Eseia 50:7-10
Eseia 50:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal, am hynny ni chaf fy sarhau; felly gosodaf fy wyneb fel callestr, a gwn na'm cywilyddir. Y mae'r hwn sy'n fy nghyfiawnhau wrth law. Pwy a ddadlau i'm herbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd; pwy a'm gwrthwyneba? Gadewch iddo nesáu ataf. Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal: pwy a'm condemnia? Byddant i gyd yn treulio fel dilledyn a ysir gan wyfyn. Pwy bynnag ohonoch sy'n ofni'r ARGLWYDD, gwrandawed ar lais ei was. Yr un sy'n rhodio mewn tywyllwch heb olau ganddo, ymddirieded yn enw'r ARGLWYDD, a phwyso ar ei Dduw.
Eseia 50:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu – felly dw i ddim yn derbyn yr amarch. Dw i’n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint, a dw i’n gwybod na fydda i’n cywilyddio. Mae’r un sy’n fy amddiffyn i wrth fy ymyl – pwy sy’n meiddio ymladd yn fy erbyn? Gadewch i ni wynebu’n gilydd! pwy sydd am fy ngwrthwynebu i? Gadewch iddo ddod ata i! Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i – pwy sy’n mynd i’m cael yn euog o wneud drwg? Edrychwch! Byddan nhw’n treulio fel dilledyn; bydd gwyfyn yn eu difetha nhw. Pwy ohonoch sy’n parchu’r ARGLWYDD? Pwy sy’n gwrando ar lais ei was? Dylai’r sawl sy’n cerdded mewn tywyllwch dudew, heb olau ganddo o gwbl, drystio’r ARGLWYDD a phwyso ar ei Dduw.
Eseia 50:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd yr Arglwydd DDUW a’m cymorth; am hynny ni’m cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir. Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf. Wele, yr Arglwydd DDUW a’m cynorthwya; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a’u hysa hwynt. Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr ARGLWYDD, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr ARGLWYDD, ac ymddirieded yn ei DDUW.