Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 12

12
Jefftha a Gwŷr Effraim
1Galwodd gwŷr Effraim eu milwyr ynghyd a chroesi i Saffon, a dweud wrth Jefftha, “Pam yr aethost i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ein gwahodd ni i fynd gyda thi? Fe losgwn dy dŷ am dy ben.” 2Dywedodd Jefftha, “Yr oedd gennyf fi a'm pobl achos chwerw yn erbyn yr Ammoniaid, ond pe byddwn wedi galw arnoch chwi, ni fyddech wedi fy achub o'u llaw. 3Pan welais na fyddech yn fy achub, mentrais fynd yn erbyn yr Ammoniaid; ac fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn fy llaw. Pam yr ydych wedi dod ataf heddiw i ymladd â mi?” 4Yna casglodd Jefftha holl filwyr Gilead at ei gilydd ac ymladd ag Effraim; a threchodd milwyr Gilead bobl Effraim, am iddynt ddweud, “Fföedigion o Effraim ydych chwi, bobl Gilead, ymysg pobl Effraim a Manasse.”
5Meddiannodd Gilead y rhydau dros yr Iorddonen i gyfeiriad Effraim, a phan fyddai ffoadur o Effraim yn crefu am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn iddo, “Ai un o Effraim wyt ti?” Pe byddai hwnnw'n ateb, “Nage”, 6yna byddent yn dweud wrtho, “Dywed, ‘Shibboleth’.” Byddai yntau'n dweud, “Sibboleth”, gan na fedrai ynganu'n gywir. Ac wedi iddynt ei ddal, byddent yn ei ladd ger rhydau'r Iorddonen. Bu farw dwy fil a deugain o wŷr Effraim y pryd hwnnw. 7Bu Jefftha o Gilead yn farnwr ar Israel am chwe blynedd; a phan fu farw, claddwyd ef yn ei dref yn#12:7 Felly Groeg. Hebraeg, yn nhrefi. Gilead.
Ibsan, Elon ac Abdon
8Ar ei ôl ef bu Ibsan o Fethlehem yn farnwr ar Israel. 9Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a deg ar hugain o ferched. Rhoddodd ei ferched ei hun mewn priodas i rai o'r tu allan, a chyrchodd ddeg ar hugain o ferched o'r tu allan yn wragedd i'w feibion. Bu'n farnwr ar Israel am saith mlynedd. 10Pan fu Ibsan farw, claddwyd ef ym Methlehem.
11Ar ei ôl ef bu Elon o Sabulon yn farnwr ar Israel am ddeng mlynedd. 12Pan fu Elon o Sabulon farw, claddwyd ef yn Ajalon yn nhir Sabulon. 13Ar ei ôl ef bu Abdon fab Hilel o Pirathon yn farnwr ar Israel. 14Yr oedd ganddo ef ddeugain mab a deg ar hugain o wyrion yn marchogaeth ar ddeg asyn a thrigain. Bu'n farnwr ar Israel am wyth mlynedd. 15Pan fu Abdon fab Hilel o Pirathon farw, claddwyd ef yn Pirathon yn nhir Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.

Dewis Presennol:

Barnwyr 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda