Eseia 43:2-3
Eseia 43:2-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan fyddi di’n mynd drwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded drwy dân, fyddi di’n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di. Achos fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw di, Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di! Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti, Cwsh a Seba yn dy le di.
Eseia 43:2-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di. Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel, yw dy Waredydd; rhof yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.
Eseia 43:2-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tân, ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat. Canys myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat.