Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 65:17-25

Eseia 65:17-25 BNET

Achos dw i’n mynd i greu nefoedd newydd a daear newydd! Bydd pethau’r gorffennol wedi’u hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl. Ie, dathlwch a mwynhau am byth yr hyn dw i’n mynd i’w greu. Achos dw i’n mynd i greu Jerwsalem i fod yn hyfrydwch, a’i phobl yn rheswm i ddathlu. Bydd Jerwsalem yn hyfrydwch i mi, a’m pobl yn gwneud i mi ddathlu. Fydd sŵn crio a sgrechian ddim i’w glywed yno byth eto. Fydd babis bach ddim yn marw’n ifanc, na phobl mewn oed yn marw’n gynnar. Bydd rhywun sy’n marw yn gant oed yn cael ei ystyried yn llanc ifanc, a’r un sy’n marw heb gyrraedd y cant yn cael ei ystyried dan felltith. Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi’u dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo. Fyddan nhw ddim yn gweithio’n galed i ddim byd; fyddan nhw ddim yn magu plant i’w colli. Byddan nhw’n bobl wedi’u bendithio gan yr ARGLWYDD, a’u plant gyda nhw hefyd. Bydda i’n ateb cyn iddyn nhw alw arna i; bydda i wedi clywed cyn iddyn nhw orffen siarad. Bydd y blaidd a’r oen yn pori gyda’i gilydd, a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych; ond llwch y ddaear fydd bwyd y neidr. Fyddan nhw’n gwneud dim drwg na niwed yn fy mynydd cysegredig i.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.