Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 7:1-25

Barnwyr 7:1-25 BNET

Y bore wedyn, dyma Gideon a’i fyddin yn mynd allan a gwersylla wrth Ffynnon Charod. Roedd byddin Midian wedi gwersylla yn y dyffryn ychydig i’r gogledd, wrth ymyl Bryn More. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Mae gormod o ddynion yn dy fyddin di. Os gwna i adael i chi guro Midian, mae peryg i bobl Israel frolio mai nhw eu hunain wnaeth ennill y frwydr. Dwed wrth y dynion, ‘Os oes rhywun ag ofn, cewch droi’n ôl a gadael Mynydd Gilead.’” Aeth dau ddeg dau o filoedd adre, gan adael deg mil ar ôl. “Mae’r fyddin yn dal yn rhy fawr,” meddai’r ARGLWYDD. “Dos â nhw i lawr at y dŵr, a gwna i ddangos i ti pwy sydd i gael mynd gyda ti a phwy sydd ddim.” Felly dyma fe’n mynd â’r dynion i lawr at y dŵr. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Dw i eisiau i ti wahanu’r rhai sy’n llepian y dŵr fel mae ci’n gwneud oddi wrth y rhai sy’n mynd ar eu gliniau i yfed.” Tri chant oedd yn llepian y dŵr o gledr y llaw. Roedd y gweddill yn mynd ar eu gliniau i yfed. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Bydda i’n gwneud i’r tri chant oedd yn llepian y dŵr ennill buddugoliaeth yn erbyn byddin Midian i gyd. Cei yrru’r dynion eraill i gyd adre.” Ar ôl casglu bwyd a chyrn hwrdd y milwyr hynny, dyma Gideon yn eu hanfon adre. Dim ond y tri chant arhosodd gydag e. Roedd y Midianiaid wedi gwersylla i lawr yn y dyffryn oddi tano. A’r noson honno, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Gideon, “Ewch i lawr i ymosod ar wersyll y Midianiaid. Dw i’n mynd i’w rhoi yn eich dwylo chi! Os wyt ti’n dal yn ofnus, dos i lawr i’r gwersyll gyda dy was Pwra, a gwrando beth maen nhw’n ddweud. Fydd gen ti ddim ofn wedyn; byddi’n ymosod arnyn nhw.” Felly dyma Gideon yn mynd i lawr gyda’i was Pwra i ymyl y gwersyll lle roedd gwylwyr. Roedd y gwersyll yn anferth! Roedd y Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o wledydd y dwyrain yn gorchuddio’r dyffryn fel haid o locustiaid! Roedd ganddyn nhw ormod o gamelod i’w cyfrif – roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Pan gyrhaeddodd Gideon ymyl y gwersyll, clywodd ryw ddyn yn dweud wrth un arall am freuddwyd gafodd e. “Ces i freuddwyd am dorth haidd gron yn rholio i lawr i wersyll Midian. Dyma hi’n taro’r babell mor galed nes i’r babell droi drosodd. Syrthiodd yn fflat ar lawr.” Atebodd y llall, “Dim ond un peth all hyn ei olygu – cleddyf Gideon, mab Joas. Mae Duw yn mynd i roi buddugoliaeth iddo dros fyddin Midian.” Plygodd Gideon i lawr ac addoli Duw ar ôl clywed am y freuddwyd a’r dehongliad ohoni. Yna dyma fe’n mynd yn ôl i wersyll Israel, a dweud, “Gadewch i ni fynd! Mae’r ARGLWYDD yn mynd i adael i chi drechu byddin Midian.” Rhannodd y tri chant o ddynion yn dair uned filwrol. Yna rhoddodd gorn hwrdd i bawb, a jar gwag gyda fflam yn llosgi tu mewn iddo. “Gwyliwch fi, a gwneud yr un fath â fi,” meddai wrthyn nhw. “Gwyliwch yn ofalus. Pan ddown ni at gyrion gwersyll y Midianiaid, gwnewch yr un fath â fi. Pan fydd fy uned i’n chwythu eu cyrn hwrdd gwnewch chwithau yr un fath o gwmpas y gwersyll i gyd. Yna gwaeddwch, ‘Dros yr ARGLWYDD a thros Gideon!’” Aeth Gideon â chant o filwyr at gyrion y gwersyll ychydig ar ôl deg o’r gloch y nos, pan oedd y gwylwyr wedi newid sifft. A dyma nhw’n chwythu’r cyrn hwrdd a thorri’r jariau oedd ganddyn nhw. Gwnaeth y tair uned yr un fath. Roedden nhw’n dal eu ffaglau yn un llaw ac yn chwythu’r corn hwrdd gyda’r llall. Yna dyma nhw’n gweiddi, “I’r gad dros yr ARGLWYDD a Gideon!” Roedden nhw wedi amgylchynu’r gwersyll i gyd, ac yn sefyll mewn trefn. A phan chwythodd milwyr Gideon eu cyrn hwrdd, dyma filwyr y gelyn yn gweiddi mewn panig a cheisio dianc. A dyma’r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw ddechrau ymladd ei gilydd drwy’r gwersyll i gyd. Roedd llawer o’r milwyr wedi dianc i Beth-sitta, sydd ar y ffordd i Serera, ar y ffin gydag Abel-mechola, ger Tabath. A dyma ddynion o lwythau Nafftali, Asher a Manasse yn mynd ar eu holau. Anfonodd Gideon negeswyr i fryniau Effraim gyda’r neges yma: “Dewch i lawr i ymladd y Midianiaid! Ewch o’u blaenau a’u stopio nhw rhag croesi rhydau’r afon Iorddonen yn Beth-bara.” A dyma ddynion Effraim yn dod a gwneud hynny. Dyma nhw’n dal dau o arweinwyr byddin Midian, Oreb a Seëb. Cafodd Oreb ei ladd ganddyn nhw wrth y graig sy’n cael ei hadnabod bellach fel Craig Oreb. A chafodd Seëb ei ladd wrth y gwinwryf sy’n cael ei adnabod bellach fel Gwinwryf Seëb. Yna dyma nhw’n dod â phen y ddau at Gideon, oedd wedi croesi i ochr arall afon Iorddonen.