“Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd,
bydded i'r bobl nesáu;
bydded iddynt nesáu a llefaru;
down ynghyd i farn.
“Pwy sy'n codi un o'r dwyrain,
a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam?
Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen,
ac yn darostwng brenhinoedd.
Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf,
fel us yn chwyrlïo â'i fwa.
Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogel
ar hyd llwybr na throediodd o'r blaen.
Pwy a wnaeth ac a gyflawnodd hyn,
a galw'r cenedlaethau o'r dechreuad?
Myfi, yr ARGLWYDD, yw'r dechrau,
a myfi sydd yno yn y diwedd hefyd.”
Gwelodd yr ynysoedd, ac ofni;
daeth cryndod ar eithafion byd;
daethant, a nesáu.
Y mae pawb yn helpu ei gilydd,
a'r naill yn dweud wrth y llall, “Ymgryfha.”
Y mae'r crefftwr yn annog yr eurych,
a'r un sy'n llyfnhau â'r morthwyl
yn annog yr un sy'n taro ar yr eingion;
y mae'n dyfarnu bod y sodro'n iawn,
ac yn sicrhau'r ddelw â hoelion rhag iddi symud.
“Ti, Israel, yw fy ngwas;
ti, Jacob, a ddewisais,
had Abraham, f'anwylyd.
Dygais di o bellteroedd byd,
a'th alw o'i eithafion,
a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti;
rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi;
paid â dychryn, myfi yw dy Dduw.
Cryfhaf di a'th nerthu,
cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.