Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 9:1-21

Eseia 9:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond fydd y tywyllwch ddim yn para i’r tir aeth drwy’r fath argyfwng! Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon a thir Nafftali eu cywilyddio; ond yn y dyfodol bydd Duw yn dod ag anrhydedd i Galilea’r Cenhedloedd, ar Ffordd y Môr, a’r ardal yr ochr arall i afon Iorddonen. Mae’r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch wedi gweld golau llachar. Mae golau wedi gwawrio ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth. Ti wedi lluosogi’r genedl, a’i gwneud yn hapus iawn; maen nhw’n dathlu o dy flaen di fel ffermwyr adeg y cynhaeaf, neu filwyr yn cael sbri wrth rannu’r ysbail. Achos rwyt ti wedi torri’r iau oedd yn faich arnyn nhw, a’r ffon oedd yn curo’u cefnau nhw – sef gwialen y meistr gwaith – fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian. Bydd yr esgidiau fu’n sathru maes y gâd, a’r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed, yn cael eu taflu i’r fflamau i’w llosgi. Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni, mab wedi cael ei roi i ni. Bydd e’n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. A bydd yn cael ei alw yn Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch. Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu, a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw i orsedd Dafydd a’i deyrnas. Bydd yn ei sefydlu a’i chryfhau a theyrnasu’n gyfiawn ac yn deg o hyn allan, ac am byth. Mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd. Dyma’r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel. Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny – Effraim a’r rhai sy’n byw yn Samaria. Roedden nhw’n falch ac yn ystyfnig, ac yn honni: “Mae’r blociau pridd wedi syrthio, ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd! Mae’r coed sycamor wedi’u torri i lawr, ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!” Yna, gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi. Roedd e wedi arfogi ei gelynion – daeth Syria o’r dwyrain a Philistia o’r gorllewin; roedd eu cegau’n llydan agored, a dyma nhw’n llyncu tir Israel. Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Dydy’r bobl ddim wedi troi’n ôl at yr un wnaeth eu taro nhw; dŷn nhw ddim wedi ceisio’r ARGLWYDD hollbwerus. Felly bydd yr ARGLWYDD yn torri pen a chynffon Israel, y gangen balmwydd a’r frwynen ar yr un diwrnod. Yr arweinwyr a’r bobl bwysig – nhw ydy’r pen; y proffwydi sy’n dysgu celwydd – nhw ydy’r gynffon. Mae’r arweinwyr wedi camarwain, a’r rhai sy’n eu dilyn wedi llyncu’r cwbl. Dyna pam nad ydy’r ARGLWYDD yn hapus gyda’r bobl ifanc; dydy e ddim yn gallu cysuro’r plant amddifad a’r gweddwon. Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg; maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl. Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Mae drygioni yn llosgi fel tân, ac yn dinistrio’r drain a’r mieri; mae’n llosgi drwy ddrysni’r coed nes bod y mwg yn codi’n golofnau. Pan mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi digio, mae’r wlad yn llosgi. Mae’r bobl fel tanwydd, a does neb yn poeni am neb arall. Maen nhw’n torri cig fan yma, ond yn dal i newynu; maen nhw’n bwyta fan acw ond ddim yn cael digon. Maen nhw’n brathu ac anafu ei gilydd – Manasse’n ymosod ar Effraim ac Effraim ar Manasse, a’r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda!

Eseia 9:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam-drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar ôl hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y môr, dros yr Iorddonen. Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd; llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail. Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt, a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd, a'r ffon oedd gan eu gyrrwr, fel yn nydd Midian. Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes, a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed, fe'u llosgir fel tanwydd. Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”. Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a'i frenhiniaeth, i'w sefydlu'n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. Bydd sêl ARGLWYDD y Lluoedd yn gwneud hyn. Anfonodd yr ARGLWYDD air yn erbyn Jacob, ac fe ddisgyn ar Israel. Gostyngir yr holl bobl— Effraim a thrigolion Samaria— sy'n dweud mewn balchder a thraha, “Syrthiodd y priddfeini, ond fe adeiladwn ni â cherrig nadd; torrwyd y prennau sycamor, ond fe rown ni gedrwydd yn eu lle.” Y mae'r ARGLWYDD yn codi gwrthwynebwyr yn eu herbyn; y mae'n cyffroi eu gelynion. Y mae Syriaid o'r dwyrain a Philistiaid o'r gorllewin yn ysu Israel a'u safnau'n agored. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law. Ond ni throdd y bobl at yr un a'u trawodd, na cheisio ARGLWYDD y Lluoedd; am hynny tyr yr ARGLWYDD ymaith o Israel y pen â'r gynffon, y gangen balmwydd a'r frwynen mewn un dydd; yr hynafgwr a'r anrhydeddus yw'r pen, y proffwyd sy'n dysgu celwydd yw'r gynffon. Y rhai sy'n arwain y bobl hyn sy'n peri iddynt gyfeiliorni; a'r rhai a arweiniwyd sy'n cael eu drysu. Am hynny nid arbed yr ARGLWYDD eu gwŷr ifainc, ac ni thosturia wrth eu hamddifaid na'u gweddwon. Y mae pob un ohonynt yn annuwiol a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law. Oherwydd y mae drygioni yn llosgi fel tân, yn ysu'r mieri a'r drain, yn cynnau yn nrysni'r coed, ac yn codi'n golofnau o fwg. Gan ddigofaint ARGLWYDD y Lluoedd y mae'r wlad ar dân; y mae'r bobl fel tanwydd, ac nid arbedant ei gilydd. Cipia un o'r dde, ond fe newyna; bwyta'r llall o'r chwith, ond nis digonir. Bydd pob un yn bwyta cnawd ei blant— Manasse Effraim, ac Effraim Manasse, ac ill dau yn erbyn Jwda. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

Eseia 9:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Eto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, yn Galilea y cenhedloedd. Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt. Amlheaist y genhedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf, ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail. Canys drylliaist iau ei faich ef, a ffon ei ysgwydd ef, gwialen ei orthrymwr, megis yn nydd Midian. Canys pob cad y rhyfelwr sydd mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed; ond bydd hwn trwy losgiad a chynnud tân. Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y DUW cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, i’w threfnu hi, ac i’w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder, o’r pryd hwn, a hyd byth. Sêl ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn. Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel. A’r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon, Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd. Am hynny yr ARGLWYDD a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd; Y Syriaid o’r blaen, a’r Philistiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig. A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd, ac ni cheisiant ARGLWYDD y lluoedd. Am hynny y tyr yr ARGLWYDD oddi wrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd. Yr henwr a’r anrhydeddus yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwydd, efe yw y gynffon. Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt. Am hynny nid ymlawenha yr ARGLWYDD yn eu gwŷr ieuainc hwy, ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig. Oherwydd anwiredd a lysg fel tân; y mieri a’r drain a ysa efe, ac a gynnau yn nrysni y coed; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg. Gan ddigofaint ARGLWYDD y lluoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd. Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun: Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.