Eseia 62:1-5
Eseia 62:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Er mwyn Seion dw i ddim yn mynd i dewi! Er mwyn Jerwsalem dw i ddim yn mynd i orffwys, nes bydd ei chyfiawnder yn disgleirio fel golau llachar a’i hachubiaeth yn llosgi fel ffagl.” Bydd y gwledydd yn gweld dy gyfiawnder, a’r holl frenhinoedd yn gweld dy ysblander; a byddi di’n cael enw newydd gan yr ARGLWYDD ei hun. Byddi fel coron hardd yn llaw yr ARGLWYDD, neu dwrban brenhinol yn llaw dy Dduw. Gei di byth eto yr enw ‘Gwrthodedig’, a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn ‘Anialwch’. Na, byddi’n cael dy alw ‘Fy hyfrydwch’, a bydd dy wlad yn cael yr enw ‘Fy mhriod’. Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti, a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo. Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc, bydd dy blant yn dy briodi di; ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda’i wraig, bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti.
Eseia 62:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Er mwyn Seion ni thawaf, er mwyn Jerwsalem ni fyddaf ddistaw, hyd oni ddisgleiria'i chyfiawnder yn llachar, a'i hiachawdwriaeth fel ffagl yn llosgi. Bydd y cenhedloedd yn gweld dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd dy ogoniant; gelwir arnat enw newydd, a roddir i ti o enau'r ARGLWYDD. Byddi'n goron odidog yn llaw'r ARGLWYDD, ac yn dorch frenhinol yn llaw dy Dduw. Ni'th enwir mwyach, Gwrthodedig, ac ni ddywedir drachefn am dy wlad, Anghyfannedd; eithr enwir di, Heffsiba, a'th wlad, Beula, oherwydd ymhyfryda'r ARGLWYDD ynot, a phriodir dy wlad. Fel y bydd llanc yn priodi merch ifanc, bydd dy adeiladydd yn dy briodi di; fel y bydd priodfab yn llawen yn ei briod, felly y bydd dy Dduw yn llawen ynot ti.
Eseia 62:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Er mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi. A’r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder, a’r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr ARGLWYDD. Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr ARGLWYDD, ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy DDUW. Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a’th dir, Beula: canys y mae yr ARGLWYDD yn dy hoffi, a’th dir a briodir. Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac â llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy DDUW o’th blegid di.