Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 63:1-14

Eseia 63:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pwy yw hwn sy'n dod o Edom, yn dod o Bosra, a'i ddillad yn goch; y mae ei wisg yn hardd, a'i gerddediad yn llawn o nerth? “Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder, ac yn abl i waredu.” Pam y mae dy wisg yn goch, a'th ddillad fel un yn sathru mewn gwinwryf? “Bûm yn sathru'r grawnwin fy hunan, ac nid oedd neb o'r bobl gyda mi; sethrais hwy yn fy llid, a'u mathru yn fy nicter. Ymdaenodd eu gwaed dros fy nillad nes cochi fy ngwisgoedd i gyd; oherwydd roedd fy mryd ar ddydd dial, a daeth fy mlwyddyn i waredu. Edrychais, ond nid oedd neb i'm helpu, a synnais nad oedd neb i'm cynnal; fy mraich fy hun a'm gwaredodd, a chynhaliwyd fi gan fy nicter. Sethrais y bobl yn fy llid, a'u meddwi yn fy nicter, a thywallt eu gwaed ar lawr.” Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD, a chanu ei glodydd am y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni, a'i ddaioni mawr i dŷ Israel, am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd, ac o lawnder ei gariad di-sigl. Fe ddywedodd, “Yn awr, fy mhobl i ydynt, plant nad ydynt yn twyllo”, a daeth yn Waredydd iddynt yn eu holl gystuddiau. Nid cennad nac angel, ond ef ei hun a'u hachubodd; yn ei gariad ac yn ei dosturi y gwaredodd hwy, a'u codi a'u cario drwy'r dyddiau gynt. Ond buont yn wrthryfelgar, a gofidio'i ysbryd sanctaidd; troes yntau'n elyn iddynt, ac ymladd yn eu herbyn. Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt, am Moses a'i bobl. Ple mae'r un a ddygodd allan o'r môr fugail ei braidd? Ple mae'r un a roes yn eu canol hwy ei ysbryd sanctaidd, a pheri i'w fraich ogoneddus arwain deheulaw Moses, a hollti'r dyfroedd o'u blaen, i wneud iddo'i hun enw tragwyddol? Arweiniodd hwy trwy'r dyfnderoedd, fel arwain march yn yr anialwch; mor sicr eu troed ag ych yn mynd i lawr i'r dyffryn y tywysodd ysbryd yr ARGLWYDD hwy. Felly yr arweiniaist dy bobl, a gwneud iti enw ardderchog.

Eseia 63:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pwy ydy hwn sy’n dod o Edom – o Bosra a’i ddillad yn goch? Pwy ydy’r un, yn ei wisgoedd brenhinol, sy’n martsio’n hyderus a diflino. “Fi ydy e, sy’n cyhoeddi cyfiawnder; yr un sy’n gallu achub.” Pam mae dy ddillad yn goch? Maen nhw fel dillad un sy’n sathru grawnwin. “Dw i wedi sathru’r grawnwin fy hun; doedd neb o gwbl gyda fi. Sathrais nhw yn fy llid, a’u gwasgu dan draed yn fy nicter, nes i’w gwaed nhw sblasio ar fy nillad; dw i wedi staenio fy nillad i gyd. Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl, a’r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod. Pan edrychais, doedd neb yno i helpu; rôn i’n synnu fod neb yno i roi cymorth. Felly dyma fi’n mynd ati i achub, a’m dicter yn fy ngyrru ymlaen. Sathrais genhedloedd yn fy llid, a’u meddwi nhw gyda fy llid, a thywallt eu gwaed ar lawr.” Dw i’n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy’r ARGLWYDD, a dw i’n mynd i ganu ei glod – am y cwbl mae’r ARGLWYDD wedi’i wneud i ni, a’r holl bethau da mae e wedi’u gwneud i bobl Israel. Mae e mor drugarog ac mor hael! Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw, plant fydd ddim yn anffyddlon.” Felly dyma fe’n eu hachub nhw. Pan oedden nhw’n diodde roedd e’n diodde hefyd, a dyma fe’n anfon ei angel i’w hachub. Yn ei gariad a’i drugaredd, daeth i’w gollwng nhw’n rhydd. Cododd nhw, a’u cario nhw ar hyd y cyfnod hwnnw. Ond dyma nhw’n gwrthryfela, ac yn tristáu ei Ysbryd Glân. Felly trodd yn elyn iddyn nhw, ac ymladd yn eu herbyn nhw. Yna dyma fe’n cofio’r hen ddyddiau – Moses … a’i bobl! Ble mae’r Un ddaeth â nhw drwy’r Môr gyda bugeiliaid ei braidd? Ble mae’r Un wnaeth roi ei Ysbryd Glân yn eu plith nhw – yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses? Ble mae’r Un wnaeth hollti’r môr o’u blaenau a gwneud enw iddo’i hun am byth? Ble mae’r Un wnaeth eu harwain nhw drwy’r dyfnder fel ceffyl yn carlamu ar dir agored? Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw, fel gwartheg yn mynd i lawr i’r dyffryn. Dyna sut wnest ti arwain dy bobl a gwneud enw gwych i ti dy hun!

Eseia 63:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Pwy yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu. Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf? Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o’r bobl nid oedd un gyda mi; canys mi a’u sathraf hwynt yn fy nig, ac a’u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a’m holl wisgoedd a lychwinaf. Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth. Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a’m hachubodd, a’m llidiowgrwydd a’m cynhaliodd. A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a’u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u cadernid a ddisgynnaf i’r llawr. Cofiaf drugareddau yr ARGLWYDD, a moliant DUW, yn ôl yr hyn oll a roddodd DUW i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau. Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt. Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychioldeb a’u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a’u dygodd hwynt, ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt. Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn. Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a’i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a’u dygodd hwynt i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef? Yr hwn a’u tywysodd hwynt â deheulaw Moses, ac â’i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragwyddol? Yr hwn a’u harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent? Fel y disgyn anifail i’r dyffryn, y gwna Ysbryd yr ARGLWYDD iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.