Eseia 43:1-7
Eseia 43:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Nawr, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel: “Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di’n rhydd! Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti! Pan fyddi di’n mynd drwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded drwy dân, fyddi di’n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di. Achos fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw di, Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di! Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti, Cwsh a Seba yn dy le di. Dw i’n dy drysori di ac yn dy garu di, achos ti’n werthfawr yn fy ngolwg i. Dw i’n barod i roi’r ddynoliaeth yn gyfnewid amdanat ti, a’r bobloedd yn dy le di. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i’n dod â’th ddisgynyddion di yn ôl o’r dwyrain, ac yn dy gasglu di o’r gorllewin. Bydda i’n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’ ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’ Tyrd â’m meibion i o wledydd pell, a’m merched o ben draw’r byd – pawb sydd â’m henw i arnyn nhw, ac wedi’u creu i ddangos fy ysblander i. Ie, fi wnaeth eu siapio a’u gwneud nhw.
Eseia 43:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel: “Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt. Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di. Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel, yw dy Waredydd; rhof yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat. Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, yn ogoneddus, a minnau'n dy garu, rhof eraill yn gyfnewid amdanat, a phobloedd am dy einioes. Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi. Dygaf dy had o'r dwyrain, casglaf di o'r gorllewin; gorchmynnaf i'r gogledd, ‘Rho’, ac i'r de, ‘Paid â dal yn ôl; tyrd â'm meibion o bell, a'm merched o eithafoedd byd— pob un sydd â'm henw arno, ac a greais i'm gogoniant, ac a luniais, ac a wneuthum.’ ”
Eseia 43:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tân, ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat. Canys myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat. Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di. Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf. Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a’m merched o eithaf y ddaear; Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.