Jeremeia 1:9-14
Jeremeia 1:9-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn dyma’r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud, “Dyna ti. Dw i’n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di. Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd. Byddi’n tynnu o’r gwraidd ac yn chwalu, yn dinistrio ac yn bwrw i lawr, yn adeiladu ac yn plannu.” Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti’n weld?” A dyma fi’n ateb, “Dw i’n gweld cangen o goeden almon.” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i’n gwylio i wneud yn siŵr y bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir.” Yna’r ail waith dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti’n weld?” A dyma fi’n ateb, “Dw i’n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.” “Ie,” meddai’r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd.
Jeremeia 1:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau. Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd a thros y teyrnasoedd, i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr, i ddifetha ac i ddymchwelyd, i adeiladu ac i blannu.” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Jeremeia, beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld gwialen almon.” Atebodd yr ARGLWYDD, “Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio fy ngair i'w gyflawni.” A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, “Beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd.” A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “o'r gogledd yr ymarllwys dinistr dros holl drigolion y tir.
Jeremeia 1:9-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr estynnodd yr ARGLWYDD ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di. Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu. Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni. A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Mi a welaf grochan berwedig, a’i wyneb tua’r gogledd. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir.