Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 7:1-25

Barnwyr 7:1-25 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Y bore wedyn, dyma Gideon a’i fyddin yn mynd allan a gwersylla wrth Ffynnon Charod. Roedd byddin Midian wedi gwersylla yn y dyffryn ychydig i’r gogledd, wrth ymyl Bryn More. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Mae gormod o ddynion yn dy fyddin di. Os gwna i adael i chi guro Midian, mae peryg i bobl Israel frolio mai nhw eu hunain wnaeth ennill y frwydr. Dwed wrth y dynion, ‘Os oes rhywun ag ofn, cewch droi’n ôl a gadael Mynydd Gilead.’” Aeth dau ddeg dau o filoedd adre, gan adael deg mil ar ôl. “Mae’r fyddin yn dal yn rhy fawr,” meddai’r ARGLWYDD. “Dos â nhw i lawr at y dŵr, a gwna i ddangos i ti pwy sydd i gael mynd gyda ti a phwy sydd ddim.” Felly dyma fe’n mynd â’r dynion i lawr at y dŵr. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Dw i eisiau i ti wahanu’r rhai sy’n llepian y dŵr fel mae ci’n gwneud oddi wrth y rhai sy’n mynd ar eu gliniau i yfed.” Tri chant oedd yn llepian y dŵr o gledr y llaw. Roedd y gweddill yn mynd ar eu gliniau i yfed. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Bydda i’n gwneud i’r tri chant oedd yn llepian y dŵr ennill buddugoliaeth yn erbyn byddin Midian i gyd. Cei yrru’r dynion eraill i gyd adre.” Ar ôl casglu bwyd a chyrn hwrdd y milwyr hynny, dyma Gideon yn eu hanfon adre. Dim ond y tri chant arhosodd gydag e. Roedd y Midianiaid wedi gwersylla i lawr yn y dyffryn oddi tano. A’r noson honno, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Ewch i lawr i ymosod ar wersyll y Midianiaid. Dw i’n mynd i’w rhoi yn eich dwylo chi! Os wyt ti’n dal yn ofnus, dos i lawr i’r gwersyll gyda dy was Pwra, a gwrando beth maen nhw’n ddweud. Fydd gen ti ddim ofn wedyn; byddi’n ymosod arnyn nhw.” Felly dyma Gideon yn mynd i lawr gyda’i was Pwra i ymyl y gwersyll lle roedd gwylwyr. Roedd y gwersyll yn anferth! Roedd y Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o wledydd y dwyrain yn gorchuddio’r dyffryn fel haid o locustiaid! Roedd ganddyn nhw ormod o gamelod i’w cyfrif – roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll, clywodd ryw ddyn yn dweud wrth un arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi’n taro’r babell mor galed nes i’r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.” Atebodd y llall, “Dim ond un peth all hyn ei olygu – cleddyf Gideon, mab Joas. Mae Duw yn mynd i roi buddugoliaeth iddo dros fyddin Midian.” Plygodd Gideon i lawr ac addoli Duw ar ôl clywed am y freuddwyd a’r dehongliad ohoni. Yna dyma fe’n mynd yn ôl i wersyll Israel, a dweud, “Gadewch i ni fynd! Mae’r ARGLWYDD yn mynd i adael i chi drechu byddin Midian.” Rhannodd y tri chant o ddynion yn dair uned filwrol. Yna rhoddodd gorn hwrdd i bawb, a jar gwag gyda fflam yn llosgi tu mewn iddo. “Gwyliwch fi, a gwneud yr un fath â fi,” meddai wrthyn nhw. “Gwyliwch yn ofalus. Pan ddown ni at gyrion gwersyll y Midianiaid, gwnewch yr un fath â fi. Pan fydd fy uned i’n chwythu eu cyrn hwrdd gwnewch chwithau yr un fath o gwmpas y gwersyll i gyd. Yna gwaeddwch, ‘Dros yr ARGLWYDD a thros Gideon!’” Aeth Gideon â chant o filwyr at gyrion y gwersyll ychydig ar ôl deg o’r gloch y nos, pan oedd y gwylwyr wedi newid sifft. A dyma nhw’n chwythu’r cyrn hwrdd a thorri’r jariau oedd ganddyn nhw. Gwnaeth y tair uned yr un fath. Roedden nhw’n dal eu ffaglau yn un llaw ac yn chwythu’r corn hwrdd gyda’r llall. Yna dyma nhw’n gweiddi, “I’r gad dros yr ARGLWYDD a Gideon!” Roedden nhw wedi amgylchynu’r gwersyll i gyd, ac yn sefyll mewn trefn. A phan chwythodd milwyr Gideon eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. A dyma’r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy’r gwersyll i gyd. Roedd llawer o’r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath. A dyma ddynion o lwythau Nafftali, Asher a Manasse yn mynd ar eu holau. Anfonodd Gideon negeswyr i fryniau Effraim gyda’r neges yma: “Dewch i lawr i ymladd y Midianiaid! Ewch o’u blaenau a’u stopio nhw rhag croesi rhydau’r afon Iorddonen yn Beth-bara.” A dyma ddynion Effraim yn dod a gwneud hynny. Dyma nhw’n dal dau o arweinwyr byddin Midian, Oreb a Seëb. Cafodd Oreb ei ladd ganddyn nhw wrth y graig sy’n cael ei hadnabod bellach fel Craig Oreb. A chafodd Seëb ei ladd wrth y gwinwryf sy’n cael ei adnabod bellach fel Gwinwryf Seëb. Yna dyma nhw’n dod â phen y ddau at Gideon, oedd wedi croesi i ochr arall afon Iorddonen.

Barnwyr 7:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Cododd Jerwbbaal, sef Gideon, a'r holl bobl oedd gydag ef yn gynnar a gwersyllu ger ffynnon Harod. Yr oedd gwersyll Midian yn y dyffryn i'r gogledd o fryn More. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Y mae gennyt ormod o bobl gyda thi imi roi Midian yn eu llaw, rhag i Israel ymfalchïo yn f'erbyn a dweud, ‘Fy llaw fy hun sydd wedi f'achub.’ Felly, cyhoedda yng nghlyw'r bobl, ‘Pwy bynnag sydd mewn ofn a dychryn, aed adref.’ ” Profodd Gideon hwy, a dychwelodd dwy fil ar hugain o'r bobl, gan adael deng mil ar ôl. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Y mae gormod o bobl eto. Dos â hwy i lawr at y dŵr, a phrofaf hwy iti yno. Pan ddywedaf wrthyt, ‘Y mae hwn i fynd gyda thi’, bydd hwnnw'n mynd gyda thi; a phan ddywedaf, ‘Nid yw hwn i fynd gyda thi’, ni fydd yn mynd.” Aeth Gideon â'r bobl i lawr at y dŵr, a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pob un sy'n llepian y dŵr â'i dafod fel y bydd ci'n llepian, gosod hwnnw ar wahân i'r rhai sy'n penlinio ac yn yfed trwy ddod â'u llaw at eu genau.” Tri chant oedd nifer y rhai oedd yn llepian, a phawb arall yn penlinio i yfed dŵr. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Trwy'r tri chant sy'n llepian y byddaf yn eich achub, ac yn rhoi Midian yn dy law; caiff pawb arall fynd adref.” Cymerodd Gideon biserau'r bobl a'r utgyrn oedd ganddynt, ac anfon yr Israeliaid i gyd adref, ond cadw'r tri chant. Yr oedd gwersyll Midian islaw iddo yn y dyffryn. Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Cod, dos i lawr i'r gwersyll, oherwydd yr wyf yn ei roi yn dy law. Os oes arnat ofn mynd, dos â Pura dy lanc gyda thi at y gwersyll, a gwrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud; yna fe gryfheir dy law wedi iti fod i lawr yn y gwersyll.” Felly fe aeth ef a Pura ei lanc at ymyl y milwyr arfog yn y gwersyll. Yr oedd y Midianiaid a'r Amaleciaid a'r holl ddwyreinwyr wedi disgyn ar y dyffryn fel haid o locustiaid; yr oedd eu camelod mor ddirifedi â thywod glan y môr. Pan gyrhaeddodd Gideon, dyna lle'r oedd rhyw ddyn yn adrodd breuddwyd wrth ei gyfaill ac yn dweud, “Dyma'r freuddwyd a gefais. Yr oeddwn yn gweld torth o fara haidd yn rhowlio trwy wersyll Midian, a phan ddôi at babell, yr oedd yn ei tharo a'i thaflu a'i dymchwel nes bod y babell yn disgyn.” Atebodd ei gyfaill, “Nid yw hyn yn ddim amgen na chleddyf Gideon fab Joas yr Israeliad; y mae Duw wedi rhoi Midian a'r holl wersyll yn ei law.” Pan glywodd Gideon adrodd y freuddwyd a'i dehongli, ymgrymodd i'r llawr; yna dychwelodd at wersyll Israel a dweud, “Codwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gwersyll Midian yn eich llaw.” Rhannodd y tri chant yn dair mintai, a rhoi yn eu llaw utgyrn, a phiserau gwag gyda ffaglau o'u mewn. Dywedodd wrthynt, “Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un fath. Pan ddof fi at gwr y gwersyll, yna gwnewch yr un fath â mi. Pan fyddaf fi a phawb sydd gyda mi yn seinio'r utgorn, seiniwch chwithau eich utgyrn o bob tu i'r gwersyll, a dweud, ‘Yr ARGLWYDD a Gideon!’ ” Cyrhaeddodd Gideon a'r cant o ddynion oedd gydag ef at gwr y gwersyll ar ddechrau'r wyliadwriaeth ganol, a'r gwylwyr newydd eu gosod. Seiniasant yr utgyrn, a dryllio'r piserau oedd yn eu llaw. A dyma'r tair mintai yn seinio'r utgyrn ac yn dryllio'r piserau, gan ddal y ffaglau yn eu llaw chwith a'r utgyrn i'w seinio yn eu llaw dde; ac yr oeddent yn gweiddi, “Cleddyf yr ARGLWYDD a Gideon!” Tra oedd pob un yn sefyll yn ei le o gwmpas y gwersyll, rhuthrodd yr holl wersyll o gwmpas gan weiddi a ffoi. Tra oedd y tri chant yn seinio'r utgyrn, trodd yr ARGLWYDD gleddyf pob un yn y gwersyll yn erbyn ei gymydog, a ffoesant cyn belled â Beth-sitta yn Serera, ac i gyffiniau Abel-mehola a Tabbath. Galwyd ar yr Israeliaid o Nafftali, Aser a Manasse gyfan, a buont yn erlid ar ôl y Midianiaid. Yr oedd Gideon wedi anfon negeswyr drwy holl ucheldir Effraim a dweud, “Dewch i lawr yn erbyn Midian a chymryd rhydau'r Iorddonen o'u blaen hyd Beth-bara.” Casglwyd holl wŷr Effraim a daliasant rydau'r Iorddonen cyn belled â Beth-bara. Daliasant Oreb a Seeb, dau arweinydd Midian, a lladd Oreb wrth graig Oreb, a Seeb wrth winwryf Seeb; yna, wedi iddynt erlid Midian, daethant â phen Oreb a phen Seeb at Gideon y tu hwnt i'r Iorddonen.

Barnwyr 7:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna Jerwbbaal, hwnnw yw Gedeon, a gyfododd yn fore, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod: a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn More, yn y dyffryn. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi, i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo; rhag i Israel ymogoneddu i’m herbyn, gan ddywedyd, Fy llaw fy hun a’m gwaredodd. Am hynny, yn awr, cyhoedda lle y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead. A dychwelodd o’r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Eto y mae gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a’u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a â gyda thi, eled hwnnw gyda thi; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid â gyda thi, nac eled hwnnw gyda thi. Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Pob un a lepio â’i dafod o’r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o’r neilltu; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed. A rhifedi y rhai a godasant y dwfr â’u llaw at eu genau, oedd dri channwr: a’r holl bobl eraill a ymgrymasant ar eu gliniau i yfed dwfr. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gedeon, Trwy’r tri channwr a lepiasant y dwfr, y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di: ac eled yr holl bobl eraill bob un i’w fangre ei hun. Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylo, a’u hutgyrn; a Gedeon a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel, pob un i’w babell, a’r tri channwr a ataliodd efe: a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn. A’r noson honno y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Cyfod, dos i waered i’r gwersyll; canys mi a’i rhoddais yn dy law di. Ac od wyt yn ofni myned i waered, dos di a Phura dy lanc i waered i’r gwersyll: A chei glywed beth a ddywedant; fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo, ac yr elych i waered i’r gwersyll. Yna efe a aeth i waered, a Phura ei lanc, i gwr y rhai arfogion oedd yn y gwersyll. A’r Midianiaid, a’r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a’u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra. A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i’w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a’i trawodd fel y syrthiodd, a hi a’i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell. A’i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd, Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas, gŵr o Israel: DUW a roddodd Midian a’i holl fyddin yn ei law ef. A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd, a’i ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys rhoddodd yr ARGLWYDD fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi. Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin, ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt, a phiserau gwag, a lampau yng nghanol y piserau. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un ffunud: ac wele, pan ddelwyf i gwr y gwersyll, yna fel y gwnelwyf fi, gwnewch chwithau. Pan utganwyf fi mewn utgorn, myfi a’r holl rai sydd gyda mi, utgenwch chwithau mewn utgyrn o amgylch yr holl wersyll, a dywedwch, Cleddyf yr ARGLWYDD a Gedeon. Felly Gedeon a ddaeth i mewn, a’r cannwr oedd gydag ef, i gwr y gwersyll, yn nechrau’r wyliadwriaeth ganol, a’r gwylwyr wedi eu newydd osod, ac a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo. A’r tair byddin a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a’r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr ARGLWYDD a Gedeon. A safasant bob un yn ei le, o amgylch y gwersyll: a’r holl wersyll a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd. A’r tri chant a utganasant ag utgyrn; a’r ARGLWYDD a osododd gleddyf pob un yn erbyn ei gilydd, trwy’r holl wersyll: felly y gwersyll a ffodd hyd Beth-sitta, yn Sererath, hyd fin Abel-mehola, hyd Tabbath. A gwŷr Israel a ymgasglasant, o Nafftali, ac o Aser, ac o holl Manasse, ac a erlidiasant ar ôl y Midianiaid. A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o’u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth-bara a’r Iorddonen: a holl wŷr Effraim a ymgasglasant, ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth-bara a’r Iorddonen. A daliasant ddau o dywysogion Midian, Oreb a Seeb; a lladdasant Oreb ar graig Oreb, a lladdasant Seeb wrth winwryf Seeb, ac a erlidiasant Midian, ac a ddygasant bennau Oreb a Seeb at Gedeon, i’r tu arall i’r Iorddonen.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd