Jeremeia 1:1-19
Jeremeia 1:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Neges Jeremeia, mab Chilceia, oedd yn offeiriad yn Anathoth (tref ar dir llwyth Benjamin). Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd. Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim, mab Joseia, yn frenin, ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia (mab arall Joseia) yn frenin. Yn y pumed mis yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Rôn i’n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth, ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni, a dy benodi di’n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.” “O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i. “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i’n rhy ifanc.” Ond dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Paid dweud, ‘Dw i’n rhy ifanc.’ Byddi di’n mynd i ble dw i’n dy anfon di ac yn dweud beth dw i’n ddweud wrthot ti. Paid bod ag ofn pobl,” meddai’r ARGLWYDD “achos dw i gyda ti i ofalu amdanat.” Wedyn dyma’r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud, “Dyna ti. Dw i’n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di. Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd. Byddi’n tynnu o’r gwraidd ac yn chwalu, yn dinistrio ac yn bwrw i lawr, yn adeiladu ac yn plannu.” Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti’n weld?” A dyma fi’n ateb, “Dw i’n gweld cangen o goeden almon.” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i’n gwylio i wneud yn siŵr y bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir.” Yna’r ail waith dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti’n weld?” A dyma fi’n ateb, “Dw i’n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.” “Ie,” meddai’r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd. Edrych, dw i’n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “‘Byddan nhw’n gosod eu gorseddau wrth giatiau Jerwsalem. Byddan nhw’n ymosod ar y waliau o’i chwmpas, ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’ “Bydda i’n cyhoeddi’r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi’i wneud – sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi’u gwneud gyda’i dwylo eu hunain! “Ond ti, Jeremeia, bydd di’n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i’n ddweud wrthot ti. Paid bod â’u hofn nhw, neu bydda i’n dy ddychryn di o’u blaenau nhw. Ond heddiw dw i’n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi’n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a’i phobl. Byddan nhw’n trio dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda ti yn edrych ar dy ôl,” meddai’r ARGLWYDD.
Jeremeia 1:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Geiriau Jeremeia fab Hilceia, un o'r offeiriaid oedd yn Anathoth, yn nhiriogaeth Benjamin. Ato ef y daeth gair yr ARGLWYDD yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad. Daeth hefyd yn ystod dyddiau Jehoiacim, mab Joseia brenin Jwda, a hyd ddiwedd yr un mlynedd ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia, mab Joseia brenin Jwda, sef hyd at gaethgludiad Jerwsalem yn y pumed mis. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm; a chyn dy eni, fe'th gysegrais; rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd.” Dywedais innau, “O Arglwydd DDUW, ni wn pa fodd i lefaru, oherwydd bachgen wyf fi.” Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â dweud, ‘Bachgen wyf fi’; oherwydd fe ei at bawb yr anfonaf di atynt, a llefaru pob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag ofni o'u hachos, oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD. Yna estynnodd yr ARGLWYDD ei law a chyffwrdd â'm genau; a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau. Edrych, fe'th osodais di heddiw dros y cenhedloedd a thros y teyrnasoedd, i ddiwreiddio ac i dynnu i lawr, i ddifetha ac i ddymchwelyd, i adeiladu ac i blannu.” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Jeremeia, beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld gwialen almon.” Atebodd yr ARGLWYDD, “Gwelaist yn gywir, oherwydd yr wyf fi'n gwylio fy ngair i'w gyflawni.” A daeth gair yr ARGLWYDD ataf yr eildro a dweud, “Beth a weli di?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld crochan yn berwi, a'i ogwydd o'r gogledd.” A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “o'r gogledd yr ymarllwys dinistr dros holl drigolion y tir. Oherwydd dyma fi'n galw holl deuluoedd teyrnas y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “a dônt a gosod bob un ei orsedd ar drothwy pyrth Jerwsalem, yn erbyn ei holl furiau o'u hamgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda; a thraethaf fy marnedigaeth arnynt am eu holl gamwedd yn cefnu arnaf fi, gan arogldarthu i dduwiau eraill, ac addoli gwaith eu dwylo eu hunain. “Torcha dithau dy wisg; cod a llefara wrthynt bob peth a orchmynnaf i ti. Paid ag arswydo o'u hachos, rhag i mi dy ddistrywio di o'u blaen. A rhof finnau di heddiw yn ddinas gaerog, yn golofn haearn ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda a'i thywysogion, ei hoffeiriaid a phobl y wlad. Ymladdant yn dy erbyn, ond ni'th orchfygant oherwydd yr wyf fi gyda thi i'th waredu,” medd yr ARGLWYDD.
Jeremeia 1:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Geiriau Jeremeia mab Hilceia, o’r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth, o fewn tir Benjamin: Yr hwn y daeth gair yr ARGLWYDD ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’i deyrnasiad ef. Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis. Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a’th adnabûm; a chyn dy ddyfod o’r groth, y sancteiddiais di; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd. Yna y dywedais, O Arglwydd DDUW, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi. Ond yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi. Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr ARGLWYDD. Yna yr estynnodd yr ARGLWYDD ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di. Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu. Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni. A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Mi a welaf grochan berwedig, a’i wyneb tua’r gogledd. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir. Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda. A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a’m gadawsant, ac a arogldarthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain. Am hynny gwregysa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti: na arswyda eu hwynebau, rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt. Canys wele, heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog, ac yn golofn haearn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir. Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr ARGLWYDD.