Gwrandewch arnaf, chwi ynysoedd,
rhowch sylw, chwi bobl o bell.
Galwodd yr ARGLWYDD fi o'r groth;
o fru fy mam fe'm henwodd.
Gwnaeth fy ngenau fel cleddyf llym,
a'm cadw yng nghysgod ei law;
gwnaeth fi yn saeth loyw,
a'm cuddio yng nghawell ei saethau.
Dywedodd wrthyf, “Fy ngwas wyt ti;
ynot ti, Israel, y caf ogoniant.”
Dywedais innau, “Llafuriais yn ofer,
a threuliais fy nerth i ddim;
er hynny y mae fy achos gyda'r ARGLWYDD
a'm gwobr gyda'm Duw.”
Ac yn awr, llefarodd yr ARGLWYDD,
a'm lluniodd o'r groth yn was iddo,
i adfer Jacob iddo a chasglu Israel ato,
i'm gogoneddu yng ngŵydd yr ARGLWYDD,
am fod fy Nuw yn gadernid i mi.
Dywedodd, “Peth bychan yw i ti fod yn was i mi,
i godi llwythau Jacob ar eu traed,
ac adfer rhai cadwedig Israel;
fe'th wnaf di yn oleuni i'r cenhedloedd,
i'm hiachawdwriaeth gyrraedd hyd eithaf y ddaear.”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,
Gwaredydd Israel, a'i Sanct,
wrth yr un a ddirmygir ac a ffieiddir gan bobloedd,
wrth gaethwas y trahaus:
“Bydd brenhinoedd yn sefyll pan welant,
a'r tywysogion yn ymgrymu,
o achos yr ARGLWYDD, sy'n ffyddlon,
a Sanct Israel, a'th ddewisodd di.”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Atebaf di yn adeg ffafr,
a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth;
cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl;
adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth;
a dywedaf wrth y carcharorion, ‘Ewch allan’,
ac wrth y rhai mewn tywyllwch, ‘Dewch i'r golau’.
Cânt bori ar fin y ffyrdd
a chael porfa ar y moelydd.
Ni newynant ac ni sychedant,
ni fydd gwres na haul yn eu taro,
oherwydd un sy'n tosturio wrthynt sy'n eu harwain,
ac yn eu tywys at ffynhonnau o ddŵr.
Gwnaf bob mynydd yn ffordd,
a llenwi o dan fy llwybrau.
Y mae rhai yn dod o bell,
a rhai o'r gogledd a'r gorllewin,
ac eraill o wlad Sinim.”
Cân, nefoedd; gorfoledda, ddaear;
bloeddiwch ganu, fynyddoedd.
Canys y mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei bobl,
ac yn tosturio wrth ei drueiniaid.
Dywedodd Seion, “Gwrthododd yr ARGLWYDD fi,
ac anghofiodd fy Arglwydd fi.”
“A anghofia gwraig ei phlentyn sugno,
neu fam blentyn ei chroth?
Fe allant hwy anghofio,
ond nid anghofiaf fi di.
Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo;
y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid;
y mae dy adeiladwyr yn gyflymach na'r rhai sy'n dy ddinistrio,
ac y mae dy anrheithwyr wedi mynd ymaith.
Edrych o'th amgylch, a gwêl;
y mae pawb yn ymgasglu ac yn dod atat.
Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr ARGLWYDD,
“byddi'n eu gwisgo i gyd fel addurn,
ac yn eu rhwymo amdanat fel y gwna priodferch.
Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaith
yn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr,
gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd.
Bydd y plant a anwyd yn nydd dy alar
yn dweud eto'n hyglyw,
‘Nid oes digon o le i mi;
symud draw, i mi gael lle i fyw.’
“Yna y dywedi ynot dy hun,
‘Pwy a genhedlodd y rhain i mi,
a minnau'n weddw ac yn ddi-blant?
Yr oeddwn i mewn caethglud ac yn ddigartref;
pwy a'u magodd hwy?
Yn wir, roeddwn i wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;
o ble, ynteu, y daeth y rhain?’ ”
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
“Rhof arwydd â'm llaw i'r cenhedloedd,
a chodaf fy maner i'r bobloedd,
a dygant dy feibion yn eu mynwes,
a chludo dy ferched ar eu hysgwydd.
Bydd brenhinoedd yn dadau maeth iti,
a'u tywysogesau yn famau maeth iti;
plygant i'r llawr o'th flaen
a llyfu llwch dy draed;
yna y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,
ac na siomir neb sy'n disgwyl wrthyf.”
A ddygir ysbail oddi ar y cadarn?
A ryddheir carcharor o law'r gormeswr?
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Fe ddygir carcharor o law'r cadarn,
ac fe ryddheir ysbail o law'r gormeswr;
myfi fydd yn dadlau â'th gyhuddwr,
ac yn gwaredu dy blant.
Gwnaf i'th orthrymwyr fwyta'u cnawd eu hunain,
a meddwaf hwy â'u gwaed eu hunain fel â gwin;
yna caiff pawb wybod
mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy Waredydd,
ac mai Un Cadarn Jacob yw dy Achubydd.”