Jeremeia 23:23-32
Jeremeia 23:23-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai’r ARGLWYDD. “Onid fi ydy’r Duw sy’n gweld popeth o bell?” “Pwy sy’n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i ym mhobman drwy’r nefoedd a’r ddaear!” “Dw i wedi clywed beth mae’r proffwydi’n ei ddweud. Maen nhw’n honni siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw. Am faint mae’n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw’n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw’n twyllo’u hunain! Ydyn nhw’n mynd i newid rywbryd? Am faint maen nhw’n mynd i rannu eu breuddwydion gyda’i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli’r duw Baal. Gadewch i’r proffwyd gafodd freuddwyd ei rhannu fel breuddwyd. Ond dylai’r un dw i wedi rhoi neges iddo gyhoeddi’r neges yna’n ffyddlon.” “Allwch chi ddim cymharu’r gwellt gyda’r grawn!” meddai’r ARGLWYDD. “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,” meddai’r ARGLWYDD. “Mae fel gordd yn dryllio carreg.” “Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy’n dwyn y neges oddi ar ei gilydd,” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy’n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna’n honni, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud …’ Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai’r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy’n cyhoeddi’r celwydd maen nhw wedi’i ddychmygu. Maen nhw’n camarwain fy mhobl gyda’u celwyddau a’u honiadau anghyfrifol. Wnes i mo’u hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i’w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu’r bobl yma o gwbl,” meddai’r ARGLWYDD.
Jeremeia 23:23-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Onid Duw agos wyf fi,” medd yr ARGLWYDD, “ac nid Duw pell? A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?” medd yr ARGLWYDD. “Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?” medd yr ARGLWYDD. “Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, ‘Breuddwydiais, breuddwydiais!’ Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd—proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain? Bwriadant beri i'm pobl anghofio fy enw trwy adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall, fel y bu i'w hynafiaid anghofio fy enw o achos Baal. Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged ei freuddwyd, a'r hwn sydd â'm gair i ganddo, llefared fy ngair yn ffyddlon. Beth sy'n gyffredin rhwng gwellt a gwenith?” medd yr ARGLWYDD. “Onid yw fy ngair fel tân,” medd yr ARGLWYDD, “ac fel gordd sy'n dryllio'r graig? Am hynny, wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n lladrata fy ngeiriau oddi ar ei gilydd,” medd yr ARGLWYDD. “Wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n llunio geiriau ac yn eu cyhoeddi fel oracl,” medd yr ARGLWYDD. “Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl â'u hanwiredd a'u gwagedd,” medd yr ARGLWYDD. “Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wnânt ddim lles i'r bobl hyn,” medd yr ARGLWYDD.
Jeremeia 23:23-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ai DUW o agos ydwyf fi, medd yr ARGLWYDD, ac nid DUW o bell? A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr ARGLWYDD: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear? medd yr ARGLWYDD. Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais. Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt. Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal. Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a’r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr ARGLWYDD. Onid yw fy ngair i megis tân? medd yr ARGLWYDD; ac fel gordd yn dryllio’r graig? Am hynny wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr ARGLWYDD, y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau, bob un oddi ar ei gymydog. Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr ARGLWYDD, y rhai a lyfnhânt eu tafodau, ac a ddywedant, Efe a ddywedodd. Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog, medd yr ARGLWYDD, ac a’u mynegant, ac a hudant fy mhobl â’u celwyddau, ac â’u gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchymyn iddynt: am hynny ni wnânt ddim lles i’r bobl hyn, medd yr ARGLWYDD.