Eseia 62
62
Achub Jerwsalem
1“Er mwyn Seion dw i ddim yn mynd i dewi!
Er mwyn Jerwsalem dw i ddim yn mynd i orffwys,
nes bydd ei chyfiawnder yn disgleirio fel golau llachar
a’i hachubiaeth yn llosgi fel ffagl.”
2Bydd y gwledydd yn gweld dy gyfiawnder,
a’r holl frenhinoedd yn gweld dy ysblander;
a byddi di’n cael enw newydd
gan yr ARGLWYDD ei hun.
3Byddi fel coron hardd yn llaw yr ARGLWYDD,
neu dwrban brenhinol yn llaw dy Dduw.
4Gei di byth eto yr enw ‘Gwrthodedig’,
a fydd dy wlad ddim yn cael ei galw yn ‘Anialwch’.
Na, byddi’n cael dy alw ‘Fy hyfrydwch’,
a bydd dy wlad yn cael yr enw ‘Fy mhriod’.
Achos bydd yr ARGLWYDD wrth ei fodd gyda ti,
a bydd dy wlad fel gwraig ffrwythlon iddo.
5Fel mae bachgen yn priodi merch ifanc,
bydd dy blant yn dy briodi di;
ac fel mae priodfab wrth ei fodd gyda’i wraig,
bydd dy Dduw wrth ei fodd gyda ti.
6Dw i’n gosod gwylwyr ar dy waliau di, O Jerwsalem.
Fyddan nhw ddim yn dawel nos na dydd!
Chi sy’n gweddïo ar yr ARGLWYDD, peidiwch tewi;
7peidiwch rhoi llonydd iddo nes iddo adfer Jerwsalem,
a’i gwneud yn destun mawl drwy’r byd.
8Mae’r ARGLWYDD wedi tyngu llw i’w gryfder:
“Dw i ddim yn mynd i roi dy ŷd
yn fwyd i dy elynion byth eto!
A fydd plant estroniaid ddim yn yfed y gwin
wnest ti weithio mor galed amdano.
9Bydd y rhai sy’n medi’r cynhaeaf yn ei fwyta
ac yn moli’r ARGLWYDD.
A bydd y rhai sy’n casglu’r grawnwin
yn yfed y sudd yn fy nghysegr sanctaidd.”
10Dewch i mewn! Dewch i mewn drwy’r giatiau!
Cliriwch y ffordd i’r bobl ddod!
Adeiladwch! Adeiladwch briffordd!
Symudwch bob carreg sy’n rhwystr!
Codwch faner dros y bobloedd!#Eseia 11:12; 49:22
11Mae’r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn
drwy’r byd i gyd:
“Dwedwch wrth Seion annwyl,
‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod!
Edrych! Mae ei wobr ganddo;
mae’n dod â’i roddion o’i flaen.’”
12Byddan nhw’n cael eu galw, “Y Bobl Sanctaidd.
Pobl Rydd yr ARGLWYDD.”
A byddi di, Jerwsalem, yn cael dy alw,
“Yr un gafodd ei cheisio,”
“Dinas heb ei gwrthod”.
Dewis Presennol:
Eseia 62: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023