Jeremeia 1:1-3
Jeremeia 1:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Neges Jeremeia, mab Chilceia, oedd yn offeiriad yn Anathoth (tref ar dir llwyth Benjamin). Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd. Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim, mab Joseia, yn frenin, ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia (mab arall Joseia) yn frenin. Yn y pumed mis yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.
Jeremeia 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Geiriau Jeremeia fab Hilceia, un o'r offeiriaid oedd yn Anathoth, yn nhiriogaeth Benjamin. Ato ef y daeth gair yr ARGLWYDD yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad. Daeth hefyd yn ystod dyddiau Jehoiacim, mab Joseia brenin Jwda, a hyd ddiwedd yr un mlynedd ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia, mab Joseia brenin Jwda, sef hyd at gaethgludiad Jerwsalem yn y pumed mis.
Jeremeia 1:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Geiriau Jeremeia mab Hilceia, o’r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth, o fewn tir Benjamin: Yr hwn y daeth gair yr ARGLWYDD ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’i deyrnasiad ef. Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis.