Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 63:1-14

Eseia 63:1-14 BNET

Pwy ydy hwn sy’n dod o Edom – o Bosra a’i ddillad yn goch? Pwy ydy’r un, yn ei wisgoedd brenhinol, sy’n martsio’n hyderus a diflino. “Fi ydy e, sy’n cyhoeddi cyfiawnder; yr un sy’n gallu achub.” Pam mae dy ddillad yn goch? Maen nhw fel dillad un sy’n sathru grawnwin. “Dw i wedi sathru’r grawnwin fy hun; doedd neb o gwbl gyda fi. Sathrais nhw yn fy llid, a’u gwasgu dan draed yn fy nicter, nes i’w gwaed nhw sblasio ar fy nillad; dw i wedi staenio fy nillad i gyd. Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl, a’r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod. Pan edrychais, doedd neb yno i helpu; rôn i’n synnu fod neb yno i roi cymorth. Felly dyma fi’n mynd ati i achub, a’m dicter yn fy ngyrru ymlaen. Sathrais genhedloedd yn fy llid, a’u meddwi nhw gyda fy llid, a thywallt eu gwaed ar lawr.” Dw i’n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy’r ARGLWYDD, a dw i’n mynd i ganu ei glod – am y cwbl mae’r ARGLWYDD wedi’i wneud i ni, a’r holl bethau da mae e wedi’u gwneud i bobl Israel. Mae e mor drugarog ac mor hael! Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw, plant fydd ddim yn anffyddlon.” Felly dyma fe’n eu hachub nhw. Pan oedden nhw’n diodde roedd e’n diodde hefyd, a dyma fe’n anfon ei angel i’w hachub. Yn ei gariad a’i drugaredd, daeth i’w gollwng nhw’n rhydd. Cododd nhw, a’u cario nhw ar hyd y cyfnod hwnnw. Ond dyma nhw’n gwrthryfela, ac yn tristáu ei Ysbryd Glân. Felly trodd yn elyn iddyn nhw, ac ymladd yn eu herbyn nhw. Yna dyma fe’n cofio’r hen ddyddiau – Moses … a’i bobl! Ble mae’r Un ddaeth â nhw drwy’r Môr gyda bugeiliaid ei braidd? Ble mae’r Un wnaeth roi ei Ysbryd Glân yn eu plith nhw – yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses? Ble mae’r Un wnaeth hollti’r môr o’u blaenau a gwneud enw iddo’i hun am byth? Ble mae’r Un wnaeth eu harwain nhw drwy’r dyfnder fel ceffyl yn carlamu ar dir agored? Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw, fel gwartheg yn mynd i lawr i’r dyffryn. Dyna sut wnest ti arwain dy bobl a gwneud enw gwych i ti dy hun!