Eseia 44:21-22
Eseia 44:21-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ystyria hyn, Jacob, oherwydd fy ngwas wyt ti, Israel. Lluniais di, gwas i mi wyt ti; O Israel, paid â'm hanghofio. Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a'th bechodau fel niwl; dychwel ataf, canys yr wyf wedi dy waredu.”
Rhanna
Darllen Eseia 44Eseia 44:21-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cofia’r pethau yma, Jacob achos ti ydy fy ngwas i, Israel. Fi wnaeth dy siapio di, ac rwyt ti’n was i mi – fydda i ddim yn dy anghofio di, Israel. Dw i wedi ysgubo dy wrthryfel di i ffwrdd fel cwmwl, a dy bechodau di fel niwl – tro yn ôl ata i! Dw i wedi dy ryddhau di.”
Rhanna
Darllen Eseia 44