Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 28

28
Jeremeia yn condemnio Hananeia
1Yr un flwyddyn, ar ddechrau cyfnod Sedeceia fel brenin Jwda (sef pumed mis y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad), dyma Hananeia fab Asswr, y proffwyd o Gibeon, yn dweud wrth Jeremeia yn y deml o flaen yr offeiriaid a’r bobl i gyd: 2“Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i’n mynd i dorri iau brenin Babilon! 3Mewn llai na dwy flynedd dw i’n mynd i ddod â phopeth wnaeth Nebwchadnesar brenin Babilon ei gymryd o ma yn ôl. 4Dw i hefyd yn mynd i ddod â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn ôl, a phawb arall gafodd eu cymryd yn gaeth i Babilon.’ Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i’n mynd i dorri iau brenin Babilon.’”
5A dyma’r proffwyd Jeremeia yn ateb y proffwyd Hananeia, o flaen yr offeiriaid a phawb arall oedd yn y deml. 6“Amen! Boed i’r ARGLWYDD wneud hynny! Boed i’r ARGLWYDD ddod â dy broffwydoliaeth di’n wir! O na fyddai’n gwneud hynny, a dod â holl offer y deml yn ôl o Babilon, a’r bobl gafodd eu cymryd yno’n gaeth hefyd! 7Ond na, gwrando di nawr ar beth sydd gen i i’w ddweud wrthot ti a’r bobl yma i gyd. 8Ers amser maith mae’r proffwydi ddaeth o dy flaen di a fi wedi proffwydo fod rhyfel, trychinebau a heintiau yn mynd i daro llawer o wledydd a theyrnasoedd mawr. 9Os oedd proffwyd yn proffwydo y byddai popeth yn iawn, yr unig ffordd i wybod os oedd yr ARGLWYDD wedi’i anfon oedd pan fyddai ei neges yn dod yn wir.#Deuteronomium 18:22
10Yna dyma’r proffwyd Hananeia yn cymryd yr iau oddi ar war Jeremeia a’i thorri. 11A dyma Hananeia yn datgan o flaen pawb: “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mewn llai na dwy flynedd dw i’n mynd i dynnu iau Nebwchadnesar, brenin Babilon, oddi ar war y gwledydd i gyd, a’i thorri.’” Yna dyma’r proffwyd Jeremeia yn mynd i ffwrdd.
12Yn fuan ar ôl i Hananeia dorri’r iau oedd ar war Jeremeia, dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i Jeremeia: 13“Dos i ddweud wrth Hananeia fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Ti wedi torri’r iau bren dim ond i roi un haearn yn ei lle! 14Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i wedi rhoi iau haearn ar war y gwledydd yma i gyd. Bydd rhaid iddyn nhw wasanaethu Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt yn ei wasanaethu e!”’” 15Yna dyma’r proffwyd Jeremeia yn dweud wrth Hananeia, “Gwranda, Hananeia. Dydy’r ARGLWYDD ddim wedi dy anfon di. Ti’n gwneud i’r bobl yma gredu celwydd! 16Felly, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mae hi ar ben arnat ti! Ti’n mynd i farw cyn diwedd y flwyddyn yma, am dy fod ti wedi annog pobl i wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.’”
17A’r flwyddyn honno cyn pen deufis, roedd y proffwyd Hananeia wedi marw.

Dewis Presennol:

Jeremeia 28: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda