Eseia 41:1-10
Eseia 41:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd, bydded i'r bobl nesáu; bydded iddynt nesáu a llefaru; down ynghyd i farn. “Pwy sy'n codi un o'r dwyrain, a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam? Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen, ac yn darostwng brenhinoedd. Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf, fel us yn chwyrlïo â'i fwa. Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogel ar hyd llwybr na throediodd o'r blaen. Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn, a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad? Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau, a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.” Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni; daeth cryndod ar eithafion byd; daethant, a nesáu. Y mae pawb yn helpu ei gilydd, a'r naill yn dweud wrth y llall, “Ymgryfha.” Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych, a'r un sy'n llyfnhau â'r morthwyl yn annog yr un sy'n taro ar yr eingion; y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn, ac yn sicrhau'r ddelw â hoelion rhag iddi symud. “Ti, Israel, yw fy ngwas; ti, Jacob, a ddewisais, had Abraham, f'anwylyd. Dygais di o bellteroedd byd, a'th alw o'i eithafion, a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti; rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’ Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Eseia 41:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Distewch, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cyd-nesawn i farn. Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef. Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â’i draed. Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad? Myfi yr ARGLWYDD y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf. Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant. Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha. Felly y saer a gysurodd yr eurych, a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i’w asio; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir. Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais. Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder.