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a’th iachâf di o’th friwiau, medd yr ARGLWYDD; oblegid hwy a’th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer. A moliant a â allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a’u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anaml; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael. Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf â’u holl orthrymwyr hwynt. A’u pendefigion fydd ohonynt eu hun, a’u llywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesáu, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi? medd yr ARGLWYDD. A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau. Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys. Ni ddychwel digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn.