Fy nghyfeillion, fel rhai sydd â ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant, peidiwch â rhoi lle i ffafriaeth. Bwriwch fod dyn â modrwy aur a dillad crand yn dod i'r cwrdd, a bod dyn tlawd mewn dillad carpiog yn dod hefyd. A bwriwch eich bod chwi'n talu sylw i'r un sy'n gwisgo dillad crand, ac yn dweud wrtho ef, “Eisteddwch yma, os gwelwch yn dda”; ond eich bod yn dweud wrth y dyn tlawd, “Saf di fan draw, neu eistedd wrth fy nhroedfainc.” Onid ydych yn anghyson eich agwedd ac yn llygredig eich barn?
Clywch, fy nghyfeillion annwyl. Oni ddewisodd Duw y rhai sy'n dlawd yng ngolwg y byd i fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i'r rhai sydd yn ei garu? Eto rhoesoch chwi anfri ar y dyn tlawd. Onid y cyfoethogion sydd yn eich gormesu chwi, ac onid hwy sydd yn eich llusgo i'r llysoedd? Onid hwy sydd yn cablu'r enw glân a alwyd arnoch? Wrth gwrs, os cyflawni gofynion y Gyfraith frenhinol yr ydych, yn unol â'r Ysgrythur, “Câr dy gymydog fel ti dy hun”, yr ydych yn gwneud yn ardderchog. Ond os ydych yn dangos ffafriaeth, cyflawni pechod yr ydych, ac yng ngoleuni'r Gyfraith yr ydych yn droseddwyr. Y mae pwy bynnag a gadwodd holl ofynion y Gyfraith, ond a lithrodd ar un peth, yn euog o dorri'r cwbl. Oherwydd y mae'r un a ddywedodd, “Na odineba”, wedi dweud hefyd, “Na ladd”. Os nad wyt yn godinebu, ond eto yn lladd, yr wyt yn droseddwr yn erbyn y Gyfraith. Llefarwch a gweithredwch fel rhai sydd i'w barnu dan gyfraith rhyddid. Didrugaredd fydd y farn honno i'r sawl na ddangosodd drugaredd. Trech trugaredd na barn.
Fy nghyfeillion, pa les yw i rywun ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all y ffydd honno ei achub? Os yw brawd neu chwaer yn garpiog ac yn brin o fara beunyddiol, ac un ohonoch yn dweud wrthynt, “Ewch, a phob bendith ichwi; cadwch yn gynnes a mynnwch ddigon o fwyd”, ond heb roi dim iddynt ar gyfer rheidiau'r corff, pa les ydyw? Felly hefyd y mae ffydd ar ei phen ei hun, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw.
Ond efallai y bydd rhywun yn dweud, “Ffydd sydd gennyt ti, gweithredoedd sydd gennyf fi.” O'r gorau, dangos i mi dy ffydd di heb weithredoedd, ac fe ddangosaf finnau i ti fy ffydd i trwy weithredoedd. Yr wyt ti'n credu bod Duw yn un. Da iawn! Y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu hynny, ac yn crynu. Y ffŵl, a oes rhaid dy argyhoeddi mai diwerth yw ffydd heb weithredoedd? Onid trwy ei weithredoedd y cyfiawnhawyd Abraham, ein tad, pan offrymodd ef Isaac, ei fab, ar yr allor? Y mae'n eglur iti mai cydweithio â'i weithredoedd yr oedd ei ffydd, ac mai trwy'r gweithredoedd y cafodd ei ffydd ei mynegi'n berffaith. Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder”; a galwyd ef yn gyfaill Duw. Fe welwch felly mai trwy weithredoedd y mae rhywun yn cael ei gyfiawnhau, ac nid trwy ffydd yn unig. Yn yr un modd hefyd, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd Rahab, y butain, pan dderbyniodd hi'r negeswyr a'u hanfon i ffwrdd ar hyd ffordd arall? Fel y mae'r corff heb anadl yn farw, felly hefyd y mae ffydd heb weithredoedd yn farw.