Eseia 43:5-7
Eseia 43:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i’n dod â’th ddisgynyddion di yn ôl o’r dwyrain, ac yn dy gasglu di o’r gorllewin. Bydda i’n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’ ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’ Tyrd â’m meibion i o wledydd pell, a’m merched o ben draw’r byd – pawb sydd â’m henw i arnyn nhw, ac wedi’u creu i ddangos fy ysblander i. Ie, fi wnaeth eu siapio a’u gwneud nhw.
Eseia 43:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi. Dygaf dy had o'r dwyrain, casglaf di o'r gorllewin; gorchmynnaf i'r gogledd, ‘Rho’, ac i'r de, ‘Paid â dal yn ôl; tyrd â'm meibion o bell, a'm merched o eithafoedd byd— pob un sydd â'm henw arno, ac a greais i'm gogoniant, ac a luniais, ac a wneuthum.’ ”
Eseia 43:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf. Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a’m merched o eithaf y ddaear; Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.