Eseia 51:1-23
Eseia 51:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Gwrandwch arna i, chi sy’n awyddus i wneud beth sy’n iawn, ac yn ceisio’r ARGLWYDD: ystyriwch y graig y cawsoch eich naddu ohoni, a’r chwarel y cawsoch eich cloddio ohoni. Meddyliwch am Abraham, eich tad, a Sara, y cawsoch eich geni iddi. Roedd ar ei ben ei hun pan wnes i alw arno, ond bendithiais e, a’i wneud yn llawer. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, bydd yn cysuro’i hadfeilion. Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD. Bydd llawenydd a dathlu i’w clywed ynddi, lleisiau’n diolch a sŵn canu. Gwrandwch arna i, fy mhobl; daliwch sylw, fy nghenedl. Achos bydda i’n dysgu pobl, a bydd fy nghyfiawnder yn olau i’r bobloedd. Dw i ar fin gwneud pethau’n iawn, dw i ar fy ffordd i achub, a bydd fy mraich gref yn rheoli pobloedd. Bydd yr ynysoedd yn troi ata i, ac yn disgwyl yn frwd i mi ddangos fy nerth. Edrychwch i fyny i’r awyr, ac edrychwch ar y ddaear islaw: bydd yr awyr yn gwasgaru fel mwg, y ddaear yn treulio fel dillad, a’r bobl sy’n byw arni yn marw fel gwybed, ond mae fy achubiaeth i yn aros am byth, a’m cyfiawnder ddim yn pallu. Gwrandwch arna i, chi sy’n gwybod beth sy’n iawn, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calonnau. Peidiwch bod ag ofn pan mae pobl feidrol yn eich sarhau chi, na digalonni pan maen nhw’n gwneud sbort. Bydd gwyfyn yn eu bwyta fel dilledyn, a’r pryf dillad yn eu llyncu fel gwlân. Bydd fy nghyfiawnder yn para am byth, a’m hachubiaeth o un genhedlaeth i’r llall.” Deffra, deffra! Dangos dy nerth, o fraich yr ARGLWYDD! Deffra, fel yn yr hen ddyddiau, yn yr amser a fu! Onid ti dorrodd Rahab yn ddarnau, a thrywanu’r ddraig? Onid ti sychodd y môr, a dŵr y dyfnder mawr? Onid ti wnaeth ddyfnder y môr yn ffordd i’r rhai gafodd eu rhyddhau gerdded arni? Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy’n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw’n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd. “Fi, fi ydy’r un sy’n eich cysuro chi! Pam wyt ti’n ofni dyn meidrol – pobl feidrol sydd fel glaswellt? Wyt ti wedi anghofio’r ARGLWYDD sydd wedi dy greu di? Yr un wnaeth ledu’r awyr a gosod sylfeini’r ddaear! Pam mae gen ti ofn am dy fywyd drwy’r amser, fod y gormeswr wedi gwylltio ac yn barod i dy daro di i lawr? Ble mae llid y gormeswr beth bynnag? Bydd yr un caeth yn cael ei ryddhau ar frys! Fydd e ddim yn marw yn ei gell nac yn llwgu. Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw di sy’n corddi’r môr yn donnau mawr – yr ARGLWYDD hollbwerus ydy fy enw i. Dw i wedi rhoi neges i ti ei rhannu ac wedi dy amddiffyn di dan gysgod fy llaw; Fi roddodd yr awyr yn ei lle a gwneud y ddaear yn gadarn! A dw i wedi dweud wrth Seion: ‘Fy mhobl i ydych chi!’” Deffra! Deffra! Saf ar dy draed, Jerwsalem – ti sydd wedi yfed o’r gwpan roddodd yr ARGLWYDD i ti yn ei lid! Ti sydd wedi yfed y gwpan feddwol i’w gwaelod! Does yr un o’r meibion gafodd eu geni iddi yn ei harwain; does dim un o’r meibion fagodd hi yn gafael yn ei llaw. Mae dau beth wedi digwydd i ti: llanast a dinistr – pwy sy’n cydymdeimlo gyda ti? newyn a’r cleddyf – sut alla i dy gysuro di? Mae dy blant wedi llewygu! Maen nhw’n gorwedd ar gornel pob stryd, fel antelop wedi’i ddal mewn rhwyd – yn feddw gan ddigofaint yr ARGLWYDD, wedi’u ceryddu gan dy Dduw. Felly, gwrando ar hyn, ti’r un druenus sydd wedi meddwi, ond ddim ar win! Dyma mae dy feistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, y Duw sy’n dadlau achos ei bobl: “Edrych! Dw i wedi cymryd y gwpan feddwol o dy law di, y gostrel rois i i ti yn fy llid. Does dim rhaid i ti yfed ohoni byth eto! Bydda i’n ei rhoi yn nwylo’r rhai wnaeth dy ormesu a dweud wrthot ti, ‘Gorwedd i lawr, i ni gerdded drosot ti.’ Roedd rhaid i ti roi dy gefn i fod fel stryd i bobl ei sathru.”
Eseia 51:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Gwrandewch arnaf, chwi sy'n dilyn cyfiawnder, sy'n ceisio'r ARGLWYDD. Edrychwch ar y graig y'ch naddwyd ohoni, ac ar y chwarel lle'ch cloddiwyd; edrychwch at Abraham eich tad, ac at Sara, a'ch dygodd i'r byd; un ydoedd pan elwais ef, ond fe'i bendithiais a'i amlhau. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd; bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden, a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD; ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd, emyn diolch a sain cân. “Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clywch fi, fy nghenedl; oherwydd daw cyfraith allan oddi wrthyf, a bydd fy marn yn goleuo pobloedd. Y mae fy muddugoliaeth gerllaw, a'm hiachawdwriaeth ar ddod; bydd fy mraich yn rheoli'r bobloedd; bydd yr ynysoedd yn disgwyl wrthyf, ac yn ymddiried yn fy mraich. Codwch eich golwg i'r nefoedd, edrychwch ar y ddaear islaw; y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg, a'r ddaear yn treulio fel dilledyn, a'i thrigolion yn marw fel gwybed; ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth, ac ni phalla fy muddugoliaeth. “Gwrandewch arnaf, chwi sy'n adnabod cyfiawnder, rhai sydd â'm cyfraith yn eu calon: Peidiwch ag ofni gwaradwydd pobl, nac arswydo rhag eu gwatwar; oherwydd bydd y pryf yn eu hysu fel dilledyn, a'r gwyfyn yn eu bwyta fel gwlân; ond bydd fy muddugoliaeth yn parhau byth, a'm hiachawdwriaeth i bob cenhedlaeth.” Deffro, deffro, gwisg dy nerth, O fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, a'r oesoedd o'r blaen. Onid ti a ddrylliodd Rahab, a thrywanu'r ddraig? Onid ti a sychodd y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? Onid ti a wnaeth ddyfnderau'r môr yn ffordd i'r gwaredigion groesi? Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD; dônt i Seion dan ganu, a llawenydd tragwyddol ar bob un. Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith. “Myfi, myfi sy'n eich diddanu; pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol, neu rywun sydd fel glaswelltyn? Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr, yr un a ledodd y nefoedd, ac a sylfaenodd y ddaear? Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd, rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio? Ond ple mae llid y gorthrymwr? Caiff y caeth ei ryddhau yn y man; ni fydd yn marw yn y gell, ac ni fydd pall ar ei fara. Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw, sy'n cynhyrfu'r môr nes i'r tonnau ruo; ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw. Gosodais fy ngeiriau yn dy enau, cysgodais di yng nghledr fy llaw; taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear, a dweud wrth Seion, ‘Fy mhobl wyt ti.’ ” Deffro, deffro, cod, Jerwsalem; yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid, yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol. O blith yr holl blant yr esgorodd arnynt, nid oes un a all ei thywys; o'r holl rai a fagodd, nid oes un a afael yn ei llaw. Daeth dau drychineb i'th gyfarfod— pwy a'th ddiddana? Dinistr a distryw, newyn a chleddyf— pwy a'th gysura? Gorwedd dy blant yn llesg ym mhen pob heol, fel gafrewig mewn magl; y maent yn llawn o lid yr ARGLWYDD, a cherydd dy Dduw. Am hynny, gwrando'n awr, y druan, sy'n feddw, er nad trwy win. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Arglwydd a'th Dduw di, yr un sy'n dadlau achos ei bobl: “Cymerais o'th law y cwpan meddwol, ac nid yfi mwyach waddod cwpan fy llid; ond rhof hi yn llaw dy ormeswyr, a ddywedodd wrthyt, ‘Plyga i lawr i ni gerdded trosot.’ Ac fe roist dy gefn fel llawr, ac fel heol iddynt gerdded trosti.”
Eseia 51:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwrandewch arnaf fi, ddilynwyr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr ARGLWYDD: edrychwch ar y graig y’ch naddwyd, ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd ohonynt. Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sara a’ch esgorodd: canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef. Oherwydd yr ARGLWYDD a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD: ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch, a llais cân. Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clustymwrandewch â mi, fy nghenedl: canys cyfraith a â allan oddi wrthyf, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd. Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich. Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd. Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad. Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a’m hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaist y ddraig? Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd? Am hynny y dychwel gwaredigion yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith. Myfi, myfi, yw yr hwn a’ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a wneir fel glaswelltyn? Ac a anghofi yr ARGLWYDD dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio? a pha le y mae llid y gorthrymydd? Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef. Eithr myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw ARGLWYDD y lluoedd. Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y’th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt. Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lidiowgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef. Nid oes arweinydd iddi o’r holl feibion a esgorodd; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd. Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y’th gysuraf? Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol, fel tarw gwyllt mewn magl: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr ARGLWYDD, a cherydd dy DDUW. Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a’r feddw, ac nid trwy win. Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr ARGLWYDD, a’th DDUW di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o’th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ei yfed mwy: Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot: a thi a osodaist dy gorff fel y llawr, ac fel heol i’r rhai a elent drosto.