Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 64:1-12

Eseia 64:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

O na fyddet ti’n rhwygo’r awyr a dod i lawr, nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di – byddai fel tân yn llosgi brigau sych, neu’n gwneud i ddŵr ferwi – i dy elynion ddod i wybod pwy wyt ti ac i’r cenhedloedd grynu o dy flaen di! Roeddet ti’n arfer gwneud pethau syfrdanol, cwbl annisgwyl! Roeddet ti’n dod i lawr ac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen. Does neb erioed wedi clywed a does neb wedi gweld Duw tebyg i ti, sy’n gweithredu o blaid y rhai sy’n ei drystio fe. Ti’n helpu’r rhai sy’n mwynhau gwneud beth sy’n iawn, ac sy’n cofio sut un wyt ti. Er dy fod ti’n ddig am ein bod ni’n pechu o hyd, gallen ni ddal gael ein hachub! Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan, mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron. Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen, Ac mae’n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd. Does neb yn galw ar dy enw di, nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti. Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni, a gwneud i ni wynebu’n methiant! Ac eto, ARGLWYDD, ti ydy’n Tad ni! Gwaith dy ddwylo di ydyn ni – ni ydy’r clai a thi ydy’r crochenydd. Paid gwylltio’n llwyr hefo ni, ARGLWYDD! Paid dal dig am ein methiant am byth! Edrych arnon ni i gyd, dy bobl! Mae dy drefi sanctaidd yn anialwch! Mae Seion yn anialwch, a Jerwsalem yn adfeilion. Mae’r deml gysegredig a hardd lle roedd ein hynafiaid yn dy foli di, wedi cael ei llosgi’n ulw. Mae ein trysorau’n bentwr o rwbel. Wyt ti’n mynd i ddal i ymatal er gwaetha hyn i gyd, ARGLWYDD? Wyt ti’n mynd i sefyll yna’n dawel tra dŷn ni’n cael ein cosbi mor drwm?

Eseia 64:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

O na fuaset wedi rhwygo'r nefoedd, a dod i lawr, a'r mynyddoedd yn toddi o'th flaen, fel tân yn llosgi prysgwydd, fel dŵr yn berwi ar dân, er mwyn i'th enw ddod yn hysbys i'th gaseion, ac i'r cenhedloedd grynu yn dy ŵydd! Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni eu disgwyl, daethost i lawr, a thoddodd y mynyddoedd o'th flaen. Ni chlywodd neb erioed, ni ddaliodd clust, ni chanfu llygad unrhyw Dduw ond tydi, a wnâi ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho. Rwyt yn cyfarfod â'r rhai sy'n hoffi gwneud cyfiawnder, y rhai sy'n cofio am dy ffyrdd. Er dy fod yn digio pan oeddem ni'n pechu, eto roeddem yn dal i droseddu yn dy erbyn. Aethom i gyd fel peth aflan, a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron; yr ydym i gyd wedi crino fel deilen, a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt. Ac nid oes neb yn galw ar dy enw, nac yn trafferthu i afael ynot; cuddiaist dy wyneb oddi wrthym, a'n traddodi i afael ein camweddau. Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad; ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd; gwaith dy ddwylo ydym i gyd. Paid â digio'n llwyr, ARGLWYDD, na chofio camwedd am byth. Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd. Aeth dy ddinasoedd sanctaidd yn anialwch; y mae Seion yn anialwch a Jerwsalem yn anghyfannedd. Y mae ein tŷ sanctaidd a hardd, lle y byddai'n hynafiaid yn dy foliannu, wedi mynd yn lludw, a phob peth annwyl gennym yn anrhaith. A ymateli di, ARGLWYDD, oherwydd y pethau hyn? A dewi di, a'n cystuddio'n llwyr?

Eseia 64:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

O na rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di, Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot! Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen. Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant â chlustiau, ac ni welodd llygad, O DDUW, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho. Cyfarfyddi â’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig. Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthiasom ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynt, a’n dug ni ymaith. Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein hanwireddau. Ond yn awr, O ARGLWYDD, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll. Na ddigia, ARGLWYDD, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll. Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anialwch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd. Tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith. A ymateli di, ARGLWYDD, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?