Jeremeia 1:7-10
Jeremeia 1:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â dweud, ‘Bachgen wyf fi’; oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt, a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag ofni o'u hachos, oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD. Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau. Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd a thros y teyrnasoedd, i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr, i ddifetha ac i ddymchwelyd, i adeiladu ac i blannu.”
Jeremeia 1:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Paid dweud, ‘Dw i’n rhy ifanc.’ Byddi di’n mynd i ble dw i’n dy anfon di ac yn dweud beth dw i’n ddweud wrthot ti. Paid bod ag ofn pobl,” meddai’r ARGLWYDD “achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.” Wedyn dyma’r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud, “Dyna ti. Dw i’n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di. Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd. Byddi’n tynnu o’r gwraidd ac yn chwalu, yn dinistrio ac yn bwrw i lawr, yn adeiladu ac yn plannu.”
Jeremeia 1:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi. Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr ARGLWYDD. Yna yr estynnodd yr ARGLWYDD ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di. Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.