Eseia 65:17-25
Eseia 65:17-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Achos dw i’n mynd i greu nefoedd newydd a daear newydd! Bydd pethau’r gorffennol wedi’u hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl. Ie, dathlwch a mwynhau am byth yr hyn dw i’n mynd i’w greu. Achos dw i’n mynd i greu Jerwsalem i fod yn hyfrydwch, a’i phobl yn rheswm i ddathlu. Bydd Jerwsalem yn hyfrydwch i mi, a’m pobl yn gwneud i mi ddathlu. Fydd sŵn crio a sgrechian ddim i’w glywed yno byth eto. Fydd babis bach ddim yn marw’n ifanc, na phobl mewn oed yn marw’n gynnar. Bydd rhywun sy’n marw yn gant oed yn cael ei ystyried yn llanc ifanc, a’r un sy’n marw heb gyrraedd y cant yn cael ei ystyried dan felltith. Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi’u dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo. Fyddan nhw ddim yn gweithio’n galed i ddim byd; fyddan nhw ddim yn magu plant i’w colli. Byddan nhw’n bobl wedi’u bendithio gan yr ARGLWYDD, a’u plant gyda nhw hefyd. Bydda i’n ateb cyn iddyn nhw alw arna i; bydda i wedi clywed cyn iddyn nhw orffen siarad. Bydd y blaidd a’r oen yn pori gyda’i gilydd, a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych; ond llwch y ddaear fydd bwyd y neidr. Fyddan nhw’n gwneud dim drwg na niwed yn fy mynydd cysegredig i.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Eseia 65:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd; ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt. Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baid am fy mod i yn creu, ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd. Gorfoleddaf yn Jerwsalem, llawenychaf yn fy mhobl; ni chlywir ynddi mwyach na sŵn wylofain na chri trallod. Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni, na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd; llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd, a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant. Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt, yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth; ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd â choeden, a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo. Ni fyddant yn llafurio'n ofer, nac yn magu plant i drallod; cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt, hwy a'u hepil hefyd. Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw, ac yn eu gwrando wrth iddynt lefaru. Bydd y blaidd a'r oen yn cydbori, a'r llew yn bwyta gwair fel ych; a llwch fydd bwyd y sarff. Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd,” medd yr ARGLWYDD.
Eseia 65:17-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a’r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt. Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a’i phobl yn llawenydd. Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd. Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir. A hwy a adeiladant dai, ac a’u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth. Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo. Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr ARGLWYDD ydynt hwy, a’u hepil gyda hwynt. A bydd, cyn galw ohonynt, i mi ateb: ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf. Y blaidd a’r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a’r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr ARGLWYDD.