Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 2:1-26

Iago 2:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy nghyfeillion, fel rhai sydd â ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant, peidiwch â rhoi lle i ffafriaeth. Bwriwch fod dyn â modrwy aur a dillad crand yn dod i'r cwrdd, a bod dyn tlawd mewn dillad carpiog yn dod hefyd. A bwriwch eich bod chwi'n talu sylw i'r un sy'n gwisgo dillad crand, ac yn dweud wrtho ef, “Eisteddwch yma, os gwelwch yn dda”; ond eich bod yn dweud wrth y dyn tlawd, “Saf di fan draw, neu eistedd wrth fy nhroedfainc.” Onid ydych yn anghyson eich agwedd ac yn llygredig eich barn? Clywch, fy nghyfeillion annwyl. Oni ddewisodd Duw y rhai sy'n dlawd yng ngolwg y byd i fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i'r rhai sydd yn ei garu? Eto rhoesoch chwi anfri ar y dyn tlawd. Onid y cyfoethogion sydd yn eich gormesu chwi, ac onid hwy sydd yn eich llusgo i'r llysoedd? Onid hwy sydd yn cablu'r enw glân a alwyd arnoch? Wrth gwrs, os cyflawni gofynion y Gyfraith frenhinol yr ydych, yn unol â'r Ysgrythur, “Câr dy gymydog fel ti dy hun”, yr ydych yn gwneud yn ardderchog. Ond os ydych yn dangos ffafriaeth, cyflawni pechod yr ydych, ac yng ngoleuni'r Gyfraith yr ydych yn droseddwyr. Y mae pwy bynnag a gadwodd holl ofynion y Gyfraith, ond a lithrodd ar un peth, yn euog o dorri'r cwbl. Oherwydd y mae'r un a ddywedodd, “Na odineba”, wedi dweud hefyd, “Na ladd”. Os nad wyt yn godinebu, ond eto yn lladd, yr wyt yn droseddwr yn erbyn y Gyfraith. Llefarwch a gweithredwch fel rhai sydd i'w barnu dan gyfraith rhyddid. Didrugaredd fydd y farn honno i'r sawl na ddangosodd drugaredd. Trech trugaredd na barn. Fy nghyfeillion, pa les yw i rywun ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all y ffydd honno ei achub? Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol, ac un ohonoch yn dweud wrthynt, “Ewch, a phob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd”, ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau'r corff, pa les ydyw? Felly hefyd y mae ffydd ar ei phen ei hun, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw. Ond efallai y bydd rhywun yn dweud, “Ffydd sydd gennyt ti, gweithredoedd sydd gennyf fi.” O'r gorau, dangos i mi dy ffydd di heb weithredoedd, ac fe ddangosaf finnau i ti fy ffydd i trwy weithredoedd. Yr wyt ti'n credu bod Duw yn un. Da iawn! Y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu hynny, ac yn crynu. Y ffŵl, a oes rhaid dy argyhoeddi mai diwerth yw ffydd heb weithredoedd? Onid trwy ei weithredoedd y cyfiawnhawyd Abraham, ein tad, pan offrymodd ef Isaac, ei fab, ar yr allor? Y mae'n eglur iti mai cydweithio â'i weithredoedd yr oedd ei ffydd, ac mai trwy'r gweithredoedd y cafodd ei ffydd ei mynegi'n berffaith. Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder”; a galwyd ef yn gyfaill Duw. Fe welwch felly mai trwy weithredoedd y mae rhywun yn cael ei gyfiawnhau, ac nid trwy ffydd yn unig. Yn yr un modd hefyd, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd Rahab, y butain, pan dderbyniodd hi'r negeswyr a'u hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd arall? Fel y mae'r corff heb anadl yn farw, felly hefyd y mae ffydd heb weithredoedd yn farw.

Iago 2:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Frodyr a chwiorydd, dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth iawn i bobl sy’n dweud eu bod nhw’n credu yn ein Harglwydd bendigedig ni, Iesu Grist. Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o’ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd. Petaech chi’n rhoi’r sylw i gyd i’r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma’r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu, “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”, fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na’r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi’n anghywir? Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl sy’n dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wedi’u dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhw’n cael rhannu yn y deyrnas mae wedi’i haddo i’r rhai sy’n ei garu. Ond dych chi’n amharchu’r tlawd! Y cyfoethog ydy’r bobl sy’n eich cam-drin chi! Onid nhw sy’n eich llusgo chi o flaen y llysoedd? Onid nhw sy’n cablu enw da yr un dych chi’n perthyn iddo? Os ydych chi’n ufudd i orchymyn pwysica’r ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun,” da iawn chi. Ond os ydych chi’n dangos ffafriaeth dych chi’n pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chi’n droseddwr. Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri’r Gyfraith i gyd. Dwedodd Duw “Paid godinebu” (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio” . Felly os wyt ti’n lladd rhywun, rwyt ti wedi torri’r Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu. Dylech chi siarad a byw fel pobl sy’n mynd i gael eu barnu gan gyfraith cariad, sef ‘y gyfraith sy’n eich rhyddhau chi’. Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill, ond mae dangos trugaredd yn trechu barn. Frodyr a chwiorydd, beth ydy’r pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dyna’r math o ‘gredu’ sy’n achub rhywun? Er enghraifft, os ydych chi’n gweld brawd neu chwaer yn brin o ddillad neu heb fwyd, ac yna’n dweud, “Pob bendith i ti! Cadw’n gynnes, a gobeithio cei di rywbeth i’w fwyta.” Beth ydy’r pwynt os ydych chi’n ei adael yno heb roi dim byd iddo? Mae ‘credu’ ar ei ben ei hun yn union yr un fath. Os ydy’r ‘credu’ ddim yn arwain at wneud rhywbeth, mae’n farw gelain. Ond wedyn mae rhywun yn dadlau, “Mae gan rai pobl ffydd ac mae eraill yn gwneud daioni.” A dw i’n ateb, “Wyt ti’n gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim? Dw i’n dangos fy mod i’n credu drwy beth dw i’n ei wneud!” Rwyt ti’n credu mai un Duw sy’n bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn! Y twpsyn! Oes rhaid i mi brofi i ti fod ‘credu’ sydd ddim yn arwain at wneud rhywbeth yn dda i ddim? Meddylia am ein cyndad Abraham. Onid y ffaith ei fod wedi gweithredu, a mynd ati i offrymu ei fab Isaac ar yr allor wnaeth ei berthynas e gyda Duw yn iawn? Roedd ei ffydd i’w weld drwy beth wnaeth e. Roedd y gweithredu yn dangos ei fod yn credu go iawn, dim rhyw hanner credu. Daeth beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud yn wir: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Cafodd ei alw’n ffrind Duw! Felly dylet ti weld mai beth mae rhywun yn ei wneud sy’n dangos ei fod yn iawn gyda Duw, nid dim ond bod rhywun yn dweud ei fod yn credu. I roi enghraifft hollol wahanol, meddylia am Rahab y butain; onid beth wnaeth hi ddaeth â hi i berthynas iawn gyda Duw? Rhoddodd groeso i’r ysbiwyr a’u cuddio nhw, ac wedyn eu hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd wahanol. Yn union fel mae corff yn farw os does dim anadl ynddo, mae credu heb weithredu yn farw!

Iago 2:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb. Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael; Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg? Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef? Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd? Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi? Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl. Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid. Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn. Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef? Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth, A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff; pa les fydd? Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig. Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau. Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu. Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor? Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio. A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef. Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi’r cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? Canys megis y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.