Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD: “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Ysgrifenna'r holl eiriau a leferais wrthyt mewn llyfr, oherwydd y mae'r dyddiau yn dod,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yr adferaf lwyddiant i'm pobl Israel a Jwda,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a'u dychwelyd i'r wlad a roddais i'w hynafiaid; ac etifeddant hi.’ ”
Dyma'r geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel ac am Jwda: “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
‘Sŵn dychryn a glywsom; braw, ac nid heddwch.
Gofynnwch yn awr, ac ystyriwch. A all gwryw esgor?
Pam, ynteu, y gwelaf bob gŵr â'i ddwylo am ei lwynau fel gwraig wrth esgor,
a phob un yn newid gwedd ac yn gwelwi?
Canys dydd mawr yw hwnnw, heb ei debyg;
dydd blin yw hwn i Jacob, ond gwaredir ef ohono.
Yn y dydd hwnnw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘torraf ei iau ef oddi ar eu gwar, a drylliaf eu rhwymau; ac ni chaiff dieithriaid wneud gwas ohonynt mwy. Ond gwasanaethant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, y byddaf yn ei sefydlu iddynt.
“ ‘A thithau, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,’ medd yr ARGLWYDD,
‘paid ag arswydo, Israel,
canys achubaf di o bell, a'th epil o wlad eu caethiwed.
Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd; bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.
Oherwydd yr wyf gyda thi i'th achub,’ medd yr ARGLWYDD;
‘gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloedd y gwasgerais di yn eu plith,
ond ni wnaf ddiwedd arnat ti.
Ond ceryddaf di yn ôl dy haeddiant; ni'th adawaf yn gwbl ddi-gosb.’ ”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Y mae dy glwy'n anwelladwy a'th archoll yn ddwfn;
nid oes neb i ddadlau dy achos;
nid oes na moddion nac iachâd i'th ddolur.
Y mae dy holl gariadon wedi dy anghofio; nid ydynt yn dy geisio;
trewais di â dyrnod gelyn, â chosb greulon,
oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau.
Pam yr wyt yn llefain am dy glwy? Y mae dy ddolur yn anwelladwy.
Oherwydd maint dy ddrygioni ac amlder dy bechodau
yr wyf wedi gwneud hyn i ti.
“Am hynny ysir pawb sy'n dy ysu di; ac fe â pawb sy'n dy ormesu i gyd i gaethiwed.
Bydd dy anrheithwyr yn anrhaith, a gwnaf dy holl ysbeilwyr yn ysbail.
Oherwydd adferaf iechyd i ti, ac iachâf di o'th friwiau,” medd yr ARGLWYDD,
“am iddynt dy alw yn ysgymun,
Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani.”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Dyma fi'n adfer llwyddiant i bebyll Jacob,
yn tosturio wrth ei anheddau.
Cyfodir y ddinas ar ei charnedd,
a saif y llys yn ei le.
Daw allan ohonynt foliant a sain pobl yn gorfoleddu,
amlhaf hwy, ac ni leihânt; anrhydeddaf hwy, ac nis bychenir.
Bydd eu plant fel y buont gynt, a sefydlir eu cynulliad yn fy ngŵydd;
cosbaf bob un a'u gorthryma.
Bydd eu pendefig yn un o'u plith, a daw eu llywodraethwr allan o'u mysg;
paraf iddo nesáu, ac fe ddaw ataf;
canys pwy, o'i ewyllys ei hun, a faidd ddod ataf?” medd yr ARGLWYDD.
“A byddwch chwi'n bobl i mi, a minnau'n Dduw i chwi.”
Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig,
corwynt yn chwyrlïo, yn troi uwchben y drygionus.
Ni phaid digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes cwblhau ei gynlluniau a'u cyflawni;
yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn.