Eseia 43:1-2
Eseia 43:1-2 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Nawr, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel: “Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di’n rhydd! Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti! Pan fyddi di’n mynd drwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded drwy dân, fyddi di’n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.
Eseia 43:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel: “Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt. Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
Eseia 43:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tân, ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat.