Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 6:1-14

Barnwyr 6:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud rhywbeth gwirioneddol ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly dyma fe’n gadael i Midian eu rheoli nhw am saith mlynedd. Roedd y Midianiaid mor greulon nes i lawer o bobl Israel ddianc i’r mynyddoedd i fyw mewn cuddfannau ac ogofâu a lleoedd saff eraill. Bob tro y byddai pobl Israel yn plannu cnydau, byddai’r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobl eraill o’r dwyrain yn ymosod arnyn nhw. Roedden nhw’n cymryd y wlad drosodd ac yn dinistrio’r cnydau i gyd, yr holl ffordd i Gasa. Roedden nhw’n dwyn y defaid, yr ychen a’r asynnod a gadael dim i bobl Israel ei fwyta. Pan oedden nhw’n dod gyda’u hanifeiliaid a’u pebyll, roedden nhw fel haid o locustiaid! Roedd cymaint ohonyn nhw, roedd hi’n amhosib eu cyfri nhw na’u camelod. Roedden nhw’n dod ac yn dinistrio popeth. Roedd pobl Israel yn ddifrifol o wan o achos Midian, a dyma nhw’n gweiddi’n daer ar yr ARGLWYDD am help. Pan ddigwyddodd hynny, dyma’r ARGLWYDD yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a’ch rhyddhau o fod yn gaethweision. Gwnes i’ch achub chi o’u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi’n eu gyrru nhw allan o’ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi. A dwedais wrthoch chi, ‘Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau’r Amoriaid dych chi’n byw ar eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.” Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i’w guddio oddi wrth y Midianiaid. Pan welodd yr angel, dyma’r angel yn dweud wrtho, “Mae’r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.” “Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy’r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e’n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o’r Aifft!’ – dyna roedden nhw’n ei ddweud. Ond bellach mae’r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i’r Midianiaid ein rheoli.” Ond yna, dyma’r ARGLWYDD ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti’n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy’n dy anfon di.”

Barnwyr 6:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Midian am saith mlynedd. Am fod Midian yn drech nag Israel paratôdd yr Israeliaid lochesau iddynt eu hunain yn y mynyddoedd, a hefyd ogofeydd a chaerau. Bob tro y byddai'r Israeliaid wedi hau, byddai Midian ac Amalec a'r dwyreinwyr yn dod ac yn ymosod arnynt; byddent yn gwersyllu yn eu herbyn ac yn distrywio cnwd y ddaear cyn belled â Gasa, heb adael unrhyw beth byw yn Israel, na dafad nac ych nac asyn. Pan ddoent hwy a'u hanifeiliaid a'u pebyll, yr oeddent mor niferus â locustiaid; nid oedd rhifo arnynt hwy na'u camelod pan ddoent i'r wlad i'w difrodi. Felly aeth Israel yn dlawd iawn o achos Midian; yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD. Wedi iddynt alw ar yr ARGLWYDD o achos Midian, anfonodd yr ARGLWYDD broffwyd at yr Israeliaid, a dywedodd hwnnw wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Myfi a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft, a'ch rhyddhau o dŷ'r caethiwed; achubais chwi o law'r Eifftiaid a phawb oedd yn eich gormesu, a'u gyrru allan o'ch blaen, a rhoi eu tir ichwi. Dywedais wrthych: Myfi yw'r ARGLWYDD, eich Duw; peidiwch ag ofni duwiau'r Amoriaid yr ydych yn byw yn eu gwlad. Ond ni wrandawsoch arnaf.’ ” Daeth angel yr ARGLWYDD ac eistedd dan y dderwen yn Offra, a oedd yn perthyn i Joas yr Abiesriad. Yr oedd ei fab, Gideon, yn dyrnu gwenith mewn gwinwryf, i'w guddio rhag Midian. Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr.” Atebodd Gideon ef, “Ond, syr, os yw'r ARGLWYDD gyda ni, pam y mae hyn i gyd wedi digwydd inni? A phle mae ei holl ryfeddodau y soniodd ein hynafiaid amdanynt, a dweud wrthym, ‘Oni ddygodd yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft?’ Erbyn hyn y mae'r ARGLWYDD wedi'n gadael, a'n rhoi yng ngafael Midian.” Trodd angel yr ARGLWYDD ato a dweud, “Dos, gyda'r nerth hwn sydd gennyt, a gwared Israel o afael Midian; onid wyf fi yn dy anfon?”

Barnwyr 6:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A meibion Israel a wnaethant ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn llaw Midian saith mlynedd. A llaw Midian a orthrechodd Israel: a rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd, a’r ogofeydd, a’r amddiffynfaoedd. A phan heuasai Israel, yna Midian a ddaeth i fyny, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy: Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinistriasant gnwd y ddaear, hyd oni ddelych i Gasa; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn. Canys hwy a ddaethant i fyny â’u hanifeiliaid, ac â’u pebyll, a daethant fel locustiaid o amldra; ac nid oedd rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: a hwy a ddaethant i’r wlad i’w distrywio hi. Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD. A phan lefodd meibion Israel ar yr ARGLWYDD oblegid y Midianiaid, Yr ARGLWYDD a anfonodd broffwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’ch dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac a’ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed; Ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law eich holl orthrymwyr; gyrrais hwynt allan o’ch blaen chwi, a rhoddais eu tir hwynt i chwi: A dywedais wrthych, Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond ni wrandawsoch ar fy llais i. Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra, yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf, i’w guddio rhag y Midianiaid. Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD sydd gyda thi, ŵr cadarn nerthol. A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr ARGLWYDD gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr ARGLWYDD ni i fyny o’r Aifft? Ond yn awr yr ARGLWYDD a’n gwrthododd ni, ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid. A’r ARGLWYDD a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, Dos yn dy rymustra yma; a thi a waredi Israel o law y Midianiaid: oni anfonais i dydi?