Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 12:1-15

Barnwyr 12:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Galwodd gwŷr Effraim eu milwyr ynghyd a chroesi i Saffon, a dweud wrth Jefftha, “Pam yr aethost i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ein gwahodd ni i fynd gyda thi? Fe losgwn dy dŷ am dy ben.” Dywedodd Jefftha, “Yr oedd gennyf fi a'm pobl achos chwerw yn erbyn yr Ammoniaid, ond pe byddwn wedi galw arnoch chwi, ni fyddech wedi fy achub o'u llaw. Pan welais na fyddech yn fy achub, mentrais fynd yn erbyn yr Ammoniaid; ac fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn fy llaw. Pam yr ydych wedi dod ataf heddiw i ymladd â mi?” Yna casglodd Jefftha holl filwyr Gilead at ei gilydd ac ymladd ag Effraim; a threchodd milwyr Gilead bobl Effraim, am iddynt ddweud, “Fföedigion o Effraim ydych chwi, bobl Gilead, ymysg pobl Effraim a Manasse.” Meddiannodd Gilead y rhydau dros yr Iorddonen i gyfeiriad Effraim, a phan fyddai ffoadur o Effraim yn crefu am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn iddo, “Ai un o Effraim wyt ti?” Pe byddai hwnnw'n ateb, “Nage”, yna byddent yn dweud wrtho, “Dywed, ‘Shibboleth’.” Byddai yntau'n dweud, “Sibboleth”, gan na fedrai ynganu'n gywir. Ac wedi iddynt ei ddal, byddent yn ei ladd ger rhydau'r Iorddonen. Bu farw dwy fil a deugain o wŷr Effraim y pryd hwnnw. Bu Jefftha o Gilead yn farnwr ar Israel am chwe blynedd; a phan fu farw, claddwyd ef yn ei dref yn Gilead. Ar ei ôl ef bu Ibsan o Fethlehem yn farnwr ar Israel. Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a deg ar hugain o ferched. Rhoddodd ei ferched ei hun mewn priodas i rai o'r tu allan, a chyrchodd ddeg ar hugain o ferched o'r tu allan yn wragedd i'w feibion. Bu'n farnwr ar Israel am saith mlynedd. Pan fu Ibsan farw, claddwyd ef ym Methlehem. Ar ei ôl ef bu Elon o Sabulon yn farnwr ar Israel am ddeng mlynedd. Pan fu Elon o Sabulon farw, claddwyd ef yn Ajalon yn nhir Sabulon. Ar ei ôl ef bu Abdon fab Hilel o Pirathon yn farnwr ar Israel. Yr oedd ganddo ef ddeugain mab a deg ar hugain o wyrion yn marchogaeth ar ddeg asyn a thrigain. Bu'n farnwr ar Israel am wyth mlynedd. Pan fu Abdon fab Hilel o Pirathon farw, claddwyd ef yn Pirathon yn nhir Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.

Barnwyr 12:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma ddynion Effraim yn galw byddin at ei gilydd ac yn croesi afon Iorddonen i Saffon. Dyma nhw’n gofyn i Jefftha, “Pam wnest ti fynd i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ofyn i ni fynd gyda ti? Dŷn ni’n mynd i losgi dy dŷ di i lawr a thithau tu mewn iddo!” Atebodd Jefftha, “Pan oedden ni yng nghanol dadl ffyrnig gyda’r Ammoniaid, dyma fi’n galw arnoch chi i ddod i helpu, ond ddaethoch chi ddim. Pan ddeallais i nad oeddech chi’n dod, dyma fi’n mentro mynd i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid hebddoch chi, a dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i ni. Felly pam dych chi wedi dod i ymladd yn fy erbyn i?” Yna dyma Jefftha yn casglu byddin o ddynion Gilead at ei gilydd a mynd i ymladd yn erbyn dynion Effraim a’u trechu nhw. Roedd dynion Effraim wedi sarhau pobl Gilead drwy ddweud, “Dydy pobl Gilead yn ddim byd ond cachgwn yn cuddio ar dir Effraim a Manasse!” Roedd dynion Gilead wedi dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti’n perthyn i lwyth Effraim?” Petai’n ateb, “Na,” bydden nhw’n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw’n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw a’u lladd nhw yn y fan a’r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw. Dyma Jefftha’n arwain Israel am chwe mlynedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn ei dref ei hun yn Gilead. Ar ôl Jefftha, dyma Ibsan o Bethlehem yn arwain Israel. Roedd ganddo dri deg mab a thri deg merch. Dyma fe’n rhoi ei ferched yn wragedd i ddynion o’r tu allan i’w glan, a dyma fe’n trefnu i ferched o’r tu allan i briodi’i feibion. Buodd Ibsan yn arwain Israel am saith mlynedd. Pan fuodd e farw, cafodd ei gladdu yn Bethlehem. Yr arweinydd nesaf oedd Elon o lwyth Sabulon. Bu’n arwain pobl Israel am ddeg mlynedd. Pan fuodd e farw, cafodd ei gladdu yn Aialon ar dir llwyth Sabulon. Abdon fab Hilel o Pirathon oedd arweinydd nesaf Israel. Roedd ganddo bedwar deg o feibion a tri deg o wyrion – ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun. Bu Abdon yn arwain pobl Israel am wyth mlynedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Pirathon, sydd ar dir Effraim, yn y bryniau lle roedd yr Amaleciaid yn arfer byw.

Barnwyr 12:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A gwŷr Effraim a ymgasglasant, ac a aethant tua’r gogledd, ac a ddywedasant wrth Jefftha, Paham yr aethost ti drosodd i ymladd yn erbyn meibion Ammon, ac na elwaist arnom ni i fyned gyda thi? dy dŷ di a losgwn ni am dy ben â thân. A Jefftha a ddywedodd wrthynt hwy, Myfi a’m pobl oeddem yn ymryson yn dost yn erbyn meibion Ammon; a mi a’ch gelwais chwi, ond ni waredasoch fi o’u llaw hwynt. A phan welais i nad oeddech yn fy achub, mi a osodais fy einioes yn fy llaw, ac a euthum yn erbyn meibion Ammon; a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn fy llaw i: paham gan hynny y daethoch i fyny ataf fi y dydd hwn, i ymladd i’m herbyn? Yna Jefftha a gasglodd ynghyd holl wŷr Gilead, ac a ymladdodd ag Effraim: a gwŷr Gilead a drawsant Effraim, am ddywedyd ohonynt hwy, Ffoaduriaid Effraim ymysg yr Effraimiaid, ac ymysg Manasse, ydych chwi y Gileadiaid. A’r Gileadiaid a enillasant rydau yr Iorddonen o flaen yr Effraimiaid: a phan ddywedai yr Effraimiaid a ddianghasent, Gedwch i mi fyned drwodd: yna gwŷr Gilead a ddywedent wrtho, Ai Effraimiaid ydwyt ti? Os dywedai yntau, Nage; Yna y dywedent wrtho, Dywed yn awr, Shibboleth. Dywedai yntau, Sibboleth; canys ni fedrai efe lefaru felly. Yna y dalient ef, ac y lladdent ef wrth rydau yr Iorddonen. A chwympodd y pryd hwnnw o Effraim ddwy fil a deugain. A Jefftha a farnodd Israel chwe blynedd. Yna y bu farw Jefftha y Gileadiad, ac a gladdwyd yn un o ddinasoedd Gilead. Ac ar ei ôl ef, Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel. Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain, a deng merch ar hugain, y rhai a anfonodd efe allan, a deng merch ar hugain a ddug efe i’w feibion oddi allan. Ac efe a farnodd Israel saith mlynedd. Yna y bu farw Ibsan, ac a gladdwyd yn Bethlehem. Ac ar ei ôl ef, Elon y Sabuloniad a farnodd Israel: ac efe a farnodd Israel ddeng mlynedd. Ac Elon y Sabuloniad a fu farw, ac a gladdwyd yn Ajalon, yng ngwlad Sabulon. Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a farnodd Israel ar ei ôl ef. Ac iddo ef yr oedd deugain o feibion, a deg ar hugain o wyrion, yn marchogaeth ar ddeg a thrigain o ebolion asynnod: ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd. Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a fu farw: ac a gladdwyd yn Pirathon, yng ngwlad Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.