Ond ar ôl i Ehwd farw, dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. A dyma fe’n gadael i Jabin eu rheoli nhw – un o frenhinoedd Canaan, oedd yn teyrnasu yn Chatsor. Enw cadfridog ei fyddin oedd Sisera, ac roedd yn byw yn Charoseth-hagoïm. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help am fod y Brenin Jabin wedi’u cam-drin nhw’n ofnadwy ers ugain mlynedd. Roedd naw cant o gerbydau rhyfel haearn gan ei fyddin.
Debora, gwraig Lapidoth, oedd yn arwain Israel ar y pryd. Roedd hi’n broffwydes. Byddai’n eistedd i farnu achosion pobl Israel dan Goeden Balmwydd Debora, oedd rhwng Rama a Bethel ym mryniau Effraim. Byddai’r bobl yn dod ati yno, i ofyn iddi setlo achosion rhyngddyn nhw.
Dyma hi’n anfon am Barac fab Abinoam o Cedesh ar dir llwyth Nafftali. Ac meddai wrtho, “Mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn i ti fynd â deg mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon i fynydd Tabor, i baratoi i fynd i ryfel. Bydda i’n arwain Sisera, cadfridog byddin y Brenin Jabin, atat ti at afon Cison. Bydd yn dod yno gyda’i gerbydau rhyfel a’i fyddin enfawr. Ond ti fydd yn ennill y frwydr.”
Atebodd Barac, “Dw i ddim ond yn fodlon mynd os ei di gyda mi.” “Iawn,” meddai hi, “gwna i fynd gyda ti. Ond os mai dyna dy agwedd di, fyddi di’n cael dim o’r clod. Bydd yr ARGLWYDD yn trefnu mai gwraig fydd yn delio gyda Sisera.” Felly aeth Debora gyda Barac i Cedesh. A dyma Barac yn galw byddin at ei gilydd o lwythau Sabulon a Nafftali. Aeth deg mil o ddynion gydag e ac aeth Debora gydag e hefyd.
Roedd Heber y Cenead wedi symud i ffwrdd oddi wrth weddill y Ceneaid (disgynyddion Chobab, oedd yn perthyn drwy briodas i Moses). Roedd yn byw wrth dderwen Tsa-ananîm, heb fod yn bell o Cedesh. Pan glywodd Sisera fod Barac fab Abinoam wedi arwain byddin at Fynydd Tabor, dyma yntau’n galw’r fyddin gyfan oedd ganddo yn Charoseth-hagoïm at ei gilydd. Yna eu harwain, gyda’r naw cant o gerbydau rhyfel haearn, at afon Cison.
Yna dyma Debora yn dweud wrth Barac, “I ffwrdd â ti! Heddiw, mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi Sisera yn dy ddwylo di! Mae’r ARGLWYDD ei hun wedi mynd o dy flaen di!” Felly dyma Barac yn mynd yn syth, ac yn arwain ei fyddin o ddeg mil i lawr llethrau Mynydd Tabor. A gwnaeth yr ARGLWYDD i Sisera a’i holl gerbydau a’i fyddin banicio. Dyma Barac a’i fyddin yn ymosod arnyn nhw. (Roedd Sisera ei hun wedi gadael ei gerbyd a cheisio dianc ar droed.) Aeth byddin Barac ar eu holau yr holl ffordd i Charoseth-hagoïm, a chafodd milwyr Sisera i gyd eu lladd – gafodd dim un ei adael yn fyw.
Yn y cyfamser, roedd Sisera wedi dianc i babell Jael, gwraig Heber y Cenead. (Roedd y Brenin Jabin o Chatsor wedi gwneud cytundeb heddwch â llwyth Heber.) Aeth Jael allan i’w groesawu a dweud wrtho, “Tyrd yma, syr. Tyrd i orffwys yma gyda mi. Paid bod ag ofn!” Felly, aeth Sisera i mewn i’r babell, a dyma Jael yn rhoi blanced drosto. Dyma fe’n gofyn iddi, “Ga i ddiod o ddŵr? Dw i’n marw o syched.” A dyma hi’n agor potel groen gafr o laeth a rhoi diod iddo. Yna rhoddodd y flanced drosto eto. “Dos i sefyll wrth fynedfa’r babell,” meddai Sisera wrthi. “Os bydd rhywun yn gofyn i ti oes yna rywun yn y babell, dywed ‘Na’ wrthyn nhw.” Roedd Sisera wedi llwyr ymlâdd ac wedi syrthio i gysgu’n drwm. A dyma Jael yn cymryd peg pabell a morthwyl a mynd at Sisera’n dawel bach. Yna dyma hi’n bwrw’r peg drwy ochr ei ben i’r ddaear, a’i ladd.
Roedd Barac wedi bod yn dilyn Sisera. Pan gyrhaeddodd, dyma Jael yn mynd allan i’w gyfarfod a dweud wrtho, “Tyrd yma i mi ddangos i ti’r dyn ti’n edrych amdano.” Aeth Barac i mewn i’r babell gyda hi, a dyna lle roedd Sisera’n gorwedd yn farw, gyda peg pabell wedi’i fwrw drwy ei ben.
Y diwrnod hwnnw, roedd Duw wedi gwneud i Israel drechu’r Brenin Jabin o Canaan. Ac o hynny ymlaen, dyma’r Israeliaid yn taro’r Brenin Jabin yn galetach ac yn galetach, nes yn y diwedd roedden nhw wedi’i ddinistrio’n llwyr.