Jeremeia 1:4-10
Jeremeia 1:4-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Rôn i’n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth, ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni, a dy benodi di’n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.” “O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i. “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i’n rhy ifanc.” Ond dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Paid dweud, ‘Dw i’n rhy ifanc.’ Byddi di’n mynd i ble dw i’n dy anfon di ac yn dweud beth dw i’n ddweud wrthot ti. Paid bod ag ofn pobl,” meddai’r ARGLWYDD “achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.” Wedyn dyma’r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud, “Dyna ti. Dw i’n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di. Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd. Byddi’n tynnu o’r gwraidd ac yn chwalu, yn dinistrio ac yn bwrw i lawr, yn adeiladu ac yn plannu.”
Jeremeia 1:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm; a chyn dy eni, fe'th gysegrais; rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd.” Dywedais innau, “O Arglwydd DDUW, ni wn pa fodd i lefaru, oherwydd bachgen wyf fi.” Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â dweud, ‘Bachgen wyf fi’; oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt, a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag ofni o'u hachos, oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD. Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau. Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd a thros y teyrnasoedd, i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr, i ddifetha ac i ddymchwelyd, i adeiladu ac i blannu.”
Jeremeia 1:4-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a’th adnabûm; a chyn dy ddyfod o’r groth, y sancteiddiais di; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd. Yna y dywedais, O Arglwydd DDUW, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi. Ond yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi. Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr ARGLWYDD. Yna yr estynnodd yr ARGLWYDD ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di. Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.