Jeremeia 28:15-16
Jeremeia 28:15-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma’r proffwyd Jeremeia yn dweud wrth Hananeia, “Gwranda, Hananeia. Dydy’r ARGLWYDD ddim wedi dy anfon di. Ti’n gwneud i’r bobl yma gredu celwydd! Felly, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mae hi ar ben arnat ti! Ti’n mynd i farw cyn diwedd y flwyddyn yma, am dy fod ti wedi annog pobl i wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.’”
Jeremeia 28:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, “Clyw yn awr, Hananeia! Nid anfonodd yr ARGLWYDD di; ond peraist i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf yn dy yrru di oddi ar wyneb y ddaear; o fewn blwyddyn byddi farw, oherwydd dysgaist wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.’ ”
Jeremeia 28:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr ARGLWYDD mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.