Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 4:1-24

Barnwyr 4:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar ôl i Ehud farw, gwnaeth yr Israeliaid unwaith eto yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly gwerthodd yr ARGLWYDD hwy i law Jabin brenin Canaan, a oedd yn teyrnasu yn Hasor. Capten ei fyddin oedd Sisera, a oedd yn byw yn Haroseth y Cenhedloedd. Yr oedd ganddo naw cant o gerbydau haearn, a bu'n gorthrymu'r Israeliaid yn galed am ugain mlynedd; am hynny gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD. Proffwydes o'r enw Debora gwraig Lappidoth oedd yn barnu Israel yr adeg honno. Byddai'n eistedd dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel ym mynydd-dir Effraim, a byddai'r Israeliaid yn mynd ati am farn. Anfonodd hi am Barac fab Abinoam o Cedes Nafftali, a dweud wrtho, “Onid yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn iti? Dos, cynnull ddeng mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon ar Fynydd Tabor, a chymer hwy gyda thi. Denaf finnau, i'th gyfarfod wrth nant Cison, Sisera, capten byddin Jabin, gyda'i gerbydau a'i lu; ac fe'u rhoddaf yn dy law.” Ond dywedodd Barac wrthi, “Os doi di gyda mi, yna mi af; ac os na ddoi di gyda mi, nid af.” Meddai hithau, “Dof, mi ddof gyda thi; eto ni ddaw gogoniant i ti ar y llwybr a gerddi, oherwydd i law gwraig y mae'r ARGLWYDD am werthu Sisera.” Yna cododd Debora a mynd gyda Barac i Cedes. Cynullodd Barac lwythau Sabulon a Nafftali i Cedes, a dilynodd deng mil o ddynion ar ei ôl; aeth Debora hefyd gydag ef. Yr oedd Heber y Cenead wedi ymwahanu oddi wrth y Ceneaid eraill oedd yn ddisgynyddion Hobab, tad-yng-nghyfraith Moses, ac wedi gosod ei babell cyn belled â'r dderwen yn Saanannim ger Cedes. Pan ddywedwyd wrth Sisera fod Barac fab Abinoam wedi mynd i fyny i Fynydd Tabor, galwodd Sisera ei holl gerbydau—naw cant o gerbydau haearn—a'i holl filwyr, o Haroseth y Cenhedloedd at nant Cison. Yna dywedodd Debora wrth Barac, “Dos! Oherwydd dyma'r dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi Sisera yn dy law. Onid yw'r ARGLWYDD wedi mynd o'th flaen?” Aeth Barac i lawr o Fynydd Tabor gyda deng mil o wŷr ar ei ôl. Gyrrodd yr ARGLWYDD Sisera a'r cerbydau i gyd, a'r holl fyddin, ar chwâl o flaen cleddyf Barac. Disgynnodd Sisera o'i gerbyd a ffoi ar ei draed. Ymlidiodd Barac y cerbydau a'r fyddin cyn belled â Haroseth y Cenhedloedd, a chwympodd holl fyddin Sisera o flaen y cleddyf, heb adael cymaint ag un. Ffodd Sisera ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead, oherwydd yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a theulu Heber y Cenead. Daeth Jael allan i gyfarfod Sisera a dywedodd wrtho, “Tro i mewn, f'arglwydd, tro i mewn ataf, paid ag ofni.” Felly troes i mewn ati i'r babell, a thaenodd hithau gwrlid drosto. Gofynnodd iddi am lymaid o ddŵr i'w yfed, gan fod syched arno, ond agorodd hi botel o laeth a rhoi diod iddo, ac yna ei orchuddio eto. Dywedodd wrthi, “Saf yn nrws y babell, ac os daw rhywun a gofyn iti a oes unrhyw un yma, dywed, ‘Nac oes’.” Cymerodd Jael, gwraig Heber, hoelen pabell, cydiodd mewn morthwyl, ac aeth ato'n ddistaw a phwyo'r hoelen trwy ei arlais i'r llawr; yr oedd ef mewn trymgwsg ar ôl ei ludded, a bu farw. Yna cyrhaeddodd Barac, yn ymlid Sisera; aeth Jael allan i'w gyfarfod, a dywedodd wrtho, “Tyrd, fe ddangosaf iti'r dyn yr wyt yn chwilio amdano.” Aeth yntau i mewn, a dyna lle'r oedd Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoelen yn ei arlais. Y diwrnod hwnnw darostyngodd Duw Jabin brenin Canaan gerbron yr Israeliaid. Pwysodd yr Israeliaid yn drymach, drymach arno, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.

Barnwyr 4:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond ar ôl i Ehwd farw, dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. A dyma fe’n gadael i Jabin eu rheoli nhw – un o frenhinoedd Canaan, oedd yn teyrnasu yn Chatsor. Enw cadfridog ei fyddin oedd Sisera, ac roedd yn byw yn Charoseth-hagoïm. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod y Brenin Jabin wedi’u cam-drin nhw’n ofnadwy ers ugain mlynedd. Roedd naw cant o gerbydau rhyfel haearn gan ei fyddin. Debora, gwraig Lapidoth, oedd yn arwain Israel ar y pryd. Roedd hi’n broffwydes. Byddai’n eistedd i farnu achosion pobl Israel dan Goeden Balmwydd Debora, oedd rhwng Rama a Bethel ym mryniau Effraim. Byddai’r bobl yn dod ati yno, i ofyn iddi setlo achosion rhyngddyn nhw. Dyma hi’n anfon am Barac fab Abinoam o Cedesh ar dir llwyth Nafftali. Ac meddai wrtho, “Mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn i ti fynd â deg mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon i fynydd Tabor, i baratoi i fynd i ryfel. Bydda i’n arwain Sisera, cadfridog byddin y Brenin Jabin, atat ti at afon Cison. Bydd yn dod yno gyda’i gerbydau rhyfel a’i fyddin enfawr. Ond ti fydd yn ennill y frwydr.” Atebodd Barac, “Dw i ddim ond yn fodlon mynd os ei di gyda mi.” “Iawn,” meddai hi, “gwna i fynd gyda ti. Ond os mai dyna dy agwedd di, fyddi di’n cael dim o’r clod. Bydd yr ARGLWYDD yn trefnu mai gwraig fydd yn delio gyda Sisera.” Felly aeth Debora gyda Barac i Cedesh. A dyma Barac yn galw byddin at ei gilydd o lwythau Sabulon a Nafftali. Aeth deg mil o ddynion gydag e ac aeth Debora gydag e hefyd. Roedd Heber y Cenead wedi symud i ffwrdd oddi wrth weddill y Ceneaid (disgynyddion Chobab, oedd yn perthyn drwy briodas i Moses). Roedd yn byw wrth dderwen Tsa-ananîm, heb fod yn bell o Cedesh. Pan glywodd Sisera fod Barac fab Abinoam wedi arwain byddin at Fynydd Tabor, dyma yntau’n galw’r fyddin gyfan oedd ganddo yn Charoseth-hagoïm at ei gilydd. Yna eu harwain, gyda’r naw cant o gerbydau rhyfel haearn, at afon Cison. Yna dyma Debora yn dweud wrth Barac, “I ffwrdd â ti! Heddiw, mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi Sisera yn dy ddwylo di! Mae’r ARGLWYDD ei hun wedi mynd o dy flaen di!” Felly dyma Barac yn mynd yn syth, ac yn arwain ei fyddin o ddeg mil i lawr llethrau Mynydd Tabor. A gwnaeth yr ARGLWYDD i Sisera a’i holl gerbydau a’i fyddin banicio. Dyma Barac a’i fyddin yn ymosod arnyn nhw. (Roedd Sisera ei hun wedi gadael ei gerbyd a cheisio dianc ar droed.) Aeth byddin Barac ar eu holau yr holl ffordd i Charoseth-hagoïm, a chafodd milwyr Sisera i gyd eu lladd – gafodd dim un ei adael yn fyw. Yn y cyfamser, roedd Sisera wedi dianc i babell Jael, gwraig Heber y Cenead. (Roedd y Brenin Jabin o Chatsor wedi gwneud cytundeb heddwch â llwyth Heber.) Aeth Jael allan i’w groesawu a dweud wrtho, “Tyrd yma, syr. Tyrd i orffwys yma gyda mi. Paid bod ag ofn!” Felly, aeth Sisera i mewn i’r babell, a dyma Jael yn rhoi blanced drosto. Dyma fe’n gofyn iddi, “Ga i ddiod o ddŵr? Dw i’n marw o syched.” A dyma hi’n agor potel groen gafr o laeth a rhoi diod iddo. Yna rhoddodd y flanced drosto eto. “Dos i sefyll wrth fynedfa’r babell,” meddai Sisera wrthi. “Os bydd rhywun yn gofyn i ti oes yna rywun yn y babell, dywed ‘Na’ wrthyn nhw.” Roedd Sisera wedi llwyr ymlâdd ac wedi syrthio i gysgu’n drwm. A dyma Jael yn cymryd peg pabell a morthwyl a mynd at Sisera’n dawel bach. Yna dyma hi’n bwrw’r peg drwy ochr ei ben i’r ddaear, a’i ladd. Roedd Barac wedi bod yn dilyn Sisera. Pan gyrhaeddodd, dyma Jael yn mynd allan i’w gyfarfod a dweud wrtho, “Tyrd yma i mi ddangos i ti’r dyn ti’n edrych amdano.” Aeth Barac i mewn i’r babell gyda hi, a dyna lle roedd Sisera’n gorwedd yn farw, gyda peg pabell wedi’i fwrw drwy ei ben. Y diwrnod hwnnw, roedd Duw wedi gwneud i Israel drechu’r Brenin Jabin o Canaan. Ac o hynny ymlaen, dyma’r Israeliaid yn taro’r Brenin Jabin yn galetach ac yn galetach, nes yn y diwedd roedden nhw wedi’i ddinistrio’n llwyr.

Barnwyr 4:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A meibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, wedi marw Ehwd. A’r ARGLWYDD a’u gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor: a thywysog ei lu ef oedd Sisera; ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd. A meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD: canys naw can cerbyd haearn oedd ganddo ef; ac efe a orthrymodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd. A Debora y broffwydes, gwraig Lapidoth, hyhi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw. Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel, ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddeuent i fyny ati hi am farn. A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac mab Abinoam, o Cedes-nafftali; ac a ddywedodd wrtho, Oni orchmynnodd ARGLWYDD DDUW Israel, gan ddywedyd, Dos, a thyn tua mynydd Tabor, a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr, o feibion Nafftali, ac o feibion Sabulon? A mi a dynnaf atat, i afon Cison, Sisera tywysog llu Jabin, a’i gerbydau, a’i liaws; ac a’i rhoddaf ef yn dy law di. A Barac a ddywedodd wrthi, Od ei di gyda mi, minnau a af; ac onid ei gyda mi, nid af. A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr ARGLWYDD Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes. A Barac a gynullodd Sabulon a Nafftali i Cedes; ac a aeth i fyny â deng mil o wŷr wrth ei draed: a Debora a aeth i fyny gydag ef. A Heber y Cenead, o feibion Hobab, chwegrwn Moses, a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim, yr hwn sydd yn ymyl Cedes. A mynegasant i Sisera, fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor. A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau, sef naw can cerbyd haearn, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison. A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD Sisera yn dy law di: onid aeth yr ARGLWYDD allan o’th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl. A’r ARGLWYDD a ddrylliodd Sisera, a’i holl gerbydau, a’i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffodd ar ei draed. Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin, hyd Haroseth y cenhedloedd: a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf: ni adawyd un ohonynt. Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead. A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i’r babell, a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban. Ac efe a ddywedodd wrthi, Dioda fi, atolwg, ag ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a’i diododd ef, ac a’i gorchuddiodd. Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes. Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o’r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a’i gwthiodd i’r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw. Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i’w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a’r hoel yn ei arlais. Felly y darostyngodd DUW y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel. A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.