Eseia 52:1-12
Eseia 52:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion! Gwisga dy ddillad hardd, Jerwsalem, y ddinas sanctaidd! Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedu byth yn dod i mewn i ti eto. Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat, eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem! Tynna’r gefynnau oddi am dy wddf Seion, y gaethferch hardd! Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Cawsoch eich gwerthu am ddim, a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.” Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft; ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw. Felly, beth sy’n digwydd yma?” –meddai’r ARGLWYDD. “Mae fy mhobl wedi’u cipio i ffwrdd am ddim rheswm, ac mae’r rhai sy’n eu rheoli yn gwawdio.” –meddai’r ARGLWYDD. “Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy’r amser. Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod, ac yn gwybod mai fi ydy’r un sy’n dweud, ‘Dyma fi!’” Mae mor wych gweld negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi fod heddwch. Mae ganddo newyddion da – mae e’n cyhoeddi achubiaeth ac yn dweud wrth Seion, “Dy Dduw di sy’n teyrnasu!” Clyw! Mae’r rhai sy’n gwylio dy furiau yn galw; maen nhw’n gweiddi’n llawen gyda’i gilydd! Maen nhw’n gweld, o flaen eu llygaid, yr ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion. Gwaeddwch chithau hefyd, adfeilion Jerwsalem! Mae’r ARGLWYDD yn cysuro’i bobl ac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd. Mae’r ARGLWYDD wedi dangos ei nerth i’r cenhedloedd i gyd, ac mae pobl o ben draw’r byd yn gweld ein Duw ni yn achub. Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi! Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan! Chi sy’n cario llestri’r ARGLWYDD, cadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno. Ond does dim rhaid i chi adael ar frys na dianc fel ffoaduriaid, achos mae’r ARGLWYDD yn mynd o’ch blaen chi, ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o’r tu cefn.
Eseia 52:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion; ymwisga yn dy ddillad godidog, O Jerwsalem, y ddinas sanctaidd; oherwydd ni ddaw i mewn iti mwyach neb dienwaededig nac aflan. Cod, ymysgwyd o'r llwch, ti Jerwsalem gaeth; tyn y rhwymau oddi ar dy war, ti gaethferch Seion. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Gwerthwyd chwi am ddim, ac fe'ch gwaredir heb arian.” Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: “Yn y dechrau, i'r Aifft yr aeth fy mhobl i ymdeithio, ac yna bu Asyria'n eu gormesu'n ddiachos. Ond yn awr, beth a gaf yma?” medd yr ARGLWYDD. “Y mae fy mhobl wedi eu dwyn ymaith am ddim, eu gorthrymwyr yn llawn ymffrost,” medd yr ARGLWYDD, “a'm henw'n cael ei ddilorni o hyd, drwy'r dydd. Am hynny, fe gaiff fy mhobl adnabod fy enw; y dydd hwnnw cânt wybod mai myfi yw Duw, sy'n dweud, ‘Dyma fi.’ ” Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesydd sy'n cyhoeddi heddwch, yn datgan daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; sy'n dweud wrth Seion, “Dy Dduw sy'n teyrnasu.” Clyw, y mae dy wylwyr yn codi eu llais ac yn bloeddio'n llawen gyda'i gilydd; â'u llygaid eu hunain y gwelant yr ARGLWYDD yn dychwelyd i Seion. Bloeddiwch, cydganwch, chwi adfeilion Jerwsalem, oherwydd tosturiodd yr ARGLWYDD wrth ei bobl, a gwaredodd Jerwsalem. Dinoethodd yr ARGLWYDD ei fraich sanctaidd yng ngŵydd yr holl genhedloedd, ac fe wêl holl gyrrau'r ddaear iachawdwriaeth ein Duw ni. Allan! Allan! Ymaith â chwi! Peidiwch â chyffwrdd â dim aflan. Ewch allan o'i chanol, glanhewch eich hunain, chwi sy'n cludo llestri'r ARGLWYDD. Nid ar ffrwst yr ewch allan, ac nid fel ffoaduriaid y byddwch yn ymadael, oherwydd bydd yr ARGLWYDD ar y blaen, a Duw Israel y tu cefn i chwi.
Eseia 52:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerwsalem: canys ni ddaw o’th fewn mwy ddienwaededig nac aflan. Ymysgwyd o’r llwch, cyfod, eistedd, Jerwsalem: ymddatod oddi wrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion. Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yn rhad yr ymwerthasoch; ac nid ag arian y’ch gwaredir. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd DDUW, Fy mhobl a aeth i waered i’r Aifft yn y dechreuad, i ymdaith yno; a’r Asyriaid a’u gorthrymodd yn ddiachos. Ac yn awr beth sydd yma i mi, medd yr ARGLWYDD, pan ddygid fy mhobl ymaith yn rhad? eu llywodraethwyr a wna iddynt udo, medd yr ARGLWYDD; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw. Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw: am hynny y cânt wybod y dydd hwnnw, mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd: wele, myfi ydyw. Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; a’r hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy DDUW di sydd yn teyrnasu. Dy wylwyr a ddyrchafant lef; gyda’r llef y cydganant: canys gwelant lygad yn llygad, pan ddychwelo yr ARGLWYDD Seion. Bloeddiwch, cydgenwch, anialwch Jerwsalem: canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerwsalem. Diosgodd yr ARGLWYDD fraich ei sancteiddrwydd yng ngolwg yr holl genhedloedd: a holl gyrrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein DUW ni. Ciliwch, ciliwch, ewch allan oddi yno, na chyffyrddwch â dim halogedig; ewch allan o’i chanol; ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr ARGLWYDD. Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffo y cerddwch: canys yr ARGLWYDD a â o’ch blaen chwi, a DUW Israel a’ch casgl chwi.