Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 1

1
1. Bydd Duw yn cosbi Jwda
(1:1–12:17)
Cyflwyniad
1Neges Jeremeia, mab Chilceia, oedd yn offeiriad yn Anathoth#1:1 Anathoth Tref, neu bentref, oedd ryw dair milltir i’r gogledd-ddwyrain o Jerwsalem. (Ras el-Charwbe, sydd tua hanner milltir i’r de o Anata heddiw). (tref ar dir llwyth Benjamin). 2Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia#1:2 Joseia yn frenin o 640 i 609 cc. fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd.#2 Brenhinoedd 22:3–23:27; 2 Cronicl 34:8–35:19 3Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim,#1:3 Jehoiacim yn frenin o 609 i 598 cc. mab Joseia, yn frenin,#2 Brenhinoedd 23:36–24:7; 2 Cronicl 36:5-8 ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia#1:3 Sedeceia yn frenin o 598 i 587 cc. (mab arall Joseia) yn frenin.#2 Brenhinoedd 24:18–25:21; 2 Cronicl 36:11-21 Yn y pumed mis#1:3 pumed mis Af, sef pumed mis y calendr Hebreig, o tua canol Gorffennaf i ganol Awst. yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
Duw yn galw Jeremeia i fod yn broffwyd
4Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi:
5“Rôn i’n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth,
ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni,
a dy benodi di’n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.”
6“O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i. “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i’n rhy ifanc.” 7Ond dyma’r ARGLWYDD yn ateb,
“Paid dweud, ‘Dw i’n rhy ifanc.’
Byddi di’n mynd i ble dw i’n dy anfon di
ac yn dweud beth dw i’n ddweud wrthot ti.
8Paid bod ag ofn pobl,” meddai’r ARGLWYDD
“achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.”
9Wedyn dyma’r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud,
“Dyna ti. Dw i’n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di.
10Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw
a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd.
Byddi’n tynnu o’r gwraidd ac yn chwalu,
yn dinistrio ac yn bwrw i lawr,
yn adeiladu ac yn plannu.”
Dwy weledigaeth
11Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti’n weld?” A dyma fi’n ateb, “Dw i’n gweld cangen o goeden almon.”#1:11 coeden almon Hebraeg, shaced. Y goeden almon oedd yn gyntaf i flodeuo yn y gwanwyn. 12A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i’n gwylio#1:12 Hebraeg, shoced. i wneud yn siŵr y bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir.”
13Yna’r ail waith dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti’n weld?” A dyma fi’n ateb, “Dw i’n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.” 14“Ie,” meddai’r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd. 15Edrych, dw i’n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd.”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
“‘Byddan nhw’n gosod eu gorseddau
wrth giatiau Jerwsalem.
Byddan nhw’n ymosod ar y waliau o’i chwmpas,
ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’
16“Bydda i’n cyhoeddi’r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi’i wneud – sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi’u gwneud gyda’i dwylo eu hunain!
17“Ond ti, Jeremeia, bydd di’n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i’n ddweud wrthot ti. Paid bod â’u hofn nhw, neu bydda i’n dy ddychryn di o’u blaenau nhw. 18Ond heddiw dw i’n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi’n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a’i phobl. 19Byddan nhw’n trio dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai’r ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Jeremeia 1: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd