Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 49:1-26

Eseia 49:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwrandwch arna i, ynysoedd! Daliwch sylw, chi bobloedd o bell: Galwodd yr ARGLWYDD fi cyn i mi gael fy ngeni; rhoddodd fy enw i mi pan oeddwn i’n dal yng nghroth fy mam. Gwnaeth fy ngheg fel cleddyf miniog, a chuddiodd fi dan gysgod ei law. Gwnaeth fi fel saeth loyw, a chuddiodd fi yn ei gawell. Dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy ngwas i, Israel, y caf fy anrhydeddu drwyddi.” Meddyliais fy mod wedi gweithio’n galed i ddim byd, a gwastraffu fy holl egni i ddim pwrpas. Ond mae fy achos yn llaw’r ARGLWYDD, a bydd fy Nuw yn rhoi fy ngwobr i mi. Nawr, mae’r ARGLWYDD, wnaeth fy llunio i yn y groth i fod yn was iddo, yn dweud ei fod am adfer pobl Jacob a dod ag Israel yn ôl ato’i hun. Bydda i wedi fy anrhydeddu yng ngolwg yr ARGLWYDD, am mai Duw sy’n fy nerthu i. Yna dwedodd, “Mae’n beth rhy fach i ti fod yn was i mi dim ond i godi llwythau Jacob ar eu traed ac adfer yr ychydig rai fydd ar ôl yn Israel. Bydda i’n dy wneud di yn olau i’r cenhedloedd, er mwyn i bobl o ben draw’r byd gael eu hachub.” Dyma mae’r ARGLWYDD sy’n rhyddhau Israel – yr Un Sanctaidd – yn ei ddweud wrth yr un sy’n cael ei dirmygu; wrth genedl sy’n cael ei ffieiddio, a gwas y rhai sy’n llywodraethu: “Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed, a bydd tywysogion yn ymgrymu, am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon, Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydda i’n dy ateb di pan fydd yr amser yn iawn, ac yn dy helpu di pan ddaw’r dydd i mi achub. Fi sydd wedi dy siapio di, a dy benodi di’n ganolwr fy ymrwymiad i’r bobl – bydda i’n adfer y wlad, ac yn rhoi’r hawliau ar y tir yn ôl i’w phobl. Byddi’n dweud wrth garcharorion, ‘Cewch fod yn rhydd’, ac wrth y rhai sydd yn y tywyllwch, ‘Dewch i’r golwg’. Byddan nhw fel defaid yn pori ar ochr y ffyrdd, ac yn cael porfa ar lethrau’r bryniau. Fydd dim syched nac eisiau bwyd arnyn nhw; fydd y gwynt poeth a’r haul ddim yn eu taro nhw. Achos bydd yr un sy’n eu caru nhw yn eu harwain, ac yn mynd â nhw at ffynhonnau o ddŵr. Bydda i’n gwneud y mynyddoedd yn ffordd agored, ac yn adeiladu priffyrdd amlwg.” Edrychwch! Mae rhai’n dod o bell. Edrychwch! Mae rhai’n dod o’r gogledd, eraill o’r gorllewin, a rhai o wlad Sinim. Cân, nefoedd, a dathla, ddaear! Torrwch allan i ganu’n llawen, fynyddoedd! Achos mae’r ARGLWYDD wedi cysuro’i bobl, ac wedi tosturio wrth y rhai fu’n dioddef. “Dwedodd Seion, ‘Mae’r ARGLWYDD wedi troi cefn arna i; mae fy Meistr wedi fy anghofio i.’ Ydy gwraig yn gallu anghofio’r babi ar ei bron? Ydy hi’n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn? Hyd yn oed petaen nhw’n anghofio, fyddwn i’n sicr ddim yn dy anghofio di! Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo! Wna i byth golli golwg ar dy waliau di. Bydd dy adeiladwyr yn gweithio’n gyflymach na’r rhai wnaeth dy ddinistrio di; mae’r rhai achosodd y fath lanast wedi mynd! Edrych o dy gwmpas! Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw’n dod atat ti! Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn, “byddi di’n eu gwisgo nhw fel gemau, ac fel priodferch yn ei gwisg briodas. Er dy fod wedi dy daro, dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad, bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti, a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd. Bydd y plant gafodd eu geni yn y cyfnod o golled yn dweud yn dy glyw di, ‘Mae hi’n rhy gyfyng yn y lle yma; symudwch i wneud lle i ni!’ A byddi di’n meddwl i ti dy hun, ‘Pwy gafodd y plant yma i mi? Rôn i’n weddw ac yn methu cael plant. Rôn wedi cael fy ngwrthod a’m gadael – felly pwy fagodd y rhain? Rôn wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun – felly o ble daeth y rhain i gyd?’” Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i’n gwneud arwydd i alw’r cenhedloedd, ac yn codi fy maner i’r bobloedd. Byddan nhw’n cario dy feibion yn eu côl, a dy ferched ar eu hysgwyddau. Bydd brenhinoedd yn gofalu amdanat ti, a breninesau yn famau maeth. Byddan nhw’n plygu o’th flaen a’u hwynebau ar lawr, ac yn llyfu’r llwch wrth dy draed di. A byddi di’n deall mai fi ydy’r ARGLWYDD – fydd y rhai sydd â’u gobaith ynof fi ddim yn cael eu siomi. Ydy’n bosib dwyn ysbail oddi ar ryfelwr, neu ryddhau caethion o law gormeswr?” Wel, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd caethion yn cael eu cymryd oddi ar ryfelwr, ac ysbail yn cael ei dwyn oddi ar ormeswr; Bydda i’n ymladd gyda dy elynion di, ac yn achub dy blant di. Bydda i’n gwneud i dy ormeswyr fwyta eu cnawd eu hunain; byddan nhw’n meddwi ar eu gwaed eu hunain, fel ar win melys. A bydd y ddynoliaeth gyfan yn gwybod mai fi ydy’r ARGLWYDD sy’n dy achub di ac yn dy ollwng yn rhydd – Un Cryf Jacob!”

Eseia 49:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwrandewch arnaf, chwi ynysoedd, rhowch sylw, chwi bobl o bell. Galwodd yr ARGLWYDD fi o'r groth; o fru fy mam fe'm henwodd. Gwnaeth fy ngenau fel cleddyf llym, a'm cadw yng nghysgod ei law; gwnaeth fi yn saeth loyw, a'm cuddio yng nghawell ei saethau. Dywedodd wrthyf, “Fy ngwas wyt ti; ynot ti, Israel, y caf ogoniant.” Dywedais innau, “Llafuriais yn ofer, a threuliais fy nerth i ddim; er hynny y mae fy achos gyda'r ARGLWYDD a'm gwobr gyda'm Duw.” Ac yn awr, llefarodd yr ARGLWYDD, a'm lluniodd o'r groth yn was iddo, i adfer Jacob iddo a chasglu Israel ato, i'm gogoneddu yng ngŵydd yr ARGLWYDD, am fod fy Nuw yn gadernid i mi. Dywedodd, “Peth bychan yw i ti fod yn was i mi, i godi llwythau Jacob ar eu traed, ac adfer rhai cadwedig Israel; fe'th wnaf di yn oleuni i'r cenhedloedd, i'm hiachawdwriaeth gyrraedd hyd eithaf y ddaear.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a'i Sanct, wrth yr un a ddirmygir ac a ffieiddir gan bobloedd, wrth gaethwas y trahaus: “Bydd brenhinoedd yn sefyll pan welant, a'r tywysogion yn ymgrymu, o achos yr ARGLWYDD, sy'n ffyddlon, a Sanct Israel, a'th ddewisodd di.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Atebaf di yn adeg ffafr, a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth; cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl; adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth; a dywedaf wrth y carcharorion, ‘Ewch allan’, ac wrth y rhai mewn tywyllwch, ‘Dewch i'r golau’. Cânt bori ar fin y ffyrdd a chael porfa ar y moelydd. Ni newynant ac ni sychedant, ni fydd gwres na haul yn eu taro, oherwydd un sy'n tosturio wrthynt sy'n eu harwain, ac yn eu tywys at ffynhonnau o ddŵr. Gwnaf bob mynydd yn ffordd, a llenwi o dan fy llwybrau. Y mae rhai yn dod o bell, a rhai o'r gogledd a'r gorllewin, ac eraill o wlad Sinim.” Cân, nefoedd; gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd. Canys y mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei bobl, ac yn tosturio wrth ei drueiniaid. Dywedodd Seion, “Gwrthododd yr ARGLWYDD fi, ac anghofiodd fy Arglwydd fi.” “A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, neu fam blentyn ei chroth? Fe allant hwy anghofio, ond nid anghofiaf fi di. Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo; y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid; y mae dy adeiladwyr yn gyflymach na'r rhai sy'n dy ddinistrio, ac y mae dy anrheithwyr wedi mynd ymaith. Edrych o'th amgylch, a gwêl; y mae pawb yn ymgasglu ac yn dod atat. Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr ARGLWYDD, “byddi'n eu gwisgo i gyd fel addurn, ac yn eu rhwymo amdanat fel y gwna priodferch. Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaith yn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr, gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd. Bydd y plant a anwyd yn nydd dy alar yn dweud eto'n hyglyw, ‘Nid oes digon o le i mi; symud draw, i mi gael lle i fyw.’ “Yna y dywedi ynot dy hun, ‘Pwy a genhedlodd y rhain i mi, a minnau'n weddw ac yn ddi-blant? Yr oeddwn i mewn caethglud ac yn ddigartref; pwy a'u magodd hwy? Yn wir, roeddwn i wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun; o ble, ynteu, y daeth y rhain?’ ” Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: “Rhof arwydd â'm llaw i'r cenhedloedd, a chodaf fy maner i'r bobloedd, a dygant dy feibion yn eu mynwes, a chludo dy ferched ar eu hysgwydd. Bydd brenhinoedd yn dadau maeth iti, a'u tywysogesau yn famau maeth iti; plygant i'r llawr o'th flaen a llyfu llwch dy draed; yna y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, ac na siomir neb sy'n disgwyl wrthyf.” A ddygir ysbail oddi ar y cadarn? A ryddheir carcharor o law'r gormeswr? Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fe ddygir carcharor o law'r cadarn, ac fe ryddheir ysbail o law'r gormeswr; myfi fydd yn dadlau â'th gyhuddwr, ac yn gwaredu dy blant. Gwnaf i'th orthrymwyr fwyta'u cnawd eu hunain, a meddwaf hwy â'u gwaed eu hunain fel â gwin; yna caiff pawb wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy Waredydd, ac mai Un Cadarn Jacob yw dy Achubydd.”

Eseia 49:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrandewch arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr ARGLWYDD a’m galwodd o’r groth; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw. Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym, yng nghysgod ei law y’m cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau; Ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas i ydwyt ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot. Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hynny y mae fy marn gyda’r ARGLWYDD, a’m gwaith gyda’m DUW. Ac yn awr, medd yr ARGLWYDD yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr ARGLWYDD, a’m DUW fydd fy nerth. Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a’i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr ARGLWYDD, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a’th ddewisodd di. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mewn amser bodlongar y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais; a mi a’th gadwaf, ac a’th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol; Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt. Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys, ac a’u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd. A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a’m priffyrdd a gyfodir. Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o’r gogledd, ac o’r gorllewin; a’r rhai yma o dir Sinim. Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid. Eto dywedodd Seion, Yr ARGLWYDD a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd. A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di. Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser. Dy blant a frysiant; y rhai a’th ddinistriant, ac a’th ddistrywiant, a ânt allan ohonot. Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch. Canys dy ddiffeithwch a’th anialwch, a’th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a’r rhai a’th lyncant a ymbellhânt. Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi, fel y preswyliwyf. Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn? Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau. Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti â’u hwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi. A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn? Ond fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ie, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddianc: canys myfi a ymrysonaf â’th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion. Gwnaf hefyd i’th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th gadarn Waredydd di, Jacob.